- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 72
1.—(1) At ddibenion rheoliad 72(2), mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—
(a)pan fo person perthnasol wedi ei enwebu neu ei benodi i swydd gan berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu
(b)pan fo person perthnasol yn bartner busnes i berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu
(c)pan fo gan berthynas i berson perthnasol (gan gynnwys ei briod, ei bartner sifil o fewn ystyr “civil partner” yn Neddf Partneriaethau Sifil 2004(1) neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai'n briod neu'n bartner sifil iddo), a'r person hwnnw'n gwybod hynny, fuddiant o'r fath neu y câi ei drin fel petai ganddo fuddiant o'r fath.
(2) At ddibenion rheoliad 72(2) nid yw person perthnasol i'w drin fel petai ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw fater—
(a)ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater yn fwy na buddiant cyffredinol y rhai hynny y telir iddynt am weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal;
(b)yn unig oherwydd iddo gael ei enwebu neu ei benodi i'r swydd gan unrhyw gorff cyhoeddus, neu ei fod yn aelod o gorff o'r fath, neu'n cael ei gyflogi gan gorff o'r fath; neu
(c)yn unig oherwydd ei fod yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall os nad oes iddo unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau o eiddo'r gorfforaeth honno neu gorff arall.
(3) Ni rwystrir llywodraethwr, oherwydd ei fuddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried a phleidleisio ynghylch cynigion i'r corff llywodraethu gymryd yswiriant i ddiogelu'r aelodau rhag rhwymedigaethau yr ânt iddynt sy'n deillio o'u swydd, ac ni rwystrir y corff llywodraethu, oherwydd buddiannau ariannol ei aelodau, rhag sicrhau yswiriant o'r fath a thalu'r premiymau.
(4) Ni rwystrir llywodraethwr rhag ystyried neu bleidleisio ynghylch unrhyw gynnig sy'n ymwneud â lwfansau sydd i'w talu'n unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005(2) oherwydd bod ganddo fuddiant mewn taliadau o lwfansau o'r fath i aelodau'r corff llywodraethu yn gyffredinol, ond rhaid i aelod o gorff llywodraethu neu o unrhyw bwyllgor o gorff llywodraethu fynd allan o gyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir a ddylai ef gael lwfans arbennig, swm unrhyw daliad iddo neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans sydd wedi ei dalu iddo, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar y mater.
2.—(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal ac un o'r canlynol yn fater i'w ystyried—
(a)ei benodiad, ei ailbenodiad, ei ataliad dros dro neu ei ddiswyddiad ei hun fel aelod o'r corff llywodraethu neu bwyllgor;
(b)ei benodiad neu ei ddiswyddiad ei hun fel clerc, cadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu neu fel clerc neu gadeirydd pwyllgor;
(c)os yw'n noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 5 ynghylch y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwr-lywodraethwyr.
(2) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid trin buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 72(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau'r corff llywodraethu.
3.—(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol, y telir iddo am weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal, ac eithrio fel pennaeth, yn bresennol mewn cyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo tâl neu werthuso perfformiad unrhyw berson penodol a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu'r ysgol ffederal yn fater sydd o dan ystyriaeth.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth ffederasiwn neu ysgol ffederal yn bresennol mewn cyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo tâl neu werthuso perfformiad y pennaeth ei hunan yn fater sydd o dan ystyriaeth.
(3) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid trin buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 72(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau'r corff llywodraethu.
4. Pan fo person perthnasol a gyflogir i weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal yn bresennol mewn cyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal a phenodi olynydd i'r person hwnnw yn fater dan ystyriaeth, rhaid iddo adael y cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater dan sylw, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r mater hwnnw.
5. Nid yw'r ffaith bod person yn llywodraethwr neu'n aelod o bwyllgor corff llywodraethu mewn mwy nag un ffederasiwn i'w ystyried, o dan unrhyw amgylchiadau, yn achos o wrthdaro rhwng buddiannau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: