Search Legislation

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 683 (Cy.66)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

4 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2010

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 2

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 39(2) o'r Ddeddf honno ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn a'r cyrff hynny o gyfrifwyr y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol:

Enwi

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2010.

Cychwyn

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Mawrth 2010.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo, yn rhinwedd cytundeb yr ymrwymwyd ynddo eisoes, ac sy'n parhau mewn grym hyd at neu ar ôl y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn, rhwng corff llywodraeth leol a'r canlynol—

(a)cyflogai hŷn; neu

(b)swyddog heddlu perthnasol,

mae dyletswydd o gyfrinachedd yn ddyledus gan y corff o ran y tâl a delir i'r cyflogai hŷn neu'r swyddog heddlu perthnasol neu'r tâl a dderbynnir ganddynt.

(3Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, nid yw'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 6 a 7 o'r Rheoliadau hyn i reoliad 7 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005(3) (“Rheoliadau 2005”) yn dod i rym tan 1 Ebrill 2010, i'r graddau y byddai'r diwygiadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i dorri dyletswydd cyfrinachedd sy'n ddyledus gan y corff llywodraeth leol, o dan y cytundeb yn rhinwedd yr hwn y mae'r paragraff hwn yn gymwys, mewn perthynas â thâl sydd i'w gynnwys yng nghyfrifon y corff llywodraeth leol.

(4Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “corff llywodraeth leol” yr un ystyr ag a roddir iddo yn Rheoliadau 2005; a

(b)mae i “cyflogai hŷn”, “swyddog heddlu perthnasol” a “tâl” yr ystyr a roddir i'r ymadroddion hynny gan reoliad 7A(4) a fewnosodir yn Rheoliadau 2005 gan reoliad 7 o'r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005

3.  Diwygir Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 yn unol â rheoliadau 4 i 18.

Dehongli a chymhwyso

4.—(1Yn rheoliad 2(1) (dehongli a chymhwyso), mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y mannau priodol—

  • ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw cyd-bwyllgor o ddau neu fwy o awdurdodau lleol;, ac

  • ystyr “is-gydbwyllgor” (“minor joint committee”) yw cyd-bwyllgor y mae ei incwm neu wariant gros (p'un bynnag yw'r uchaf) ar gyfer y flwyddyn ac ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny yn llai na £1,000,000;.

(2Ar ôl rheoliad 2(2), mewnosoder—

(2A) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at arfer priodol(4) o ran bwrdd draenio mewnol, yn golygu'r arferion cyfrifyddu a geir yn “Governance and Accountability in Internal Drainage Boards in England: A Practitioners Guide 2006” (fel y'i diwygiwyd yn Nhachwedd 2007) a ddyroddwyd ar y cyd gan Gymdeithas yr Awdurdodau Draenio ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (ac mae'r cyfryw ddogfen, drwy'r Rheoliadau hyn, i'w chymhwyso i fwrdd draenio mewnol yng Nghymru fel y mae'n gymwys i fwrdd draenio mewnol yn Lloegr)..

Cofnodion cyfrifyddu a systemau rheoli

5.  Yn rheoliad 5(3)(c) (cofnodion cyfrifyddu a systemau rheoli), yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru” ac yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

Datganiad o gyfrifon

6.  Yn lle rheoliad 7 rhodder—

7.(1) Rhaid i gorff y mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys iddo baratoi yn unol ag arferion priodol o ran cyfrifon ddatganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn, gyda rhagair esboniadol, y mae'n rhaid iddo gynnwys y datganiadau cyfrifyddu canlynol hynny sy'n berthnasol i swyddogaethau'r corff—

(a)cyfrif refeniw tai;

(b)cronfa bensiwn diffoddwyr tân, os oes un;

(c)unrhyw ddatganiadau eraill sy'n ymwneud â phob cronfa arall y mae'n ofynnol i'r corff o dan unrhyw ddarpariaeth statudol gadw cyfrif ar wahân ynglŷn â hi.

(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r cyrff canlynol—

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

(b)cyd-awdurdod;

(c)pwyllgor awdurdod lleol (gan gynnwys cyd-bwyllgor nad yw'n is-gydbwyllgor);

(ch)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol;

(d)awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu;

(dd)awdurdod tân ac achub.

(3) O ran cyngor cymuned, os yw'r incwm neu'r gwariant gros (p'un bynnag yw'r uchaf) ar gyfer y flwyddyn yn £1,000,000 neu fwy, ac os oedd felly ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny, bydd gofynion paragraff (1) uchod a rheoliad 7A yn gymwys i'r cyngor hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw.

(4) Os yw'n ofynnol i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol gan adran 74 o Ddeddf 1989 gynnal Cyfrif Refeniw Tai, rhaid i'r datganiad o gyfrifon sy'n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys nodyn a baratowyd yn unol ag arferion priodol mewn perthynas ag unrhyw Lwfans Atgyweiriadau Mawr a dalwyd i'r cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol o dan adran 31 o Ddeddf 2003 yn rhoi manylion incwm a gwariant ac unrhyw falans ar unrhyw gyfrif a ddefnyddiwyd i gofnodi'r grant..

Datganiad o dâl

7.  Ar ôl rheoliad 7, mewnosoder—

Datganiad o dâl

7A.(1) Rhaid bod nodyn yn mynd gyda'r datganiad o gyfrifon sy'n ofynnol gan reoliad 7(1) sy'n nodi—

(a)ac eithrio mewn perthynas â phersonau y mae paragraff (b) yn gymwys iddynt, nifer y cyflogeion neu swyddogion heddlu yn y flwyddyn y mae'r cyfrifon yn ymwneud â hi yr oedd eu tâl yn dod o fewn pob un o'r bachau graddfa mewn lluosrifau o £5,000 gan ddechrau gyda £60,000;

(b)y tâl, a osodir yn unol â'r categorïau a restrir ym mharagraff (3), gan gorff llywodraeth leol yn ystod y flwyddyn ariannol berthnasol ar gyfer—

(i)cyflogeion hŷn, neu

(ii)swyddogion heddlu perthnasol,

o ran eu cyflogaeth gan y corff llywodraeth leol neu yn rhinwedd eu swydd fel swyddog heddlu, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro.

(2) Rhaid dynodi pwy yw'r personau y mae eu tâl i gael ei nodi o dan baragraff (1)(b) drwy enw'r swydd yn unig, ac eithrio bod yn rhaid dynodi'r personau hynny y mae eu cyflog yn £150,000 y flwyddyn neu fwy wrth eu henw.

(3) Y categorïau yw:

(a)cyfanswm y cyflog, ffioedd neu lwfansau a delir i'r person neu a dderbynnir ganddo;

(b)cyfanswm y bonysau a delir i'r person neu a dderbynnir ganddo;

(c)cyfanswm y symiau a delir fel lwfans treuliau y mae modd codi treth incwm arnynt yn y Deyrnas Unedig ac a dalwyd i'r person neu y gallai'r person eu derbyn;

(ch)cyfanswm unrhyw iawndal am golli cyflogaeth a dalwyd i'r person neu y gallai'r person ei dderbyn, ac unrhyw daliadau eraill a dalwyd i'r person neu y gallai'r person eu derbyn mewn cysylltiad â therfynu ei gyflogaeth gan y corff llywodraeth leol, neu, yn achos swyddog heddlu perthnasol, cyfanswm unrhyw daliad a wnaed i swyddog heddlu perthnasol sy'n peidio â dal swydd cyn diwedd penodiad am dymor penodol;

(d)cyfraniad y corff perthnasol at bensiwn y person;

(dd)cyfanswm gwerth unrhyw fuddiannau yr amcangyfrifir bod y person wedi ei dderbyn ac eithrio mewn arian nad yw'n dod o fewn (a) i (ch) uchod, yw enillion y person, ac a dderbynnir gan y person o ran ei gyflogaeth gan y corff llywodraeth leol neu yn rhinwedd ei swydd fel swyddog heddlu; ac

(e)o ran swyddogion heddlu perthnasol, unrhyw daliadau, p'un a chawsant eu gwneud o dan Reoliadau'r Heddlu 2003(5) neu fel arall, nad ydynt yn dod o fewn (a) i (dd) uchod.

(4) Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cyfraniad at bensiwn y person” yw swm sydd i'w gyfrifo fel a ganlyn—

    (a)

    o ran cyfraniadau i gynllun pensiwn llywodraeth leol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972(6), cyfanswm—

    (i)

    graddfa gyffredin cyfraniad cyflogwr wedi'i phennu mewn tystysgrif graddfeydd ac addasiadau a baratowyd o dan reoliad 36 (prisiadau actiwaraidd a thystysgrifau) o Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Gweinyddu) 2008(7), sef y swm sy'n briodol i'r corff hwnnw wedi'i gyfrifo yn unol â'r dystysgrif a rheoliad 39(4) (cyfraniadau cyflogwr) o'r Rheoliadau hynny, wedi'i luosi â chyflog pensiynadwy'r person; a

    (ii)

    os yw'n gymwys, y swm priodol o fewn ystyr rheoliad 40(8) (taliad cyflogwr yn dilyn penderfyniad i gynyddu aelodaeth neu ddyfarnu pensiwn ychwanegol) o'r Rheoliadau hynny;

    (b)

    o ran cyfraniadau i gynllun pensiwn y diffoddwyr tân a sefydlwyd o dan y Deddfau Gwasanaethau Tân 1947 a 1959(9), canran cyfanswm y cyflog pensiynadwy wedi'i gyfrifo at ddibenion paragraff G2(3) a (4) o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992(10), wedi'i luosi â chyflog pensiynadwy'r person;

    (c)

    o ran cyfraniadau i gynllun pensiwn y diffoddwyr tân a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(11), canran cyfanswm y cyflog pensiynadwy wedi'i gyfrifo at ddibenion paragraffau (2) a (3) o Reol 2 o Ran 13 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(12), wedi'i luosi â chyflog pensiynadwy'r person;

    (ch)

    o ran cyfraniadau i gynlluniau pensiwn yr heddlu a sefydlwyd o dan Reoliadau Pensiynau'r Heddlu 1987(13) neu Reoliadau Pensiynau'r Heddlu 2006(14), canran o'r cyflog pensiynadwy a bennwyd yn rheoliad 5(1) o Reoliadau Cronfa Bensiwn yr Heddlu 2007(15), wedi'i luosi â chyflog pensiynadwy'r person;

  • mae “cyflogai” yn cynnwys deiliad swydd o dan y corff llywodraeth leol, ond nid yw'n cynnwys person sy'n gynghorydd etholedig, ac mae “cyflogaeth” i'w ddehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “swyddog heddlu perthnasol” yw—

    (a)

    o ran heddlu a gynhelir o dan adran 2 o Ddeddf yr Heddlu 1996(16), y prif gwnstabl, a

    (b)

    unrhyw swyddog heddlu hŷn arall y mae ei gyflog yn £150,000 y flwyddyn neu'n fwy;

  • ystyr “tâl” yw pob swm a dalwyd i berson neu a dderbyniwyd ganddo, ac mae'n cynnwys symiau sy'n ddyledus fel lwfansau treuliau (i'r graddau y mae modd codi treth incwm ar y symiau hynny yn y Deyrnas Unedig), ac amcangyfrif o werth ariannol unrhyw fuddiannau eraill a gafodd cyflogai heblaw mewn arian;

  • ystyr “cyflogai hŷn” yw cyflogai y mae ei gyflog yn £150,000 neu fwy y flwyddyn, neu gyflogai y mae ei gyflog yn £60,000 neu fwy y flwyddyn (i'w gyfrifo pro rata am bob cyflogai a gyflogir am lai o oriau nag oriau llawnamser arferol y corff llywodraeth leol o dan sylw) sy'n dod o fewn o leiaf un o'r categorïau canlynol–

    (a)

    person a gyflogir gan gorff llywodraeth leol y mae adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(17) yn gymwys iddo ac–

    (i)

    wedi'i ddynodi'n bennaeth gwasanaeth cyflogedig o dan adran 4 o'r Ddeddf honno;

    (ii)

    mae'n brif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6)(18) o'r Ddeddf honno; neu

    (iii)

    mae'n brif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o'r Ddeddf honno;

    (b)

    y person sy'n bennaeth staff dros unrhyw gorff llywodraeth leol nad yw adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gymwys iddo; neu

    (c)

    person a chanddo gyfrifoldeb dros reoli corff llywodraeth leol i'r graddau bod pŵer gan y person i gyfarwyddo neu reoli prif weithgareddau'r corff (yn benodol y gweithgareddau sy'n ymwneud â gwario arian), p'un ai ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau eraill; ac

  • ystyr “swyddog heddlu hŷn” yw aelod o'r heddlu sy'n dal rheng sy'n uwch na rheng uwcharolygydd..

Byrddau draenio mewnol

8.  Ar ôl rheoliad 7A (datganiad o dâl), mewnosoder—

Byrddau draenio mewnol

7B.  Rhaid i fwrdd draenio mewnol godi ar gyfrif refeniw swm sy'n hafal i daliadau buddiannau ymddeol a chyfraniadau i gronfeydd pensiwn sy'n daladwy am y flwyddyn honno ac yn unol â'r canlynol—

(a)Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Buddiannau, Aelodaeth a Chyfraniadau) 2007(19); a

(b)Rheoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal drwy Ddisgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2000(20) neu Reoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal drwy Ddisgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2006(21)..

Datganiadau cyfrifyddu eraill

9.—(1Diwygir rheoliad 8 (datganiadau cyfrifyddu eraill) fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2)—

(a)hepgorer is-baragraff (b);

(b)ar ddiwedd is-baragraff (c) mewnosoder—

  • ; ac

    (ch)

    cyd-bwyllgor sydd yn is-gydbwyllgor.

(3Ym mharagraff (3)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£100,000” rhodder “£200,000”;

(b)yn is-baragraff (a), yn lle “a (2)” rhodder “a 7A”;

(c)yn is-baragraff (b), yn lle “£100,000” rhodder “£200,000”; ac

(ch)yn is-baragraff (c), yn lle “£100,000” rhodder “£200,000”;

(4Hepgorer paragraff (4).

Paratoi a llofnodi datganiad o gyfrifon etc

10.  Ar ôl rheoliad 8, mewnosoder—

Paratoi datganiad o gyfrifon etc

8A.  Rhaid i gorff llywodraeth leol sicrhau bod—

(a)y datganiad o gyfrifon, neu

(b)os nad yw'n ofynnol i ddatganiad o gyfrifon gael ei baratoi, y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau, neu

(c)os nad yw'n ofynnol i gyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau gael eu paratoi, y cofnod o dderbyniadau a thaliadau'r corff,

yn cael ei baratoi yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Llofnodi etc ddatganiad o gyfrifon etc

8B.(1) Rhaid i swyddog ariannol cyfrifol corff llywodraeth leol—

(a)yn achos corff sydd wedi paratoi cofnod o dderbyniadau a thaliadau, lofnodi a dyddio'r cofnod hwnnw, ac ardystio ei fod yn cyflwyno'n briodol dderbyniadau a thaliadau'r corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn y mae'r cofnod yn ymwneud â hi;

(b)yn achos corff sydd wedi paratoi cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau, lofnodi a dyddio'r cyfrif a'r datganiad, ac ardystio eu bod yn cyflwyno'n deg sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y maent yn ymwneud â hi ac incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno;

(c)yn achos cyngor cymuned y mae rheoliad 7(3) yn gymwys iddo, neu gyngor cymuned sydd wedi dod i benderfyniad yn unol â rheoliad 8(3)(a), lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon ac ardystio ei fod yn cyflwyno'n deg sefyllfa ariannol y cyngor ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi ac incwm a gwariant y cyngor hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno;

(ch)yn achos unrhyw gorff arall, lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno golwg deg a chywir o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi ac incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno.

(2) Rhaid i'r swyddog ariannol cyfrifol gydymffurfio â pharagraff (1)—

(a)cyn y 30 Mehefin sy'n dilyn diwedd blwyddyn; a

(b)yn union cyn bod y gymeradwyaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 9(3) yn cael ei rhoi.

(3) Rhaid i'r swyddog ariannol cyfrifol hefyd gydymffurfio â pharagraff (1) yn union cyn bod unrhyw gymeradwyaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 9(4) yn cael ei rhoi.

(4) Os na fydd y swyddog ariannol cyfrifol yn cydymffurfio â pharagraff (2) neu (3), rhaid i'r corff llywodraeth leol:

(a)cyhoeddi datganiad ar unwaith yn nodi'r rhesymau am ei fethiant i gydymffurfio; a

(b)cytuno ar gwrs gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth cyn gynted ag y bo'n ymarferol..

Cymeradwyo datganiad o gyfrifon

11.  Yn lle rheoliad 9 rhodder—

Cymeradwyo datganiad o gyfrifon etc

9.(1) Yn y rheoliad hwn ystyr “cyfrifon” yw'r datganiad o gyfrifon, y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau, neu'r cofnod o dderbyniadau a thaliadau fel sy'n ofynnol gan reoliad 7(1) neu 8(1) neu (3).

(2) Rhaid i gorff llywodraeth leol gymeradwyo'r cyfrifon yn unol â'r rheoliad hwn.

(3) Rhaid i gymeradwyaeth yn unol â pharagraff (2) ddigwydd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag cyn 30 Medi yn dilyn yn union ar ôl diwedd blwyddyn.

(4) Os cymeradwywyd y cyfrifon yn unol â pharagraff (3) cyn gorffen archwiliad o'r cyfrifon hynny, rhaid cymeradwyo'r cyfrifon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn unrhyw adroddiad oddi wrth yr archwilydd sy'n cynnwys casgliadau terfynol yr archwilydd ac a ddyroddwyd cyn gorffen yr archwiliad.

(5) Mae'r gymeradwyaeth sy'n ofynnol gan baragraff (4) yn ychwanegol at gymeradwyaeth sy'n unol â pharagraff (3).

(6) Rhaid i'r gymeradwyaeth sy'n ofynnol gan baragraffau (3) a (4) ddod drwy benderfyniad pwyllgor corff llywodraeth leol neu fel arall drwy benderfyniad y corff sy'n cyfarfod fel corff cyflawn.

(7) Ar ôl cael cymeradwyaeth yn unol â pharagraff (3) a (4), rhaid i'r cyfrifon gael eu llofnodi a'u dyddio gan y person a lywyddodd yn y pwyllgor neu'r cyfarfod y rhoddwyd y gymeradwyaeth ynddo.

(8) Pan fo unrhyw ddiwygiad sylweddol yn cael ei wneud i'r cyfrifon, rhaid i'r swyddog ariannol cyfrifol roi adroddiad o'r diwygiad hwnnw i'r corff llywodraeth leol neu i bwyllgor y corff hwnnw yn union cyn i'r corff neu'r pwyllgor gymeradwyo'r cyfrifon yn unol â rheoliad 9(3) neu (4)..

Cyhoeddi datganiad o gyfrifon etc

12.  Yn rheoliad 10 (cyhoeddi datganiad o gyfrifon etc)—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (3),”;

(b)ym mharagraff (2)(a) yn lle “(7)(3)” rhodder “7(2)”;

(c)ym mharagraff (2)(b), yn lle “7(4)” rhodder “7(3)”;

(ch)hepgorer paragraff (3).

Cyhoeddi cyfrif incwm a gwariant a derbyniadau a thaliadau

13.  Yn rheoliad 11(1) a (3) (cyhoeddi cyfrif incwm a gwariant a derbyniadau a thaliadau), ym mhob achos, yn lle “31 Rhagfyr” rhodder “30 Medi”.

Hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad arfaethedig

14.  Yn rheoliad 16 (hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad arfaethedig)—

(a)hepgorer “arfaethedig” o'r pennawd;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)dileer “arfaethedig”;

(ii)yn lle “bwriadu dibynnu” rhodder “dibynnu”; ac

(c)hepgorer paragraff (2).

Hysbysiad o orffen yr archwiliad

15.  Yn rheoliad 17 (hysbysiad o orffen yr archwiliad), hepgorer paragraffau (3) a (4).

Cyd-bwyllgorau etc

16.  Yn rheoliad 19 (cyd-bwyllgorau etc)—

(a)ym mharagraff (1)(b) yn lle “rheoliad 7(3)” rhodder “rheoliad 7(2)”; a

(b)ym mharagraff (2), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

Tramgwyddau

17.  Yn rheoliad 21(2) (tramgwyddau), ar ôl “7,” mewnosoder “7A,”.

Darpariaeth drosiannol

18.  Ar ôl rheoliad 22 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol

23.(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r cyrff y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(2)(a) i (c) a (3).

(2) O ran y blynyddoedd sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2010 a 2011—

(a)rhaid darllen y cyfeiriadau at 30 Mehefin yn rheoliad 8B fel cyfeiriadau at 30 Medi; a

(b)rhaid darllen y cyfeiriadau at 30 Medi yn rheoliadau 9 a 11 fel cyfeiriadau at 31 Rhagfyr..

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”). Mae Rheoliadau 2005 yn gwneud darpariaeth o ran cyfrifon ac archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru y mae'n ofynnol i'w cyfrifon gael eu harchwilio yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“Deddf 2004”) (ac eithrio byrddau prawf lleol).

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 39 a 58 o Ddeddf 2004.

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2010 ac felly maent yn effeithiol o ran cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol 2009/2010 (ac eithrio fel a nodir yn wahanol yn y Nodyn hwn).

Mae rheoliad 4 yn darparu diffiniad o is-gydbwyllgor ac mae'n dynodi pa ddogfen sy'n disgrifio arferion cyfrifyddu priodol, at ddibenion y Rheoliadau hyn, ar gyfer byrddau draenio mewnol.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn ailstrwythuro'r darpariaethau yn Rheoliadau 2005 ynghylch (a) pa gyrff sydd i baratoi datganiadau o gyfrifon a (b) y nodyn ar dâl y staff sydd i fynd gyda datganiadau o'r fath. Mae Rheoliadau 2005 yn ei gwneud yn ofynnol bod nodyn yn cael ei wneud o nifer yr holl gyflogeion yr oedd cyfanswm eu tâl yn fwy na £60,000 y flwyddyn, i'w rhestru rhwng bachau graddfeydd o £10,000. Mae rheoliad 7 yn ymestyn y gofyniad hwn i swyddogion heddlu, ac mae hefyd yn newid y bachau yn y raddfa i luosrifau o £5,000. Mae'n eithrio swyddogion sy'n cael eu dal gan y gofyniad newydd i ddatgelu manylion tâl unigol.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cyflwyno gofyniad newydd i ddatgelu manylion tâl unigol y cyflogeion hŷn a'r swyddogion heddlu perthnasol ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o dan y categorïau canlynol:

(i)cyflogau, ffioedd a lwfansau;

(ii)bonysau;

(iii)lwfans treuliau;

(iv)iawndal am golli cyflogaeth;

(v)cyfraniad pensiwn;

(vi)unrhyw enillion eraill; a

(vii)yn achos swyddogion heddlu perthnasol, unrhyw daliadau eraill a wnaed iddynt.

Mae ‘cyflogai’ yn cynnwys deiliad swydd o dan gorff llywodraeth leol (ond nid cynghorydd etholedig). Cyflogai hŷn yw person y mae ei gyflog dros £150,000 y flwyddyn, neu y mae ei gyflog yn £60,000 o leiaf y flwyddyn (i'w gyfrifo pro rata i gyflogai rhan-amser) a'i fod:

(a)yn bennaeth dynodedig gwasanaeth cyflogedig, yn brif swyddog statudol neu'n brif swyddog anstatudol corff llywodraeth leol, a bod i'r termau hynny yr ystyr a roddir gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

(b)yn bennaeth staff corff llywodraeth leol nad oes ganddo bennaeth dynodedig gwasanaeth cyflogedig; neu

(c)yn berson a chanddo gyfrifoldebau dros reoli corff llywodraeth leol i'r graddau bod gan y person bŵer i gyfarwyddo neu reoli prif weithgareddau'r corff.

Mae “swyddog heddlu perthnasol” yn brif gwnstabl ac unrhyw swyddog arall o'r heddlu sy'n uwch na rheng uwcharolygydd y mae ei gyflog yn £150,000 neu fwy y flwyddyn.

Mae'r diffiniad a roddir i “cyfraniad at bensiwn y person” yn ei gwneud yn glir mai'r ffigur i'w ddatgelu yw cyfran cyfraniad y corff llywodraeth leol i'r cynllun cyfrannu perthnasol a all fod yn gysylltiedig â'r cyflogai hŷn neu'r swyddog heddlu perthnasol ac nad yw'n cynnwys unrhyw gyfraniad a wnaed gan y cyflogai hŷn neu gan y swyddog heddlu perthnasol.

Nid yw'r rhwymedigaeth i ddatgelu tâl cyflogeion hŷn a swyddogion heddlu perthnasol yn gymwys ar gyfer cyfrifon a gafodd eu paratoi am y flwyddyn ariannol 2009/2010 mewn achosion yr oedd gan y person o dan sylw fudd cytundeb cyfrinachedd o ran y tâl a dderbyniwyd.

Mae Byrddau Draenio Mewnol, sy'n gyfrifol am ddraenio tir mewn rhai rhannau o'r wlad o dan Ddeddf Draenio Tir 1991 (p. 59), yn paratoi eu cyfrifon blynyddol ar sail sy'n cydnabod yn llawn ddyled pensiwn yn y dyfodol sydd wedi cronni ar gyfer y flwyddyn honno o ran eu cyflogeion. Yn yr arferion cyfrifyddu y mae awdurdodau lleol yn eu dilyn disodlir y dyledion hynny gan gyfraniad y cyflogwr y mae'n ofynnol iddo ei wneud i'r gronfa bensiwn a symiau eraill sy'n ddyledus i'w talu yn y flwyddyn. Mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso'r un egwyddor i fyrddau draenio.

Mae rheoliad 9 yn darparu y bydd yn ofynnol i is-gydbwyllgor baratoi cyfrif incwm a gwariant a mantolen ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Mae hefyd yn cynyddu'r trothwy o £100,000 i £200,000 ar gyfer y cynghorau cymuned y mae eu gwariant gros yn llai na £1m. Felly—

  • mewn achos pan fo gwariant y cyngor cymuned yn £200,000 neu fwy, caiff cyngor o'r fath ddewis p'un ai paratoi datganiad o gyfrifon neu gyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau, ac

  • mewn achos pan fo gwariant y cyngor cymuned yn llai na £200,000, caiff cyngor o'r fath ddewis p'un ai paratoi cofnod o dderbyniadau a thaliadau neu gyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau.

Mae rheoliad 10 yn ailstrwythuro'r darpariaethau yn Rheoliadau 2005 sy'n gosod rhwymedigaethau ar gyrff llywodraeth leol i baratoi datganiadau o gyfrifon etc yn unol â Rheoliadau 2005. Mae hefyd yn ailstrwythuro ac yn ymestyn y rhwymedigaethau sydd ar swyddogion cyllid cyfrifol i lofnodi ac ardystio'r datganiadau etc ar adegau priodol.

Mae rheoliad 11 yn diwygio'r ddarpariaeth yn Rheoliadau 2005 ynghylch cymeradwyo cyfrifon, i'r perwyl y bydd yn rhaid i gorff llywodraeth leol gymeradwyo'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol erbyn 30 Medi. Rhaid cael ail gymeradwyaeth os rhoddwyd y gymeradwyaeth gyntaf cyn gorffen yr archwiliad o'r cyfrifon hynny.

Rhaid i'r cyrff llywodraeth leol y mae Rheoliadau 2005 yn gymwys iddynt gyhoeddi eu cyfrifon neu gyhoeddi'r wybodaeth ofynnol. Mae rheoliad 13 yn diwygio'r ddarpariaeth bresennol i'r perwyl mai'r dyddiad perthnasol i'r holl gyrff ar gyfer cyhoeddi fydd 30 Medi.

Mae rheoliad 15 yn diwygio'r darpariaethau yn Rheoliadau 2005 ynglŷn â'r dogfennau sydd i fod ar gael i'w gweld gan y cyhoedd ar ôl gorffen yr archwiliad. Mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth drosiannol ar gyfer cynghorau cymuned sydd ag incwm neu wariant gros sy'n llai na £1m, awdurdodau iechyd porthladdoedd, pwyllgorau cynllunio trwyddedu a byrddau draenio mewnol. Ni fydd y gofynion canlynol yn cael effaith hyd nes y cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012/2013—

  • y gofyniad bod swyddogion ariannol cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio cyfrifon erbyn 30 Mehefin (yn y cyfamser, 30 Medi fydd hyn) (gweler rheoliad 8B(2)(a) o Reoliadau 2005 fel y'i mewnosodir gan y Rheoliadau hyn);

  • y gofynion bod y cyrff hyn yn cymeradwyo cyfrifon ac yn cyhoeddi eu cyfrifon (neu'r wybodaeth ofynnol) erbyn 30 Medi (yn y cyfamser, 31 Rhagfyr fydd hyn) (gweler rheoliadau 9(3) ac 11 o Reoliadau 2005 fel y'u diwygir gan y Rheoliadau hyn).

Gwneir rhai mân ddiwygiadau i Reoliadau 2005.

(2)

Cafodd y swyddogaethau hyn o eiddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

Gellir canfod arferion priodol mewn perthynas â chyrff penodol mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26). Nid yw adran 21 yn gymwys i fyrddau draenio mewnol.

(8)

Amnewidiwyd rheoliad 40 gan O.S. 2009/3150.

(9)

1947 p.41 a 1959 p.44. Diddymwyd y ddwy Ddeddf hon gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (c. 21) a oedd yn cynnwys arbedion o ran cynlluniau pensiwn a sefydlwyd odanynt.

(10)

O.S. 1992/129. Mewnosodwyd paragraffau G2(3) a (4) gan erthygl 2 o Orchymyn Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) (O.S. 2007/1074) (Cy.112) a pharagraff 39(b) o Atodlen 1 iddo. Newidiodd erthygl 4 o Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918 (Cy.257)) enw'r cynllun o “Cynllun Pensiwn Dynion Tân” i “Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)”.

(11)

2004 p.21.

(15)

O.S. 2007/1932. Diwygiwyd rheoliad 5(1) gan reoliadau 42 a 46 o Reoliadau Pensiynau'r Heddlu (Diwygio) 2008 (O.S. 2008/1887).

(16)

1996 p.16.

(17)

1989 p.42.

(18)

Diwygiwyd adran 2(6) gan adran 18 o Ddeddf Plant 2004 ac Atodlen 2 iddi (p. 31); adran 582 o Ddeddf Addysg 1996 ac Atodlen 37 iddi (p. 56); ac adran 127 o Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p. 29). Cafodd hefyd ei ddiddymu'n rhannol gan adran 180 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc (yr Alban) 1994 ac Atodlenni 13 a 14 iddi (p.39) ac adran 54 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac Atodlen 2 iddi (p. 21).

(20)

O.S. 2000/1410, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/3649, 2002/769, 2003/1022 a 2005/3069, ac a ddirymwyd gan O.S 2006/2914 gydag arbedion.

(21)

O.S. 2006/2914, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/3150.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources