Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010

Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol

12.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ar unrhyw adeg pan fydd yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i wneud cais o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(1) am dystysgrif cofnodion troseddol.

(1)

1997 p.50; mewnosodwyd gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15). Cafodd is-adrannau (2A) a (12) eu mewnosod, a chafodd is-adran (6) ei diwygio, gan Orchymyn Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) (Cyfathrebu Electronig) 2009 (O.S. 2009/203). Disodlwyd paragraffau (a) a (b), fel y'i hymddeddfwyd yn wreiddiol gan baragraff 149 o Atodlen 16 i Deddf y Lluoedd Arfog 2006 (p.52), gan baragraff (a) o is-adran (10).