ATODLEN 7Cymwysiadau ac anghymwysiadau
Anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau7
Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo'n destun—
a
gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 198651;
b
gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 198952;
c
ymgymeriad anghymhwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 200253; neu
ch
gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 198654 (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).