RHAN 4DIWYGIO'R RHEOLIADAU MAETHU

Diwygio'r Rheoliadau Maethu — dyletswydd i anfon gwybodaeth at Weinidogion Cymru27

Ar ôl rheoliad 29 o'r Rheoliadau Maethu, mewnosoder —

Gwybodaeth sydd i'w hanfon at y panel adolygu annibynnol29A

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru i'r perwyl bod person wedi gwneud cais am adolygiad o penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.

2

Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), anfon at Weinidogion Cymru y dogfennau a'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3).

3

Y canlynol yw'r dogfennau a'r wybodaeth a bennir at ddibenion paragraff (2) —

a

copi o unrhyw adroddiad a baratowyd ar gyfer, ac o unrhyw ddogfennau eraill a gyfeiriwyd at, y panel maethu at ddibenion rheoliad 27, 28 neu 29, yn ôl fel y digwydd;

b

unrhyw wybodaeth berthnasol ynglŷn â'r person, a ddaeth i law'r darparydd gwasanaeth maethu ar ôl y dyddiad y paratowyd yr adroddiad neu y cyfeiriwyd yr wybodaeth at y panel maethu; ac

c

copi o'r hysbysiad ac o unrhyw ddogfennau eraill a anfonwyd yn unol â rheoliad 28(6)(a) neu 29(7)(a).