RHAN 6OFFERYN LLYWODRAETHU, STAFFIO, CYNGHORAU YSGOL A STATWS ELUSENNOL

Gofynion eraill mewn perthynas ag offerynnau llywodraethu43

1

Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau y darperir (yn ddi-dâl) i'r personau a nodir ym mharagraff (2)–

a

copi o offeryn llywodraethu'r ffederasiwn; a

b

os gwneir unrhyw amrywiad i offeryn llywodraethu'r ffederasiwn, fersiwn gyfunol o'r offeryn llywodraethu yn ymgorffori pob amrywiad a wnaed gan yr awdurdod lleol (ac eithrio unrhyw amrywiadau nad ydynt bellach mewn grym).

2

I'r personau canlynol y dylid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—

a

pob aelod o gorff llywodraethu'r ffederasiwn;

b

pennaeth y ffederasiwn neu bennaeth pob ysgol ffederal, pa un a yw'r pennaeth yn aelod o'r corff llywodraethu ai peidio;

c

ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig ag ysgol ffederal;

ch

yn achos un o ysgolion ffederal yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol ffederal yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol;

d

yn achos unrhyw ysgol ffederal arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol; ac

dd

Gweinidogion Cymru.