- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
40.—(1) Ceir penderfynu apêl gan fwyafrif o'r aelodau sy'n cymryd rhan; ac os yw'r apêl (yn unol â rheoliad 37(2)), i'w phenderfynu gan ddau aelod ac nad oes modd iddynt gytuno, rhaid i'r Clerc atgyfeirio'r apêl yn ôl, i'w phenderfynu gan Banel Apêl sy'n cynnwys tri aelod gwahanol.
(2) Pan fo apêl i'w phenderfynu ar sail gwrandawiad, caiff y Panel Apêl naill ai ohirio'i benderfyniad neu ei roi ar lafar ar derfyn y gwrandawiad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad, rhaid—
(a)yn achos penderfyniad a roddwyd ar lafar, cadarnhau'r penderfyniad,
(b)mewn unrhyw achos arall, cyfleu'r penderfyniad,
drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r partïon; a rhaid anfon datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad, gyda'r hysbysiad.
(4) Nid oes dim ym mharagraff (3) sy'n gwneud yn ofynnol ailgyflwyno unrhyw ddogfen i barti, sydd eisoes wedi ei chyflwyno i'r person hwnnw yn unol â rheoliad 43.
(5) Yn achos apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau, rhaid i'r Clerc anfon hysbysiad o'r penderfyniad at y swyddog rhestru a benodwyd ar gyfer yr awdurdod bilio sy'n barti i'r apêl.
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” yw aelod o Banel Apêl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: