RHAN 8CYFARFODYDD A THRAFODION CYRFF LLYWODRAETHU
Dirprwyo swyddogaethau59
1
Yn ddarostyngedig i reoliad 60 o'r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 199825 a rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 200026, caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw rai o'i swyddogaethau—
a
i bwyllgor;
b
i unrhyw lywodraethwr; neu
c
i bennaeth y ffederasiwn neu bennaeth ysgol ffederal (pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio).
2
Pan fo corff llywodraethu wedi dirprwyo swyddogaethau ni fydd hynny yn rhwystro'r corff llywodraethu rhag arfer y swyddogaethau hynny.
3
Rhaid i'r corff llywodraethu adolygu yn flynyddol y modd yr arferir swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo.