- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4. Ar 1 Ebrill 2010 sefydlir Tribiwnlys Prisio Cymru.
5. Ar 1 Gorffennaf 2010 sefydlir Cyngor Llywodraethu ar gyfer y Tribiwnlys Prisio.
6.—(1) Aelodaeth y Cyngor Llywodraethu fydd:
(a)Llywydd Tribiwnlys Prisio Cymru, a benodir yn unol â rheoliad 11;
(b)y cynrychiolwyr rhanbarthol (ond nid y dirprwy gynrychiolwyr rhanbarthol) a benodir yn unol â rheoliad 13; ac
(c)unrhyw berson a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7 .
(2) Pan fo cynrychiolydd rhanbarthol, fel y'i disgrifir ym mharagraff (1)(b) yn analluog, oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw reswm arall, i weithredu fel aelod o'r Cyngor Llywodraethu, yna caiff y dirprwy gynrychiolydd rhanbarthol ar gyfer y rhanbarth hwnnw gymryd lle'r cynrychiolydd rhanbarthol, a bydd ganddo'r un pwerau â'r cynrychiolydd rhanbarthol sy'n analluog i weithredu.
7.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru benodi un person yn aelod o'r Cyngor Llywodraethu.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 21(4) ynglŷn â'r penodiad i'r Cyngor Llywodraethu ar 1 Gorffennaf 2010 .
(3) Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r Llywydd, roi i unrhyw berson a benodir o dan baragraff (1), hysbysiad ysgrifenedig sy'n rhoi pa bynnag gyfnod a bennir ganddynt o rybudd o derfynu ei swydd.
8.—(1) Bydd swyddogaethau'r Tribiwnlys Prisio o dan Rannau 2 i 4 (ac eithrio rheoliad 18(1)) yn cael eu cyflawni ar ei ran gan y Cyngor Llywodraethu.
(2) Caiff y Cyngor Llywodraethu benderfynu y caiff swyddogaethau'r Tribiwnlys Prisio o dan Rannau 2 i 4 (ac eithrio rheoliad 18(1)) eu cyflawni ar ei ran gan ddau neu ragor o aelodau'r Cyngor Rheoli, ar yr amod mai'r Llywydd fydd un ohonynt.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys ar gyfer penodi'r prif weithredwr.
(4) Mae paragraffau (1) a (2) yn ddarostyngedig i'r darpariaethau yn rheoliadau 16(6), 17 ac Atodlen 2 sy'n dyrannu swyddogaethau i'r prif weithredwr.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol o'r rheoliad hwn, aelodau'r Tribiwnlys Prisio fydd y personau hynny a benodir gan y cynghorau a ragnodir yng ngholofn 3 o Atodlen 1 (“y cynghorau”) a'r Llywydd ar y cyd.
(2) Y nifer o aelodau sydd i'w penodi gan gyngor unigol a'r Llywydd yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 4 o Atodlen 1.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, ni fydd swydd wag yn digwydd ac eithrio pan fo nifer yr aelodau a benodwyd gan gyngor unigol a'r Llywydd yn syrthio islaw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 4 o Atodlen 1.
(4) Os na fydd cyngor a'r Llywydd, ar ddiwedd cyfnod o dri mis ar ôl i swydd fynd yn wag yn y Tribiwnlys Prisio, wedi gwneud penodiad yn unol â pharagraff (1), caiff Gweinidogion Cymru wneud y penodiad hwnnw ar ôl ymgynghori â'r Llywydd.
(5) Ni fydd unrhyw benodiad o dan adran (1) yn ddilys os ei effaith fyddai peri bod nifer yr aelodau o'r Tribiwnlys Prisio, a benodir gan gyngor a'r Llywydd, ac sy'n aelodau o'r cyngor, yn fwy na'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor yng ngholofn 5 o Atodlen 1.
(6) Ni cheir dehongli paragraff (5) fel pe bai'n effeithio ar ddilysrwydd penodiad aelod o'r Tribiwnlys Prisio sy'n dod yn aelod o gyngor wedi i benodiad y person hwnnw ddod i rym.
(7) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 21 ynglŷn â phenodi aelodau ar 1 Gorffennaf 2010.
10.—(1) Bydd pob penodiad aelod o dan reoliad 9 yn cael effaith am ba bynnag gyfnod, na fydd yn hwy na chwe blynedd, a bennir gan y person neu bersonau sy'n gwneud y penodiad.
(2) Bydd pob aelod yn parhau yn ei swydd hyd nes digwydd pa un bynnag o'r canlynol sy'n digwydd gyntaf—
(a)y cyfnod a bennir o dan baragraff (1) yn dod i ben;
(b)hysbysiad o derfynu swydd yr aelod o dan baragraff (3) yn cael effaith;
(c)yr aelod yn dod yn anghymwys i fod yn aelod, yn unol â'r ddarpariaeth yn rheoliad 14;
(ch)yr aelod yn ymddiswyddo drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd.
(3) Rhaid i'r prif weithredwr, os cyfarwyddir ef felly gan Weinidogion Cymru, wedi i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cyngor perthnasol ac â'r Llywydd, roi i aelod hysbysiad ysgrifenedig sy'n rhoi pa bynnag gyfnod o rybudd a gyfarwyddir, o derfynu cyfnod yr aelod yn ei swydd o dan y paragraff hwn.
11.—(1) Rhaid gwneud y penodiad cyntaf i swydd y Llywydd yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2 ond yn ddarostyngedig i Ran 2 o'r Atodlen honno.
(2) Mewn achos dilynol pan â swydd y Llywydd yn wag, rhaid i aelodau'r Tribiwnlys Prisio, yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2, benodi person i fod yn Llywydd.
(3) Pan nad oes penodiad wedi ei wneud yn unol ag Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â pha bynnag rai o aelodau'r Tribiwnlys Prisio ag y tybiant yn briodol, benodi un o aelodau'r Tribiwnlys Prisio i fod yn Llywydd.
(4) Bydd y Llywydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes digwydd pa un bynnag o'r canlynol sy'n digwydd gyntaf—
(a)diwedd y cyfnod o ddwy flynedd ar ôl y dyddiad yr ymgymerodd y Llywydd â'i swydd (ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid ystyried bod yr apwyntai cyntaf i swydd y Llywydd yn ymgymryd â'r swydd ar 1 Gorffennaf 2010);
(b)y Llywydd yn peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;
(c)hysbysiad o ymddiswyddiad y Llywydd o dan baragraff (5) yn cael effaith;
(ch)hysbysiad terfynu o dan baragraff (6) yn cael effaith.
(5) Caiff y Llywydd ymddiswyddo drwy hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen, gan roi o leiaf un mis o rybudd.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â pha bynnag rai o aelodau'r Tribiwnlys Prisio ag y gwelant yn dda, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd, derfynu ei benodiad yn Llywydd.
(7) Os yw'r Llywydd yn analluog, oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw reswm arall, i gyflawni swyddogaethau'r Llywydd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i ba bynnag aelod o'r Cyngor Llywodraethu a bennir o bryd i'w gilydd gan y Cyngor gyflawni'r swyddogaethau hynny.
(8) Caiff y Llywydd awdurdodi cynrychiolydd rhanbarthol i ymgymryd â swyddogaeth y Llywydd o benodi o dan reoliad 9(1); ac yn y paragraff hwn, nid yw “cynrychiolydd rhanbarthol” yn cynnwys dirprwy gynrychiolydd rhanbarthol.
12.—(1) Pennir y nifer o aelodau'r Tribiwnlys Prisio sydd i'w penodi i swydd Cadeirydd gan y Tribiwnlys Prisio.
(2) Bydd y Llywydd yn un o'r Cadeiryddion a rhaid i aelodau Tribiwnlys Prisio yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2, ond yn ddarostyngedig i reoliad 22, benodi gweddill nifer y Cadeiryddion o fewn y cyfnod rhagnodedig, drwy eu hethol o blith eu nifer.
(3) Ar ddiwedd y cyfnod rhagnodedig, os na fydd etholiad wedi ei gynnal yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r Llywydd, benodi'r nifer priodol o aelodau i fod yn Gadeiryddion.
(4) Bydd Cadeirydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes digwydd pa un bynnag o'r canlynol sy'n digwydd gyntaf —
(a)y Cadeirydd hwnnw'n peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;
(b)y Cadeirydd hwnnw'n ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd;
(c)hysbysiad terfynu o dan baragraff (5) yn cael effaith.
(5) O ran y Llywydd—
(a)caiff, ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Llywodraethu, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gadeirydd, derfynu swydd y Cadeirydd hwnnw; a
(b)rhaid iddo, os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i Gadeirydd hysbysiad ysgrifenedig sy'n terfynu swydd y Cadeirydd hwnnw, a bydd yr hysbysiad yn cael effaith ar ddiwedd pa bynnag gyfnod y cyfarwyddir felly.
(6) Cyn rhoi cyfarwyddyd dan baragraff (5)(b) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd.
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “y cyfnod rhagnodedig” (“the prescribed period”) yw tri mis sy'n cychwyn pan fo swydd yn mynd yn wag ymhlith y nifer rhagnodedig;
ystyr “y nifer rhagnodedig” (“the determined number”) yw'r nifer a bennir gan y Tribiwnlys Prisio yn unol â pharagraff (1);
ystyr “y nifer priodol” (“the appropriate number”) yw'r nifer a bennir, llai'r nifer sydd ar y pryd yn dal swydd Cadeirydd.
13.—(1) Rhaid gwneud y penodiadau cyntaf i'r swyddi cynrychiolydd rhanbarthol a dirprwy gynrychiolydd rhanbarthol (a elwir yn “gynrychiolydd rhanbarthol” yn y rheoliad hwn) yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2 ond yn ddarostyngedig i Ran 2 o'r Atodlen honno.
(2) Mewn achosion dilynol pan â swydd cynrychiolydd rhanbarthol yn wag, rhaid i aelodau'r Tribiwnlys Prisio, yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2, benodi cynrychiolydd rhanbarthol neu ddirprwy gynrychiolydd rhanbarthol (yn ôl fel y digwydd) ar gyfer y rhanbarth hwnnw, o blith eu nifer.
(3) Ar ddiwedd y cyfnod rhagnodedig, os na fydd etholiad wedi ei gynnal yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r Llywydd, benodi'r nifer priodol o aelodau i fod yn gynrychiolwyr rhanbarthol.
(4) Bydd cynrychiolydd rhanbarthol a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes digwydd pa un bynnag o'r canlynol sy'n digwydd gyntaf—
(a)diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy'n dilyn y dyddiad yr ymgymerodd y cynrychiolydd rhanbarthol â'i swydd (ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid ystyried bod yr apwynteion cyntaf i swydd cynrychiolydd rhanbarthol yn ymgymryd â'u swyddi ar 1 Gorffennaf 2010);
(b)y cynrychiolydd rhanbarthol yn peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;
(c)y cynrychiolydd rhanbarthol yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd;
(ch)hysbysiad terfynu o dan baragraff (5) yn cael effaith.
(5) O ran y Llywydd—
(a)caiff, ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Llywodraethu, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i gynrychiolydd rhanbarthol, derfynu swydd y cynrychiolydd rhanbarthol hwnnw; a
(b)rhaid iddo, os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i gynrychiolydd rhanbarthol hysbysiad ysgrifenedig sy'n terfynu swydd y cynrychiolydd rhanbarthol hwnnw, a bydd yr hysbysiad yn cael effaith ar ddiwedd pa bynnag gyfnod y cyfarwyddir felly.
(6) Cyn rhoi cyfarwyddyd dan baragraff (5)(b) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd.
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “y cyfnod rhagnodedig” (“the prescribed period”) yw tri mis sy'n cychwyn gydag 1 Ebrill 2010 ac wedi hynny, tri mis sy'n cychwyn gyda'r dyddiad pan â swydd cynrychiolydd rhanbarthol yn wag; ac
ystyr “y nifer priodol” (“the appropriate number”), yn achos cynrychiolwyr rhanbarthol, yw pedwar llai'r nifer o bersonau sydd, ar y pryd, yn dal swydd fel y cyfryw; ac yn achos dirprwy gynrychiolwyr rhanbarthol, pedwar llai'r nifer o bersonau sydd, ar y pryd, yn dal swydd fel y cyfryw.
(8) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)mae pedair rhanbarth;
(b)mae'r rhanbarthau yn cynnwys yr ardaloedd a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1; ac
(c)caiff y rhanbarthau eu hadnabod gan yr enw cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodlen hwnnw.
14.—(1) Bydd person yn anghymwys i'w benodi yn aelod, neu i barhau yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio—
(a)os yw'r person hwnnw wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr; neu
(b)os yw'r person hwnnw wedi gwneud trefniant gyda chredydwyr; neu
(c)os yw'r person hwnnw, o fewn y pum mlynedd yn union cyn ei benodi neu ers pan ei benodwyd, wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac y gorchmynnwyd ei garcharu am gyfnod o dri mis neu ragor, heb yr opsiwn o ddirwy, pa un a ohiriwyd y ddedfryd honno ai peidio; neu
(ch)os yw'r person hwnnw wedi ei anghymhwyso ar y pryd rhag bod yn aelod o awdurdod lleol; neu
(d)os yw'r person hwnnw neu'i briod neu'i bartner sifil yn gyflogai neu'n dod yn gyflogai i'r Tribiwnlys Prisio.
(2) Bydd anghymhwysiad person am y rheswm ym mharagraff (1)(a) yn dod i ben—
(a)oni ddirymir y gorchymyn methdalu yn erbyn y person hwnnw'n gynharach, pan ryddheir y person hwnnw o fethdaliad; neu
(b)os dirymir y gorchymyn methdalu felly, ar ddyddiad y dirymu.
(3) Bydd anghymhwysiad person am y rheswm ym mharagraff (1)(b) yn dod i ben —
(a)os telir dyledion y person hwnnw'n llawn gan y person hwnnw, ar y dyddiad y cwblheir y taliad; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, ar ddiwedd pum mlynedd ar ôl y dyddiad y cyflawnir telerau'r weithred gompowndio neu'r trefniant.
(4) At ddibenion paragraff (1)(c), ystyrir mai dyddiad y gollfarn fydd y dyddiad cyffredin pan ddaw'r cyfnod a ganiateir ar gyfer apelio i ben, neu, os gwneir apêl o'r fath, y dyddiad pryd y penderfynir yr apêl yn derfynol, neu y rhoddir y gorau i'r apêl, neu ei bod yn methu oherwydd methiant i erlyn.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “aelod o'r Tribiwnlys Prisio” yw aelod —
(a)o'r Tribiwnlys Prisio a benodir o dan reoliad 9;
(b)o'r Cyngor Llywodraethu a benodir o dan reoliad 7; neu
(c)o hen Dribiwnlys a benodir i'r Tribiwnlys Prisio o dan reoliad 21.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: