2010 Rhif 71 (Cy.17)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2010

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 19841, ac ar ôl ymgynghori â'r cyrff cynrychioliadol y barnwyd eu bod yn addas yn unol ag adran 134(2) o'r Ddeddf honno2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Chwefror 2010 a'u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2010.

2.

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Traffordd yr M4” (“the M4 Motorway”) yw Traffordd Llundain i Dde Cymru yr M4.

Gosod terfyn cyflymder

3.

Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o'r ffordd wrth Gyffordd 24 Traffordd yr M4, Cyfnewidfa Coldra, yn Ninas Casnewydd a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENDarnau o slipffyrdd Traffordd yr M4 wrth Gyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra yn Ninas Casnewydd

  • Y FFORDD YMADAEL TUA'R DWYRAIN

    Y darn hwnnw o'r ffordd ymadael tua'r dwyrain sy'n ymestyn o bwynt 123 o fetrau i'r gorllewin o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt lle mae'n uno â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.

  • Y FFORDD YMUNO TUA'R DWYRAIN

    Y darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain sy'n ymestyn o bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt 25 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.

  • Y FFORDD YMADAEL TUA'R GORLLEWIN

    Y darn hwnnw o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt 114 o fetrau i'r gorllewin o'r pwynt lle mae'n gwyro oddi ar brif gerbytffordd Traffordd yr M4 hyd at bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd Cyfnewidfa Coldra.

  • Y FFORDD YMADAEL TUA'R GORLLEWIN (Y LÔN AR WAHÅN)

    Y darn hwnnw o'r ffordd ar wahân i ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt 114 o fetrau i'r gorllewin o'r pwynt lle mae'n gwyro oddi ar brif gerbytffordd Traffordd yr M4 hyd at bwynt lle mae'n uno â cherbytffordd Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48.

  • Y FFORDD YMUNO TUA'R GORLLEWIN

    Y darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt 6 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr (yn lle'r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn y Rheoliadau hyn.