39.—(1) Ceir profi cynnwys rhestr drwy ddangos copi ohoni, neu gopi o'r rhan berthnasol ohoni, sy'n dynodi bod y swyddog rhestru wedi ardystio ei fod yn gopi cywir.
(2) Ceir profi cynnwys rhybudd i gwblhau drwy ddangos copi ohono sy'n dynodi bod y swyddog priodol o'r awdurdod bilio wedi ardystio ei fod yn gopi cywir.
(3) Ym mharagraff (2) mae i'r ymadrodd “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 (1).