Rheoliad 32

ATODLEN 7Cymwysiadau ac anghymwysiadau

Cyffredinol

1.  Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn llywodraethwr onid yw'n 18 oed neu'n hŷn ar ddyddiad ei ethol neu ei benodi.

2.  Ni chaiff unrhyw berson ar unrhyw adeg ddal mwy nag un swydd llywodraethwr yn yr un ysgol.

3.  Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw'r ffaith bod person yn gymwys i'w ethol neu ei benodi'n llywodraethwr o gategori penodol mewn ffederasiwn yn ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau'n llywodraethwr o unrhyw gategori arall yn y ffederasiwn hwnnw.

Anhwylder meddyliol

4.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo'n agored i gael ei gadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1) neu o dan unrhyw ailddeddfiad neu addasiad statudol o'r Ddeddf honno a fydd mewn grym o bryd i'w gilydd.

Methiant i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw lywodraethwr nad yw'n llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd.

(2Os bydd llywodraethwr heb ganiatâd y corff llywodraethu, yn methu â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff am gyfnod di-dor o chwe mis, sy'n cychwyn ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o'r fath lle y methodd â bod yn bresennol, bydd y llywodraethwr hwnnw, pan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben, wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr yn y ffederasiwn hwnnw.

(3Pan fo llywodraethwr wedi anfon ymddiheuriad at glerc y corff llywodraethu cyn cyfarfod nad yw'n bwriadu bod yn bresennol ynddo, rhaid i gofnodion y cyfarfod gofnodi a oedd y corff llywodraethu wedi cydsynio i'r absenoldeb ai peidio, a rhaid anfon copi o'r cofnodion at y llywodraethwr dan sylw i'w breswylfa arferol.

(4Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd rhag bod yn llywodraethwr ffederasiwn o dan is-baragraff (2) yn gymwys i'w ethol, i'w enwebu, nac i'w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori yn y ffederasiwn hwnnw yn ystod y deuddeng mis yn union ar ôl ei anghymhwyso o dan is-baragraff (2).

Methdaliad

6.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn–

(a)os yw wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr neu os yw ei stad wedi ei hatafaelu ac yntau (yn y naill achos neu'r llall) heb ei ryddhau o fethdaliad ac os nad yw'r gorchymyn methdalu wedi ei ddirymu neu ei ddadwneud neu os bod cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled yn gymwys mewn perthynas ag ef; neu

(b)os yw wedi gwneud compownd neu drefniant â'i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth i'w gredydwyr, ac yntau heb ei ryddhau mewn perthynas â hynny.

Anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau

7.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo'n destun—

(a)gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(2);

(b)gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989(3);

(c)ymgymeriad anghymhwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(4); neu

(ch)gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 1986(5) (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).

Anghymhwyso ymddiriedolwyr elusennau

8.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn os yw–

(a)wedi ei ddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu'r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddygiad neu gamreoli yr oedd yn gyfrifol amdano neu'n ymwybodol ohono wrth weinyddu'r elusen, neu y cyfrannodd ato neu a hwylusodd drwy ei ymddygiad; neu

(b)os yw wedi ei ddiswyddo, o dan adran 34 o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005(6) (pwerau'r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi

9.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo—

(a)wedi ei gynnwys yn y rhestr o athrawon a rhai fu'n gweithio gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir arnynt o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(7);

(b)yn destun cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002;

(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(8);

(ch)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989(9) ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd;

(d)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(10);

(dd)wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(11);

(e)yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf 2002(12); neu

(f)wedi'i anghymhwyso, yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 1996, rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu athrawes neu gyflogai arall mewn unrhyw ysgol.

Collfarnau troseddol

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn pan fo unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) yn gymwys iddo.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi bod yn effeithiol neu, yn ôl fel y digwydd, y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd; neu

(b)ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd;

wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (pa un a yw'r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb y dewis o dalu dirwy.

(3Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd ef, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd a hanner.

(4Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd.

(5At ddibenion is-baragraffau (2) i (4), rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o'r fath, am drosedd na fyddai, pe bai'r ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, wedi ei hystyried yn drosedd yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith mewn grym ar yr adeg yr oedd y ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd.

(6Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd; neu

(b)ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd;

wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 1996(13) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(14) (niwsans neu aflonyddwch ar fangre addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.

Llywodraethwyr mwy na dwy ysgol

11.—(1Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, ni chaiff unrhyw berson ddal swydd llywodraethwr mewn mwy na dau ffederasiwn ar unrhyw adeg.

(2At ddibenion is-baragraff (1) nid ystyrir swyddi llywodraethwyr ex officio, swyddi llywodraethwyr y mae'r Rheoliadau Ysgolion Newydd a Gynhelir yn gymwys iddynt nac unrhyw benodiad o dan adrannau 16, 16A, 18 neu 18A o Ddeddf 1998.

Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol

12.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ar unrhyw adeg pan fydd yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i wneud cais o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(15) am dystysgrif cofnodion troseddol.

Hysbysu'r clerc

13.  Os yw person—

(a)wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn yn rhinwedd unrhyw un o'r paragraffau 6 i 11; a

(b)yn llywodraethwr neu os bwriedir iddo fod yn llywodraethwr;

rhaid iddo hysbysu clerc y corff llywodraethu o'r ffaith honno.

(7)

1999 p.14; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).

(10)

2006 p.21.

(11)

2006 p.47.

(12)

Mewnosodwyd adran 167A gan adran 169 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) ond nid yw eto mewn grym.

(13)

Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 163 i Atodlen 30 i Ddeddf 1998 a chan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 i'r Ddeddf honno, a chan adran 6 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) ac Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

(14)

1992 p.13; mewnosodwyd gan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 i'r Ddeddf honno.

(15)

1997 p.50; mewnosodwyd gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15). Cafodd is-adrannau (2A) a (12) eu mewnosod, a chafodd is-adran (6) ei diwygio, gan Orchymyn Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) (Cyfathrebu Electronig) 2009 (O.S. 2009/203). Disodlwyd paragraffau (a) a (b), fel y'i hymddeddfwyd yn wreiddiol gan baragraff 149 o Atodlen 16 i Deddf y Lluoedd Arfog 2006 (p.52), gan baragraff (a) o is-adran (10).