- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
64.—(1) Rhaid i swyddogaethau canlynol corff llywodraethu ffederasiwn gael eu dirprwyo i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a diswyddo staff—
(a)pan fo ysgol ffederal yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol, y penderfyniad cychwynnol o dan reoliad 17(1) o'r Rheoliadau Staffio (fel y'u haddaswyd gan Atodlen 8), y dylai unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod lleol i weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal beidio â gweithio yno;
(b)pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, y penderfyniad cychwynnol y dylid terfynu contract cyflogaeth person a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal â'r corff llywodraethu neu na ddylid adnewyddu ei gontract (ac eithrio pan fo'r diswyddo yn unol â chyfarwyddyd yr awdurdod lleol o dan baragraff 7 o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2002); a
(c)gwrando ar sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan y paragraff hwn.
(2) Rhaid dirprwyo gwrandawiad unrhyw apêl mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan baragraff (1) i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.
(3) Rhaid i'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys o leiaf dri llywodraethwr, ond pan wneir honiadau yn erbyn aelod o'r staff sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant, rhaid i'r pwyllgor gynnwys o leiaf ddau lywodraethwr a pherson annibynnol nad yw'n llywodraethwr.
(4) Rhaid i'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys o leiaf gynifer o lywodraethwyr â'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl a phan wneir honiadau yn erbyn aelod o'r staff sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant, rhaid i'r pwyllgor gynnwys person annibynnol nad oedd yn gysylltiedig â phenderfyniad y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff.
(5) At ddibenion paragraffau (3) a (4), mae person i'w ystyried yn annibynnol yn yr amgylchiadau canlynol—
(a)pan nad yw'r person yn un o lywodraethwyr y ffederasiwn neu ysgol ffederal;
(b)pan nad yw'r person yn rhiant disgybl cyfredol neu flaenorol yn yr ysgol ffederal;
(c)pan nad yw'r person yn aelod cyfredol neu flaenorol o'r staff yn y ffederasiwn neu'r ysgol ffederal sydd dan sylw;
(ch)pan nad yw'r person yn gyflogedig ar y pryd gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol ffederal sydd dan sylw.
(6) Mae'r cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgorau yr un nifer ag isafswm y gofynion ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgorau hynny a bennir yn y rheoliad hwn.
(7) Pan fo'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo yn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor disgyblu a diswyddo staff, ni chaiff unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.
(8) Ni chaiff pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal na disgybl-lywodraethwr cyswllt fod yn aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff nac o'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.
(9) Ni fydd gan unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff na'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo nad yw'n llywodraethwr hawl i bleidleisio yn unrhyw drafodion y pwyllgor dan sylw, ac eithrio'r aelod annibynnol yn y naill bwyllgor neu'r llall, a benodwyd yn unol â pharagraff (3) neu (4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: