24.—(1) Diwygir rheoliad 24 o'r Rheoliadau Maethu fel a ganlyn:
(2) Ym mharagraff (3)(b)(i) ar ôl 'unigolyn hwnnw' mewnosoder “neu gyflogai'r asiantaeth sy'n ymwneud â rheolaeth yr asiantaeth neu, pan nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, person arall (nad oes rhaid iddo fod yn gyflogai'r asiantaeth) sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaeth maethu”.
(3) Yn lle paragraff (6) rhodder—
“(6) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6A) a (6B)—
(a)caiff aelod o banel maethu ddal ei swydd am gyfnod na fydd yn hwy na thair blynedd; a
(b)ni chaiff neb ddal swydd fel aelod o banel maethu yr un darparydd gwasanaeth maethu am fwy na thri thymor heb gyfnod cyfamserol”.
(4) Ar ôl paragraff (6) mewnosoder—
“(6A) Pan fo —
(a)aelod o'r panel maethu yn dal swydd fel aelod o'r panel maethu hwnnw yn unol â pharagraff 3(b)(i) ac yntau yn ei ail dymor mewn swydd yn olynol fel aelod o'r panel maethu hwnnw; a
(b)y tymor mewn swydd hwnnw i fod i ddod i ben ar neu ar ôl 2 Ebrill 2010, caiff yr aelod hwnnw barhau i ddal swydd fel aelod o'r panel maethu hwnnw am gyfnod pellach na fydd yn hwy na 12 mis.”.
(5) Ar ôl paragraff (6A) mewnosoder—
“(6B) Pan fo tymor mewn swydd aelod o banel wedi ei estyn am gyfnod pellach o dan baragraff (6A) a'r aelod hwnnw o'r panel yn cael ei benodi am drydydd cyfnod mewn swydd heb gyfnod cyfamserol, ni chaiff y tymor mewn swydd hwnnw fod yn hwy na chyfnod o dair blynedd llai cyfnod sy'n hafal i'r estyniad a wnaed i'r ail gyfnod.
(6C) At ddibenion paragraffau (6) a (6B), ystyr “cyfnod cyfamserol” (“intervening period”) yw cyfnod di-dor o dair blynedd o leiaf, pan nad oedd yr unigolyn dan sylw, drwy gydol y cyfnod, yn aelod o'r panel maethu.”.
25. Yn rheoliad 26 o'r Rheoliadau Maethu, ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
“(1A) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud o dan baragraff (1)—
(a)rhaid i'r panel maethu bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a basiwyd ymlaen iddo yn unol â rheoliad 27, 28 neu 29, yn ôl fel y digwydd;
(b)caiff y panel maethu ofyn i'r darparydd gwasanaeth maeth gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall a ystyrir yn angenrheidiol gan y panel maethu, neu darparu unrhyw gymorth arall y gofynnir amdano gan y panel; ac
(c)caiff y panel maethu gaffael unrhyw gyngor cyfreithiol neu gyngor meddygol yr ystyria'n angenrheidiol mewn perthynas â'r achos.
(1B) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gaffael pa bynnag wybodaeth a ystyrir yn angenrheidiol gan y panel maethu, anfon yr wybodaeth honno ymlaen at y panel, a darparu pa bynnag gymorth arall y gofynnir amdano gan y panel, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol.”.
26. Yn lle rheoliadau 28 a 29 o'r Rheoliadau Maethu, rhodder —
28.—(1) Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu beidio â chymeradwyo person sydd wedi'i gymeradwyo fel rhiant maeth gan ddarparydd gwasanaeth maethu arall, ac nad yw ei gymeradwyaeth wedi'i therfynu.
(2) Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu beidio â chymeradwyo person fel rhiant maeth—
(a)oni fydd wedi cwblhau ei asesiad o addasrwydd y person hwnnw; a
(b)oni fydd ei banel maethu wedi ystyried y cais.
(3) Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu, wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo person fel rhiant maeth a phenderfynu ynghylch telerau unrhyw gymeradwyaeth, gymryd i ystyriaeth argymhelliad ei banel maethu.
(4) Ni chaiff unrhyw aelod o'i banel maethu gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad a wneir gan ddarparydd gwasanaeth maethu o dan baragraff (3).
(5) Os yw darparydd gwasanaeth maethu yn penderfynu cymeradwyo person fel rhiant maeth rhaid iddo —
(a)rhoi i'r person hwnnw hysbysiad ysgrifenedig sy'n pennu telerau'r gymeradwyaeth, er enghraifft, a yw'r gymeradwyaeth yn ymwneud â phlentyn neu blant penodol a enwir, neu â nifer ac ystod oedran plant, neu â lleoliadau o unrhyw fath penodol, neu a yw'n gymeradwyaeth o dan unrhyw amgylchiadau penodol; a
(b)gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r person hwnnw sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 5 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y “cytundeb gofal maeth”).
(6) Os yw darparydd gwasanaeth maethu o'r farn nad yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth rhaid iddo, yn ddarostyngedig i baragraff (7) —
(a)rhoi i'r person hwnnw hysbysiad ysgrifenedig i'r perwyl ei fod yn bwriadu peidio â'i gymeradwyo fel person addas i fod yn rhiant maeth (sef ei “benderfyniad”), ynghyd â'i resymau a chopi o argymhelliad y panel maethu; a
(b)hysbysu'r person hwnnw y caiff, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad —
(i)cyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig y dymuna'r person hwnnw eu gwneud i'r darparydd gwasanaeth maethu, neu
(ii)gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.
(7) Nid yw paragraff (6)(b)(ii) yn gymwys mewn achos pan fo'r darparydd gwasanaeth maethu yn ystyried yn unol â rheoliad 27(6) nad yw'r person yn addas i weithredu fel rhiant maeth.
(8) O fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b) —
(a)os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau; a
(b)os nad yw'r person yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol,
caiff y darparydd gwasanaeth maethu fynd ymlaen i wneud ei benderfyniad.
(9) Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), rhaid iddo —
(a)gyfeirio'r achos at y panel maethu i'w ystyried ymhellach; a
(b)gwneud ei benderfyniad, gan ystyried unrhyw argymhelliad newydd a wneir gan y panel maethu.
(10) Os yw'r person, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b) yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu wneud ei ddyfarniad terfynol gan gymryd i ystyriaeth argymhelliad y panel maethu yn ogystal ag argymhelliad y panel adolygu annibynnol.
(11) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y dyfarniad terfynol y cyfeirir ato ym mharagraff (8), (9)(b) neu (10), yn ôl fel y digwydd, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i'r darpar riant maeth ac —
(a)os y penderfyniad yw cymeradwyo'r person fel rhiant maeth, cydymffurfio â pharagraff (5) mewn perthynas â'r person; neu
(b)os y penderfyniad yw peidio â chymeradwyo'r person, darparu rhesymau ysgrifenedig am ei benderfyniad.
(12) Mewn achos pan fo panel adolygu annibynnol wedi gwneud argymhelliad, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu anfon copi at Weinidogion Cymru o'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (11).
29.—(1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu adolygu cymeradwyaeth pob rhiant maeth yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid cynnal adolygiad o fewn un flwyddyn fan hwyaf ar ôl cymeradwyo, ac wedi hynny pan fo'r darparydd gwasanaeth maethu yn ystyried bod angen, ond beth bynnag fesul cyfnod o ddim mwy nag un flwyddyn.
(3) Wrth ymgymryd ag adolygiad rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu —
(a)gwneud pa bynnag ymholiadau a chaffael pa bynnag wybodaeth yr ystyria'n angenrheidiol er mwyn adolygu a yw'r person yn parhau'n addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn parhau'n addas;
(b)canfod a chymryd i ystyriaeth farn y canlynol—
(i)y rhiant maeth;
(ii)(yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth y plentyn) unrhyw blentyn a leolwyd â'r rhiant maeth; a
(iii)unrhyw awdurdod cyfrifol sydd, o fewn y flwyddyn flaenorol, wedi lleoli plentyn gyda'r rhiant maeth.
(4) Ar ddiwedd yr adolygiad rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu baratoi adroddiad ysgrifenedig, sy'n nodi —
(a)a yw'r person yn parhau'n addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn parhau'n addas; a
(b)a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau'n briodol.
(5) Ar achlysur yr adolygiad cyntaf o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gyfeirio'i adroddiad i'w ystyried gan y panel maethu, a chaiff wneud hynny pan gynhelir unrhyw adolygiad dilynol.
