- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
58.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caiff y corff llywodraethu, drwy benderfyniad, atal llywodraethwr o'r cyfan neu o rai o gyfarfodydd y corff llywodraethu, neu o bwyllgor, am gyfnod penodol o hyd at chwe mis am un neu ragor o'r rhesymau canlynol—
(a)bod y llywodraethwr, ac yntau'n berson y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal, yn destun achos disgyblu mewn perthynas â'i gyflogaeth;
(b)bod y llywodraethwr yn destun achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys, y gallai ei ganlyniad olygu y caiff ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o dan Atodlen 7;
(c)bod y llywodraethwr wedi gweithredu mewn modd sy'n anghyson ag ethos neu gymeriad crefyddol ysgol ffederal ac wedi dwyn neu'n debygol o ddwyn anfri ar y ffederasiwn, ysgol ffederal, y corff llywodraethu neu ar ei swydd; neu
(ch)bod y llywodraethwr wedi torri ei ddyletswydd o gyfrinachedd i'r ffederasiwn neu ysgol ffederal neu i unrhyw aelod o'r staff neu i unrhyw ddisgybl yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal.
(2) Ni fydd penderfyniad i atal llywodraethwr o'i swydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 54(7).
(3) Cyn y cymerir pleidlais ar benderfyniad i atal llywodraethwr, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig y penderfyniad ddatgan yn y cyfarfod ei resymau dros wneud hynny, a rhaid rhoi cyfle i'r llywodraethwr sy'n destun y penderfyniad wneud datganiad yn ymateb cyn mynd allan o'r cyfarfod yn unol â rheoliad 72(2).
(4) Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n effeithio ar hawl llywodraethwr a ataliwyd–
(a)i gael hysbysiadau o gyfarfodydd y corff llywodraethu, ac agendâu ac adroddiadau neu bapurau eraill ar eu cyfer; na
(b)i fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu a gynullir yn unol â rheoliad 38 i ystyried ei ddiswyddo;
yn ystod cyfnod ei ataliad.
(5) Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n rhwystro corff llywodraethu rhag atal llywodraethwr a ataliwyd o dan baragraff (1) am gyfnod neu gyfnodau penodol pellach, pa un a yw am yr un rheswm â'r atal gwreiddiol ai peidio, a bydd paragraffau (1) i (4) yn gymwys i bob ataliad.
(6) Ni chaiff llywodraethwr ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 7 am beidio â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r corff llywodraethu tra bo wedi ei atal o dan y rheoliad hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: