ATODLEN 2Monitro

RHAN 1Monitro drwy wiriadau

Samplu

1.

(1)

Rhaid i awdurdod lleol ymgymryd â monitro drwy wiriadau yn unol â'r Rhan hon.

(2)

Ystyr monitro drwy wiriadau yw samplu ar gyfer pob paramedr yn Nhabl 1 yn yr amgylchiadau a restrir yn y tabl hwnnw er mwyn—

(a)

penderfynu a yw'r dŵr yn cydymffurfio â'r crynodiadau neu werthoedd yn Atodlen 1;

(b)

darparu gwybodaeth am ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac

(a)

penderfynu pa mor effeithiol fu'r driniaeth a roddwyd i'r dŵr, gan gynnwys y diheintio.

Tabl 1Monitro drwy wiriadau

Paramedr

Amgylchiadau

Alwminiwm

Pan ddefnyddir fel clystyrydd neu pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb

Amoniwm

Ym mhob cyflenwad

Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)

Pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb

Bacteria colifform

Ym mhob cyflenwad

Cyfrifau cytrefi

Ym mhob cyflenwad

Lliw

Ym mhob cyflenwad

Dargludedd

Ym mhob cyflenwad

Escherichia coli (E. coli)

Ym mhob cyflenwad

Crynodiad ïonau hydrogen

Ym mhob cyflenwad

Haearn

Pan ddefnyddir fel clystyrydd neu pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb

Manganîs

Pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb

Nitrad

Pan arferir cloramineiddio

Nitraid

Pan arferir cloramineiddio

Arogl

Ym mhob cyflenwad

Pseudomonas aeruginosa

Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion yn unig

Blas

Ym mhob cyflenwad

Cymylogrwydd

Ym mhob cyflenwad