41.—(1) Ar neu ar ôl penderfynu apêl caiff y Panel Apêl, o ganlyniad i'r penderfyniad, wneud yn ofynnol drwy orchymyn bod—
(a)amcangyfrif yn cael ei ddileu neu ei ddiwygio;
(b)cosb yn cael ei dileu;
(c)penderfyniad awdurdod bilio yn cael ei wrth-droi;
(ch)cyfrifiad (yn hytrach nag amcangyfrif) o swm yn cael ei ddirymu a'r swm yn cael ei ailgyfrifo.
(2) Caiff gorchymyn wneud yn ofynnol y rhoddir sylw i unrhyw fater sy'n atodol i bwnc y gorchymyn.