RHAN 8CYFARFODYDD A THRAFODION CYRFF LLYWODRAETHU
Cyhoeddi cofnodion a phapurau57
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copïau o'r canlynol ar gael i'w harchwilio ym mhob un o'r ysgolion ffederal, gan unrhyw berson â diddordeb—
a
agenda pob cyfarfod;
b
cofnodion wedi'u llofnodi o bob cyfarfod o'r fath;
c
unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath; ac
ch
cofnodion drafft unrhyw gyfarfod, os cymeradwywyd hwy gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw.
2
Caiff y corff llywodraethu dynnu allan o unrhyw eitem y mae'n ofynnol trefnu iddi fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud ag—
a
person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal; neu
b
disgybl yn yr ysgol sy'n cael ei enwi, neu un sy'n gwneud cais am le mewn ysgol ffederal; neu
c
unrhyw fater arall y mae'r corff llywodraethu yn fodlon y dylai barhau yn gyfrinachol oherwydd ei natur.
3
Rhaid i bob tudalen o gopïau a gyhoeddir o unrhyw gofnodion drafft o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd nodi mai cofnodion drafft ydynt.