RHAN 2Sefydlu Tribiwnlys Prisio Cymru
Cadeiryddion y Tribiwnlys Prisio12
1
Pennir y nifer o aelodau'r Tribiwnlys Prisio sydd i'w penodi i swydd Cadeirydd gan y Tribiwnlys Prisio.
2
Bydd y Llywydd yn un o'r Cadeiryddion a rhaid i aelodau Tribiwnlys Prisio yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2, ond yn ddarostyngedig i reoliad 22, benodi gweddill nifer y Cadeiryddion o fewn y cyfnod rhagnodedig, drwy eu hethol o blith eu nifer.
3
Ar ddiwedd y cyfnod rhagnodedig, os na fydd etholiad wedi ei gynnal yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r Llywydd, benodi'r nifer priodol o aelodau i fod yn Gadeiryddion.
4
Bydd Cadeirydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes digwydd pa un bynnag o'r canlynol sy'n digwydd gyntaf —
a
y Cadeirydd hwnnw'n peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;
b
y Cadeirydd hwnnw'n ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd;
c
hysbysiad terfynu o dan baragraff (5) yn cael effaith.
5
O ran y Llywydd—
a
caiff, ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Llywodraethu, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gadeirydd, derfynu swydd y Cadeirydd hwnnw; a
b
rhaid iddo, os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i Gadeirydd hysbysiad ysgrifenedig sy'n terfynu swydd y Cadeirydd hwnnw, a bydd yr hysbysiad yn cael effaith ar ddiwedd pa bynnag gyfnod y cyfarwyddir felly.
6
Cyn rhoi cyfarwyddyd dan baragraff (5)(b) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd.
7
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “y cyfnod rhagnodedig” (“the prescribed period”) yw tri mis sy'n cychwyn pan fo swydd yn mynd yn wag ymhlith y nifer rhagnodedig;
ystyr “y nifer rhagnodedig” (“the determined number”) yw'r nifer a bennir gan y Tribiwnlys Prisio yn unol â pharagraff (1);
ystyr “y nifer priodol” (“the appropriate number”) yw'r nifer a bennir, llai'r nifer sydd ar y pryd yn dal swydd Cadeirydd.