- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
43.—(1) Dyletswydd y Clerc fydd gwneud trefniadau i gofnodi pob penderfyniad, pob gorchymyn a wneir o dan reoliad 41 ac effaith pob tystysgrif a dirymiad o dan reoliad 42.
(2) Ceir cadw cofnodion ar unrhyw ffurf, dogfennol neu fel arall, a rhaid iddynt gynnwys y manylion a bennir yn Atodlen 3.
(3) Rhaid anfon copi, ar ffurf dogfen, o'r nodyn perthnasol yn y cofnod at bob parti i'r apêl y mae'r nodyn yn berthnasol iddi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(4) Rhaid dal gafael ar bob cofnod am gyfnod o chwe blynedd, a fydd yn cychwyn ar y diwrnod y gwneir y nodyn olaf yn y cofnod.
(5) Caiff unrhyw berson, ar adeg resymol a bennir gan neu ar ran y Tribiwnlys Prisio, ac yn ddi-dâl, archwilio'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan baragraff (1).
(6) Os bydd person sydd â gofal o'r cofnod, heb esgus rhesymol, yn fwriadol yn rhwystro person rhag arfer yr hawl a roddir gan baragraff (5), bydd y person hwnnw'n agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.
(7) Caiff yr aelod a oedd yn llywyddu yn y gwrandawiad neu pan benderfynwyd apêl, awdurdodi cywiro unrhyw gamgymeriad clerigol yn y cofnod, a rhaid anfon copi o'r cofnod cywiredig at y personau yr anfonwyd copi o'r cofnod gwreiddiol atynt.
(8) Bydd dangos, mewn unrhyw achos mewn unrhyw lys barn, dogfen sy'n dynodi ei bod wedi ei hardystio gan y Prif Weithredwr neu gan Glerc Panel Apêl fel copi cywir o gofnod neu benderfyniad y Panel Apêl hwnnw, oni phrofir i'r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o'r ddogfen a'r ffeithiau a gofnodir ynddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: