xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Darpariaethau Trosiannol

Penodi aelodau o'r hen Dribiwnlysoedd

21.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 10(2), ar 1 Gorffennaf 2010 bydd unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn aelod o hen Dribiwnlys ac a benodwyd gan gyngor a Llywydd yr hen Dribiwnlys hwnnw yn cael ei benodi yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid trin penodiad o dan baragraff (1) fel pe bai wedi ei wneud—

(a)gan y cyngor a benododd yr aelod i'r hen Dribiwnlys a'r Llywydd; a

(b)ar y dyddiad pan wnaed y penodiad i'r hen Dribiwnlys.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 10(2), ar 1 Gorffennaf 2010 bydd unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn aelod o hen Dribiwnlys ac a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn cael ei benodi yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio.

(4Ar 1 Gorffennaf 2010 bydd unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn aelod o Gyngor Llywodraethu yr hen Wasanaeth ac a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn cael ei benodi yn aelod o'r Cyngor Llywodraethu.

(5Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r Llywydd, roi i unrhyw aelod a benodir o dan baragraff (3) neu (4) hysbysiad ysgrifenedig sy'n rhoi pa bynnag gyfnod a bennir ganddynt o rybudd o derfynu ei swydd.

Parhau penodiad Cadeiryddion yr hen Dribiwnlysoedd

22.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 12(4), ar 1 Gorffennaf 2010 , bydd unrhyw aelod a oedd yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn Gadeirydd hen Dribiwnlys yn cael ei benodi yn un o Gadeiryddion y Tribiwnlys Prisio.

(2Mae rheoliad 12(5) yn gymwys i Gadeirydd a benodir o dan baragraff (1) fel y mae'n gymwys i Gadeirydd a benodir o dan reoliad 12(2).

Trosglwyddo cyflogeion i'r Tribiwnlys Prisio

23.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ar 1 Gorffennaf 2010 bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn gyflogedig gan yr hen Wasanaeth yn cael ei drosglwyddo i'r Tribiwnlys Prisio, a bydd y contract hwnnw'n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r Tribiwnlys Prisio.

(2Heb leihau effaith paragraff (1)—

(a)bydd yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo, neu mewn cysylltiad â chontract o'r fath, yn cael eu trosglwyddo, yn rhinwedd y rheoliad hwn, i'r Tribiwnlys Prisio ar 1 Gorffennaf 2010;

(b)ystyrir, o 1 Gorffennaf 2010 ymlaen, y bydd unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen Wasanaeth, neu mewn perthynas â'r hen Wasanaeth, ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud gan y Tribiwnlys Prisio neu mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio.

(3Ni chaiff paragraffau (1) a (2) leihau effaith unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol sy'n anffafriol iddo o ran ei amodau gwaith, ond nid oes unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid cyflogwr a ysgogir gan y rheoliad hwn

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

24.  Ar 1 Gorffennaf 2010 trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen Wasanaeth, nas cyfeirir atynt yn rheoliad 23, i'r Tribiwnlys Prisio.

Trosglwyddo apelau

25.—(1Bydd unrhyw apêl i hen Dribiwnlys a gychwynnwyd cyn 1 Gorffennaf 2010 ac a fyddai, pe bai wedi ei chychwyn ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, wedi bod yn agored i'w phenderfynu gan y Tribiwnlys Prisio a sefydlir gan reoliad 4, yn cael ei throsglwyddo ar 1 Gorffennaf 2010 i'r Tribiwnlys Prisio ac yn cael ei phenderfynu ganddo.

(2Ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2010 —

(a)bydd y darpariaethau statudol perthnasol yn gymwys fel pe bai unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r apêl gan neu mewn perthynas â'r hen Dribiwnlys y'i trosglwyddwyd ohono neu Glerc, Llywydd neu Gadeirydd yr hen Dribiwnlys hwnnw, wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio neu, yn ôl fel y digwydd, Glerc, Llywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys Prisio, a

(b)rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad (sut bynnag y'i mynegir) at Glerc, Llywydd neu Gadeirydd hen Dribiwnlys yn y darpariaethau statudol perthnasol neu mewn offerynnau a wneir odanynt, cyn belled ag y bo'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r rheoliad hwn, fel cyfeiriad at Glerc neu, yn ôl fel y digwydd, Llywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys Prisio.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “y darpariaethau statudol perthnasol” yw—

(a)mewn perthynas ag apelau o dan adran 16 o Ddeddf 1992 neu baragraff 3(1) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, y Rheoliadau hyn;

(b)mewn perthynas ag apelau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 24 o Ddeddf 1992, y rheoliadau hynny;

(c)mewn perthynas ag apelau o dan Atodlen 4A i Ddeddf 1988 Act (rhybuddion i gwblhau), o dan baragraff 5C o Atodlen 9 (cosbau sifil) i Ddeddf 1988 ac o dan reoliadau a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 1988 (“y Rheoliadau hynny”), y Rheoliadau hynny;

(ch)mewn perthynas ag apelau o dan adran 45 o Ddeddf Draenio Tir 1991, y Ddeddf honno.

Dirwyn i ben

26.—(1Bydd yr hen Dribiwnlysoedd a'r hen Wasanaeth yn peidio â bod ar 1 Gorffennaf 2010 .

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 10, ar 30 Mehefin 2010, bydd aelodau'r hen Dribiwnlysoedd yn peidio â dal swydd fel y cyfryw ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(3Bydd llywyddion yr hen Dribiwnlysoedd ar 30 Mehefin 2010, yn peidio â dal swydd fel y cyfryw ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.