(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“Deddf 2002”) a Deddf Plant 1989 (“Deddf 1989”). Maent yn darparu ar gyfer adolygu gan banel annibynnol mewn tri math o achos. Yn gyntaf, penderfyniad a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 i'r perwyl ei bod yn bwriadu peidio â chymeradwyo darpar fabwysiadydd fel un sy'n addas i fabwysiadu plentyn, neu benderfyniad, yn dilyn adolygiad, i'r perwyl nad yw darpar fabwysiadydd mwyach yn addas i fabwysiadu plentyn. Yn ail, penderfyniadau a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005. Yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn, pennir bod penderfyniadau o'r math hwnnw yn benderfyniadau cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o Ddeddf 2002. Yn drydydd, penderfyniad a wnaed gan ddarparydd gwasanaeth maethu o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 i'r perwyl nad yw'r darparydd yn bwriadu cymeradwyo darpar riant maeth fel un sy'n addas i faethu plentyn, neu benderfyniad i derfynu, neu ddiwygio telerau cymeradwyaeth person fel rhywun sy'n addas i fod yn rhiant maeth. Yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, pennir bod penderfyniadau o'r math hwnnw yn benderfyniadau cymhwysol at ddibenion paragraff 12A(2)(b) o Ddeddf 1989.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddi panelau a'u haelodaeth, eu swyddogaethau a thalu ffioedd, cyfarfodydd a chadw cofnodion y panelau a benodir gan Weinidogion Cymru i adolygu penderfyniadau cymhwysol.

Yn Rhan 3 gwneir darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn pan wneir cais am adolygiad o benderfyniad cymhwysol, gan banel a gyfansoddwyd o dan Ran 2; a darperir ar gyfer i'r sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol dalu pa bynnag gostau i Weinidogion Cymru a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru.

Mae Rhan 4 yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003. Diwygir rheoliad 24 o'r Rheoliadau hynny mewn perthynas â'r tymhorau y caiff aelodau o banelau aros yn eu swydd. Diwygir rheoliad 25 mewn perthynas â swyddogaethau'r panel maethu. Disodlir rheoliadau 28 a 29 o'r Rheoliadau hynny gan reoliadau newydd sy'n darparu ar gyfer hawl i gael adolygiad annibynnol o rai penderfyniadau a wneir gan wasanaeth maethu. Mewnosodir rheoliad 29A newydd, sy'n cyfeirio at yr wybodaeth y mae'n rhaid ei hanfon at y panel adolygu annibynnol.