xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo'n destun—
(a)gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(1);
(b)gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989(2);
(c)ymgymeriad anghymhwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(3); neu
(ch)gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 1986(4) (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).