xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8CYFARFODYDD A THRAFODION CYRFF LLYWODRAETHU

Dirprwyo swyddogaethau

59.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 60 o'r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998(1) a rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(2), caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw rai o'i swyddogaethau—

(a)i bwyllgor;

(b)i unrhyw lywodraethwr; neu

(c)i bennaeth y ffederasiwn neu bennaeth ysgol ffederal (pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio).

(2Pan fo corff llywodraethu wedi dirprwyo swyddogaethau ni fydd hynny yn rhwystro'r corff llywodraethu rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(3Rhaid i'r corff llywodraethu adolygu yn flynyddol y modd yr arferir swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo.

(1)

O.S. 1998/2535, fel y'i diwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2243 (Cy.3)) a chan Reoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2912 (Cy.209)).

(2)

O.S. 2000/3027 (Cy.195) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1396 (Cy.138)) a chan Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2913 (Cy.210)).