RHAN 3Gweithredu yn dilyn methiant

Darparu gwybodaeth14.

Os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod cyflenwad preifat yn ei ardal yn creu perygl posibl i iechyd dynol, rhaid iddo gymryd camau priodol i sicrhau bod y bobl sy'n debygol o yfed dŵr ohono—

(a)

yn cael gwybod bod y cyflenwad yn creu perygl posibl i iechyd dynol;

(b)

pan fo modd, yn cael gwybod pa mor ddifrifol yw'r perygl posibl; ac

(c)

yn cael cyngor i'w galluogi i leihau unrhyw berygl posibl o'r fath.

Ymchwilio15.

Rhaid i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad i ganfod yr achos os yw'n amau bod y cyflenwad yn afiachus neu nad yw paramedr dangosydd yn cydymffurfio â'r crynodiadau neu'r gwerthoedd yn Rhan 2 o Atodlen 1.

Gweithdrefn yn dilyn ymchwiliad16.

(1)

Unwaith y bydd awdurdod lleol wedi cynnal ymchwiliad ac wedi canfod achos afiachusrwydd y dŵr, rhaid iddo weithredu yn unol â'r rheoliad hwn.

(2)

Os yw achos y dŵr afiachus yn y pibwaith o fewn annedd sengl, rhaid iddo roi gwybod yn ddi-oed i'r bobl a wasanaethir a chynnig cyngor iddynt ynghylch y mesurau sy'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd dynol.

(3)

Fel arall, os na all yr awdurdod lleol ddatrys y broblem yn anffurfiol—

(a)

caiff yr awdurdod lleol, os gwneir cais, ganiatáu awdurdodiad yn unol â rheoliad 17(2) os bodlonir yr amodau yn y rheoliad hwnnw; a

(b)

os nad yw'n caniatáu awdurdodiad, rhaid i'r awdurdod lleol (neu, yn achos cyflenwad i annedd breifat sengl, caiff yr awdurdod lleol) gyflwyno hysbysiad, naill ai'n unol ag adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 19919 neu o dan reoliad 18 os bodlonir yr amodau yn y rheoliad hwnnw.

Awdurdodi safonau gwahanol17.

(1)

Caiff unrhyw berson wneud cais i awdurdod lleol am ganiatáu awdurdodiad o dan y rheoliad hwn.

(2)

Caiff awdurdod lleol ganiatáu awdurdodiad ar gyfer safonau gwahanol o dan y rheoliad hwn —

(a)

os yr unig achos sy'n peri bod y dŵr yn afiachus yw na chydymffurfir â pharamedr yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1 (paramedrau cemegol);

(b)

os yw'r awdurdod lleol wedi ymgynghori gyda'r holl ddefnyddwyr dŵr y mae'r awdurdodiad yn effeithio arnynt a chyda'r Asiantaeth Diogelu iechyd ar gyfer yr ardal, ac wedi cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth;

(c)

os nad yw caniatáu'r awdurdodiad yn achosi risg i iechyd dynol; ac

(d)

os na ellir cynnal y cyflenwad dŵr drwy unrhyw ddull rhesymol arall.

(3)

Rhaid i awdurdodiad wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn gweithredu dros gyfnod o amser i sicrhau y cydymffurfir â'r paramedrau angenrheidiol, a rhaid iddo nodi —

(a)

y person y caniateir yr awdurdodiad iddo;

(b)

y cyflenwad sydd dan sylw;

(c)

y sail ar gyfer caniatáu'r awdurdodiad;

(ch)

y paramedrau sydd dan sylw, y canlyniadau monitro perthnasol blaenorol a'r gwerthoedd uchaf a ganiateir o dan yr awdurdodiad;

(d)

yr ardal ddaearyddol, amcangyfrif o faint y dŵr a gyflenwir bob diwrnod, nifer y personau y cyflenwir dŵr iddynt, a pha un a effeithir ai peidio ar unrhyw fenter cynhyrchu bwyd;

(dd)

cynllun monitro priodol ynghyd â chynnydd yn amlder y monitro pan fo angen;

(e)

crynodeb o'r cynllun i weithredu'r mesurau unioni angenrheidiol, gan gynnwys amserlen ar gyfer cyflawni'r gwaith, amcangyfrif o'r gost, a darpariaethau ar gyfer adolygu cynnydd; ac

(f)

cyfnod parhad yr awdurdodiad.

(4)

Os yw awdurdod lleol yn caniatáu awdurdodiad, a'r person y'i caniateir iddo yn gweithredu yn unol â'r amserlen gwaith a bennir yn yr awdurdodiad, ni chaiff yr awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 ynglŷn â'r materion a bennir yn yr awdurdodiad heb yn gyntaf ddiwygio neu ddirymu'r awdurdodiad.

(5)

Rhaid i gyfnod parhad yr awdurdodiad fod mor fyr ag y bo modd, ac ni chaiff beth bynnag fod yn hwy na thair blynedd.

(6)

Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y bobl a wasanaethir yn cael gwybod mewn da bryd am yr awdurdodiad ac amodau'r awdurdodiad, a phan fo angen, rhaid iddo sicrhau y rhoddir cyngor i grwpiau penodol a allai fod dan risg arbennig oherwydd yr awdurdodiad.

(7)

Os yw'r cyflenwad yn fwy na 1,000 mΔ y diwrnod ar gyfartaledd, neu'n gwasanaethu mwy na 5,000 o bersonau, rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r awdurdodiad at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru ac at Weinidogion Cymru o fewn un mis.

(8)

Rhaid i'r awdurdod lleol gadw hynt y gwaith unioni dan arolwg.

(9)

Os oes angen, gyda chaniatâd ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, caiff yr awdurdod lleol ganiatáu ail awdurdodiad am hyd at dair blynedd ychwanegol, ond os yw'n gwneud hynny rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon copi o'r awdurdodiad ynghyd â sail y penderfyniad at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru ac at Weinidogion Cymru.

(10)

Caiff yr awdurdod lleol ddirymu neu ddiwygio'r awdurdodiad ar unrhyw adeg, ac yn benodol, caiff ei ddiddymu neu ei amrywio os na chedwir at yr amserlen ar gyfer y gwaith unioni.