- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
38.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth a gyflenwir yn unol â rheoliadau o dan adran 13 o Ddeddf 1992 neu Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, bydd gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi yn dderbyniadwy mewn unrhyw achos perthnasol fel tystiolaeth o unrhyw ffaith a nodir ynddi; a rhaid cymryd yn ganiataol bod unrhyw ddogfen sy'n dynodi ei bod yn cynnwys gwybodaeth o'r fath, oni phrofir yn wahanol—
(a)wedi ei chyflenwi gan y person y mae'n dynodi iddi gael ei chyflenwi ganddo; a
(b)wedi ei chyflenwi gan y person hwnnw yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth y dynodir iddi gael ei chyflenwi ganddo.
(3) Ni chaiff awdurdod bilio ddefnyddio gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn berthnasol iddi mewn unrhyw achosion perthnasol—
(a)oni fydd cyfnod o rybudd o ddim llai na dwy wythnos wedi ei roi ymlaen llaw i bob parti arall yn yr achos, gan nodi'r wybodaeth y bwriedir ei defnyddio felly a'r annedd neu'r person y mae'r wybodaeth yn berthynol iddi neu iddo; ac
(b)oni fydd unrhyw berson, nad yw wedi rhoi dim llai na 24 awr o rybudd o'i fwriad i wneud hynny, wedi ei ganiatáu gan yr awdurdod, ar unrhyw adeg resymol—
(i)i archwilio'r dogfennau a chyfryngau eraill y delir y wybodaeth ynddynt neu arnynt; a
(ii)i wneud copi o unrhyw ddogfen neu unrhyw ddarn o ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth o'r fath.
(4) Os nad yw unrhyw wybodaeth y mae angen ei rhoi ar gael i'w harchwilio yn unol â'r rheoliad hwn yn cael ei chadw ar ffurf dogfen, bodlonir y ddyletswydd i sicrhau bod yr wybodaeth ar gael felly os sicrheir bod allbrint, ffotograff neu atgynhyrchiad arall o'r wybodaeth, a adalwyd o'r cyfrwng storio a ddefnyddir i gadw'r wybodaeth honno, ar gael i'w archwilio.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “achos(ion) perthnasol” yw unrhyw achos(ion) ar, neu o ganlyniad i apêl, ac unrhyw achos(ion) ar neu o ganlyniad i atgyfeirio ar gyfer cymrodeddu o dan reoliad 45.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: