2010 Rhif 736 (Cy.73) (C.50)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2010

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 20061 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt2, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2010.

2

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

Diwrnodau penodedig

2

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym at y diben o wneud rheoliadau ar 15 Mawrth 2010:

a

adran 57 (cyllido ysgolion) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a osodir ym mharagraff (b);

b

paragraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 5 (cyllido ysgolion a gynhelir).

3

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 2 Ebrill 2010:

a

adran 57 (cyllido ysgolion) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

b

adran 184 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a nodir ym mharagraff (ch);

c

Atodlen 5 (cyllido ysgolion a gynhelir) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

ch

yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998—

i

yn adran 17(6), y geiriau o “but” ymlaen,

ii

adran 47A(6),

iii

yn adran 48(4), y geiriau o “the approval” hyd at “and for”,

iv

yn Atodlen 14, paragraff 1(1) i (6), yn Atodlen 15, paragraffau 1(4) a (6), 2(5) a 3.

Darpariaeth drosiannol4

Dim ond mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny y mae'r diwygiadau a wneir i adrannau 48 a 49 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ac Atodlen 14 iddi, gan baragraffau 3 i 5 o Atodlen 5 i Ddeddf 2006 a'r diddymiad yn Rhan 6 o Atodlen 18 i Ddeddf 2006 o baragraff 1(1) i (6) o Atodlen 14 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn gymwys.

Leighton AndrewsY Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 57 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac Atodlen 5 iddi i rym at y diben o wneud rheoliadau ar 15 Mawrth 2010 ac yna'n llawn ar 2 Ebrill 2010 (ynghyd â diddymiadau cysylltiedig a wnaed gan adran 184 ac Atodlen 18).

  • Mae adran 57 ac Atodlen 5 yn diwygio darpariaethau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion a gynhelir. Effaith y diwygiadau hyn fydd fel a ganlyn:

  • Diwygir adran 47A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (fforymau ysgolion) er mwyn cyfeirio at unrhyw swyddogaeth a osodir ar fforymau ysgolion gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a dileu'r ddarpariaeth a oedd yn caniatáu rheoliadau i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru symud aelod nad yw'n aelod ysgolion o fforwm;

  • Diwygir adran 48 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 14 iddi fel bod dyletswydd awdurdod addysg lleol i baratoi cynllun ariannol yn cael ei disodli gan ddyletswydd i gynnal cynllun a rhaid i unrhyw gynigion i amrywio'r cynllun gael eu cyflwyno i'r fforwm ysgolion. Bydd rheoliadau'n gallu darparu ynghylch cymeradwyaeth gan y fforwm ysgolion neu gan Weinidogion Cymru;

  • Diwygir adran 49 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel y bydd gan ysgolion newydd gyllidebau dirprwyedig o ddyddiad a bennir mewn rheoliadau;

  • Diwygir Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 er mwyn dileu hawl corff llywodraethu i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn atal eu hawl i gael cyllideb ddirprwyedig.

  • Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol er mwyn darparu mai dim ond mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny y mae'r diwygiadau a wneir i adrannau 48 a 49 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ac Atodlen 14 iddi, yn gymwys.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 1

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 4

1 Medi 2009

2009/1027 (Cy.89)

Adran 37(1) a (2)(a)

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 38

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 39

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 40

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adrannau 43—45

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 47

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 53

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 55

9 Chwefror 2009

2009/49 (Cy.17)

Adran 89 yn rhannol

1 Ionawr 2010

2009/2545 (Cy.207)

Adran 96 yn rhannol

1 Ionawr 2010

2009/2545 (Cy.207)

Adran 156

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 164

1 Medi 2009

2009/1027 (Cy.89)

Adran 166

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 169

12 Hydref 2009

2009/2545 (Cy.207)

Adran 170

12 Hydref 2009

2009/2545 (Cy.207)

Adran 171

12 Hydref 2009

2009/2545 (Cy.207)

Adran 175

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 184 yn rhannol

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 184 yn rhannol

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 184 yn rhannol

1 Medi 2009

2009/1027 (Cy.89)

Adran 184 yn rhannol

1 Ionawr 2010

2009/2545 (Cy.207)

Atodlen 17

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Atodlen 18 yn rhannol

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Atodlen 18 yn rhannol

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Atodlen 18 yn rhannol

1 Medi 2009

2009/1027 (Cy.89)

Atodlen 18 yn rhannol

1 Ionawr 2010

2009/2545 (Cy.207)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.

Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (ddeufis yn ddiweddarach).