Enwi a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 9 Ebrill 2010.

Diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007

2

Diwygir Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 20074 yn unol â rheoliadau 3 to 10.

3

Ym mharagraff (1) of reoliad 2 (dehongli)—

a

yn union ar ôl y diffiniad o “techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn” mewnosoder y diffiniad canlynol—

  • ystyr “triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig” (“authorised activated alumina treatment”) yw—

    1. a

      triniaeth i ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid ohono, sydd wedi ei hawdurdodi yn unol ag Atodlen 1A; neu

    2. b

      yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon a ddygir i mewn i Gymru o ran arall o'r Deyrnas Unedig neu o wladwriaeth arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, triniaeth sy'n cydymffurfio ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010;

b

yn union ar ôl y diffiniad o “potel” mewnosoder y diffiniad canlynol—

  • ystyr “Rheoliad 115/2010” (“Regulation 115/2010”) Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 115/2010 sy'n pennu'r amodau ar gyfer defnyddio alwmina actifedig i dynnu fflworid o ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon5;

c

yn y diffiniad o “techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn” yn lle'r geiriau ““techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn”” rhodder ““techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn”

4

Yn lle paragraff (1) o reoliad 6 (triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau ato) rhodder y paragraff canlynol—

1

O ran dŵr mwynol naturiol yn ei gyflwr wrth y tarddiad, ni chaiff neb—

a

roi iddo unrhyw driniaeth ac eithrio —

i

techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn,

ii

gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a ocsigeneiddir ef yn gyntaf ai peidio, i'r graddau nad yw'r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy'n rhoi iddo ei briodoleddau,

iii

dileu'r carbon deuocsid rhydd yn llwyr neu'n rhannol drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol, neu

iv

triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig; neu

b

ychwanegu dim ato ac eithrio cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid i gynhyrchu dŵr mwynol naturiol eferw.

5

Yn union ar ôl paragraff (2) o reoliad 10 (potelu dŵr ffynnon a datblygu ffynhonnau dŵr ffynnon) mewnosoder y paragraff canlynol—

2A

Ni chaiff neb beri i unrhyw ddŵr, a driniwyd ag alwmina actifedig i dynnu fflworid ohono, gael ei botelu mewn potel sydd wedi'i marcio neu'i labelu fel “dŵr ffynnon” onid yw'r driniaeth honno yn driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig.

6

Yn lle paragraff (3) o reoliad 16 (gorfodi) rhodder y paragraffau canlynol—

3

Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal, gyflawni archwiliadau cyfnodol ar unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig, y rhoddwyd yr awdurdodiad ar ei chyfer gan yr awdurdod hwnnw yn unol ag Atodlen 1A er mwyn sicrhau y parheir i fodloni gofynion yr Atodlen honno.

4

Rhaid i bob awdurdod bwyd, o fewn ei ardal, weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

5

At y dibenion o gyflawni'r swyddogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (4) mewn perthynas â dŵr yfed a dŵr ffynnon wedi'i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd—

a

yn ddarostyngedig i baragraff (6), fonitro ansawdd unrhyw ddŵr o'r fath yn rheolaidd, er mwyn gwirio—

i

a yw'n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 98/83,

ii

a yw'n cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer unrhyw baramedr sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth rhagnodedig,

iii

a yw'n cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer priodwedd, elfen, sylwedd neu organeb a bennir yn Atodlen 9 (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno) sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth a bennir yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb dan sylw, fel y'i mesurir yn ôl yr uned mesur a bennir felly,

iv

pan fo awdurdod bwyd, yn unol ag is-baragraff (iii), yn canfod bod y dŵr dan sylw yn cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth a bennir mewn perthynas ag ef yn Atodlen 9 (fel y'i darllenir ynghyd â Nodyn 2 i'r Atodlen honno), a oes unrhyw berygl i iechyd dynol, sy'n codi o bresenoldeb micro-organebau pathogenig yn y dŵr, a

v

pan fo diheintio yn rhan o baratoi neu ddosbarthu'r dŵr dan sylw, a yw'r driniaeth ddiheintio a roddir yn effeithlon, ac a gedwir yr halogi gan sgil-gynhyrchion diheintio mor isel ag y bo modd heb amharu ar effaith y diheintio.