(6) Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn penderfynu, ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad gan y panel maethu, bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau'n addas a bod telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth yn parhau'n briodol, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i'r rhiant maeth.
(7) Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu, ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad gan y panel maethu, bellach wedi'i fodloni bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau'n addas, neu fod telerau'r gymeradwyaeth yn briodol, rhaid iddo (yn ddarostyngedig i baragraff (9)) —
(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth i'r perwyl ei fod yn bwriadu terfynu cymeradwyaeth, neu, yn ôl fel y digwydd, adolygu telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth (sef ei “benderfyniad”), ynghyd â'i resymau a chopi o'r argymhelliad a wnaed gan y panel maethu; a
(b)hysbysu'r rhiant maeth y caiff, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad —
(i)cyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig y dymuna'r rhiant maeth eu gwneud i'r darparydd gwasanaeth maethu; neu
(ii)gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.
(8) Nid yw paragraff (7)(b)(ii) yn gymwys mewn achos pan, yn unol â rheoliad 27(6), nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu bellach wedi ei fodloni bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau'n addas, neu fod telerau'r gymeradwyaeth yn briodol.
(9) O fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b) —
(a)os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau; a
(b)os nad yw'r rhiant maeth yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol;
caiff y darparydd gwasanaeth maethu fynd ymlaen i wneud ei ddyfarniad terfynol.
(10) Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), rhaid iddo —
(a)gyfeirio'r achos at y panel maethu i'w ystyried; a
(b)gwneud ei ddyfarniad terfynol gan gymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu.
(11) Os yw'r person, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b) yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu wneud ei ddyfarniad terfynol gan gymryd i ystyriaeth argymhelliad y panel maethu yn ogystal ag argymhelliad y panel adolygu annibynnol.
(12) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y dyfarniad terfynol y cyfeirir ato ym mharagraff (9), (10)(b) neu (11) rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth, gan ddatgan (yn ôl fel y digwydd) —
(a)bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau'n addas, a bod telerau'r gymeradwyaeth yn parhau'n briodol;
(b)bod cymeradwyaeth y rhiant maeth wedi ei therfynu o ddyddiad penodedig, a'r rhesymau dros y terfynu; neu
(c)telerau diwygiedig y gymeradwyaeth a'r rhesymau dros y diwygio.
(13) Caiff rhiant maeth roi hysbysiad ysgrifenedig i'r darparydd gwasanaeth maethu ar unrhyw adeg, i'r perwyl nad yw'r rhiant maeth bellach yn dymuno gweithredu fel rhiant maeth, ac yna terfynir cymeradwyaeth y rhiant maeth ymhen 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r hysbysiad i law'r darparydd gwasanaeth maethu.
(14) Rhaid anfon copi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn at yr awdurdod sy'n gyfrifol am unrhyw blentyn a leolir gyda'r rhiant maeth (onid y darparydd gwasanaeth maethu yw'r awdurdod cyfrifol hwnnw), a hefyd at yr awdurdod ardal.
(15) Mewn achos pan fo panel adolygu annibynnol wedi gwneud argymhelliad, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu anfon copi at Weinidogion Cymru o'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (13).”.
27. Ar ôl rheoliad 29 o'r Rheoliadau Maethu, mewnosoder —
29A.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru i'r perwyl bod person wedi gwneud cais am adolygiad o penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.
(2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), anfon at Weinidogion Cymru y dogfennau a'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y canlynol yw'r dogfennau a'r wybodaeth a bennir at ddibenion paragraff (2) —
(a)copi o unrhyw adroddiad a baratowyd ar gyfer, ac o unrhyw ddogfennau eraill a gyfeiriwyd at, y panel maethu at ddibenion rheoliad 27, 28 neu 29, yn ôl fel y digwydd;
(b)unrhyw wybodaeth berthnasol ynglŷn â'r person, a ddaeth i law'r darparydd gwasanaeth maethu ar ôl y dyddiad y paratowyd yr adroddiad neu y cyfeiriwyd yr wybodaeth at y panel maethu; ac
(c)copi o'r hysbysiad ac o unrhyw ddogfennau eraill a anfonwyd yn unol â rheoliad 28(6)(a) neu 29(7)(a).”.