ATODLEN 2Monitro

RHAN 1Monitro drwy wiriadau

Samplu1

1

Rhaid i awdurdod lleol ymgymryd â monitro drwy wiriadau yn unol â'r Rhan hon.

2

Ystyr monitro drwy wiriadau yw samplu ar gyfer pob paramedr yn Nhabl 1 yn yr amgylchiadau a restrir yn y tabl hwnnw er mwyn—

a

penderfynu a yw'r dŵr yn cydymffurfio â'r crynodiadau neu werthoedd yn Atodlen 1;

b

darparu gwybodaeth am ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac

a

penderfynu pa mor effeithiol fu'r driniaeth a roddwyd i'r dŵr, gan gynnwys y diheintio.

Tabl 1Monitro drwy wiriadau

Paramedr

Amgylchiadau

Alwminiwm

Pan ddefnyddir fel clystyrydd neu pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb

Amoniwm

Ym mhob cyflenwad

Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)

Pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb

Bacteria colifform

Ym mhob cyflenwad

Cyfrifau cytrefi

Ym mhob cyflenwad

Lliw

Ym mhob cyflenwad

Dargludedd

Ym mhob cyflenwad

Escherichia coli (E. coli)

Ym mhob cyflenwad

Crynodiad ïonau hydrogen

Ym mhob cyflenwad

Haearn

Pan ddefnyddir fel clystyrydd neu pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb

Manganîs

Pan fo'r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb

Nitrad

Pan arferir cloramineiddio

Nitraid

Pan arferir cloramineiddio

Arogl

Ym mhob cyflenwad

Pseudomonas aeruginosa

Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion yn unig

Blas

Ym mhob cyflenwad

Cymylogrwydd

Ym mhob cyflenwad

Amlder y samplu2

1

Rhaid samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 2.

Tabl 2Amlder samplu ar gyfer monitro drwy wiriadau

Cyfaint mewn m3/diwrnod

Amlder samplu bob blwyddyn

≤ 10

1

> 10 ≤ 100

2

> 100 ≤ 1,000

4

> 1,000 ≤ 2,000

10

> 2,000 ≤ 3,000

13

> 3,000 ≤ 4,000

16

> 4,000 ≤ 5,000

19

> 5,000 ≤ 6,000

22

> 6,000 ≤ 7,000

25

> 7,000 ≤ 8,000

28

> 8,000 ≤ 9,000

31

> 9,000 ≤ 10,000

34

> 10,000

4 + 3 am bob 1,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i'r lluosrif agosaf o 1,000 m3/diwrnod)

2

Caiff awdurdod lleol leihau amlder y samplu ar gyfer paramedr i amlder o ddim llai na'r hanner—

a

os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod ansawdd y dŵr yn y cyflenwad yn annhebygol o ddirywio;

b

yn achos ïonau hydrogen, os nad fu gwerth pH y paramedr yn is na 6.5 nac yn uwch na 9.5; ac

c

ym mhob achos arall, os yw canlyniadau'r samplau a gymerwyd at ddibenion monitro'r paramedr dan sylw, ym mhob un o ddwy flynedd ddilynol, yn gyson ac yn sylweddol is na'r crynodiadau neu'r gwerthoedd a bennir yn Atodlen 1.

2

Caiff yr awdurdod lleol bennu amlder uwch ar gyfer unrhyw baramedr os yw o'r farn ei bod yn briodol cymryd i ystyriaeth ganfyddiadau unrhyw asesiad risg, ac yn ychwanegol caiff fonitro unrhyw beth arall a nodir yn yr asesiad risg.

3

Er gwaethaf y darpariaethau yn is-baragraff (2), rhaid cymryd o leiaf 1 sampl y flwyddyn.