Cais am adolygu penderfyniad cymhwysol
19.—(1) Rhaid i gais i Weinidogion Cymru am adolygiad o benderfyniad cymhwysol gael ei wneud gan y ceisydd mewn ysgrifen, a rhaid iddo gynnwys y sail dros ei wneud.
(2) Yn achos penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu yn unig, caiff darpar fabwysiadydd, o fewn cyfnod o 40 diwrnod gwaith sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr anfonodd yr asiantaeth fabwysiadu yr hysbysiad o'r penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â'r darpar fabwysiadydd, wneud cais i Weinidogion Cymru am i banel gael ei gyfansoddi i adolygu'r penderfyniad hwnnw.