ATODLEN 7Cymwysiadau ac anghymwysiadau
Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi9
Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo—
a
wedi ei gynnwys yn y rhestr o athrawon a rhai fu'n gweithio gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir arnynt o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 199956;
b
yn destun cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002;
c
wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 200057;
ch
wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 198958 ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd;
d
wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 200659;
dd
wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200660;
e
yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf 200261; neu
f
wedi'i anghymhwyso, yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 1996, rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu athrawes neu gyflogai arall mewn unrhyw ysgol.