Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
11 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mawrth 2010
Yn dod i rym
2 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 9, 12 a 142(5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1), adrannau 23(2) a (9) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(2) a pharagraff 12A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno ac adrannau 22(1) a 118(1) a (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(3), yn gwneud y Rheoliadau canlynol —
2002 p.38. Diwygiwyd adran 12 gan adran 57 o Ddeddf Plant 2004 (p.31) a chan adran 34 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23).
1989 p.41. Mae adran 8(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi yn darparu bod effaith i Ddeddf Plant 1989 fel petai paragraff 12A wedi ei fewnosod ar ol paragraph 12.