RHAN 6OFFERYN LLYWODRAETHU, STAFFIO, CYNGHORAU YSGOL A STATWS ELUSENNOL

Statws elusennol ffederasiynau46

1

Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig sefydledig yn elusen sy'n elusen esempt at ddibenion Deddf Elusennau 199320, ond nid yw corff llywodraethu unrhyw ffederasiwn yn elusen os yw'r ffederasiwn yn cynnwys, yn unig, ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir.

2

Cyn belled ag y bo'n elusen, rhaid i unrhyw sefydliad—

a

a weinyddir gan neu ar ran unrhyw gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig sefydledig; a

b

a sefydlwyd at ddibenion cyffredinol, neu unrhyw bwrpas arbennig, neu mewn cysylltiad â'r corff hwnnw neu'r ffederasiwn hwnnw neu unrhyw ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig sefydledig o fewn y ffederasiwn hwnnw;

hefyd fod yn elusen esempt at ddibenion Deddf Elusennau 1993.

3

Yn y rheoliad hwn, mae i “elusen” a “sefydliad” yr un ystyron ag y sydd i “charity” ac “institution”, yn eu trefn, yn Neddf Elusennau 1993.