b

er mwyn cydymffurfio ag is-baragraff (a)—

i

monitro yn rheolaidd drwy wiriadau y paramedrau, priodweddau, elfennau, sylweddau ac organebau a bennir yn Atodlen 10, (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno), a

ii

monitro drwy archwiliad mewn perthynas ag unrhyw baramedr a'r priodweddau, elfennau, sylweddau ac organebau a bennir yn Atodlen 9, (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno);

c

at ddibenion is-baragraff (b), cyflawni unrhyw samplu a dadansoddi yn unol â'r amlderau lleiaf perthnasol a bennir yn Atodlen 11; ac

ch

cyflawni monitro ychwanegol mewn perthynas ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb nad yw'n baramedr nac yn briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb a bennir yn Atodlen 9, os oes rheswm gan yr awdurdod bwyd i amau y gall fod yn bresennol yn y dŵr dan sylw mewn maint neu nifer sy'n achosi perygl posibl i iechyd dynol.

6

Rhaid cyflawni'r gwiriadau a'r monitro y cyfeirir atynt ym mharagraff (5)(a), (b) ac (ch) gan ddefnyddio samplau sy'n gynrychiadol o ansawdd y dŵr dan sylw a ddefnyddir drwy gydol y flwyddyn y cymerir y samplau ynddi.

7

Yn lle rheoliad 20 (tramgwyddau a chosbau) rhodder y rheoliad canlynol—

Tramgwyddau a chosbau20

1

Mae person yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw'r person hwnnw—

a

yn mynd yn groes i reoliad 5, 6(1), 7(1), (3) neu (4), 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15 neu 22(3);

b

yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o Reoliad 115/2010 a bennir ym mharagraff (2); neu

c

yn cyflawni triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig sydd â'i heffaith yn ddiheintiol.

2

Y darpariaethau yw—

a

Erthygl 1.2 (gofyniad bod triniaethau awdurdodedig ag alwmina actifedig yn cael eu cyflawni yn unol â'r gofynion technegol a bennir yn yr Atodiad);

b

y frawddeg gyntaf o Erthygl 2 (gofyniad bod maint y gweddillion a ryddheir i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon o ganlyniad i unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig mor isel ag y bo'n ddichonadwy yn dechnegol yn unol â'r arferion gorau, ac nad yw'n achosi risg i iechyd y cyhoedd);

c

yr ail frawddeg o Erthygl 2 (gofyniad bod gweithredwyr, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r frawddeg gyntaf o Erthygl 2, yn cyflawni ac yn monitro'r camau prosesu critigol a bennir yn yr Atodiad);

ch

Erthygl 3.1 (gofyniad i hysbysu'r awdurdodau cymwys ynghylch gweithredu triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig, dri mis, o leiaf, cyn defnyddio'r driniaeth); a

d

Erthygl 4 fel y'i darllenir ynghyd ag ail baragraff Erthygl 5 (gofyniad, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, bod y label ar ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon y rhoddwyd unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig iddo, yn cynnwys gwybodaeth benodedig, yn agos at y datganiad o'r cyfansoddiad dadansoddol).

8

Yn union ar ôl Atodlen 1 (amodau ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn), mewnosoder yr Atodlen a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

9

Yn union ar ôl Atodlen 8 (Mynegiadau labelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a meini prawf ar gyfer eu defnyddio) ychwaneger yr Atodlenni a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

10

Diwygir testun Cymraeg y prif Reoliadau fel a ganlyn—

1

Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “dŵr yfed”, yn lle'r geiriau ““dŵr ffynnon”” yn is-baragraff (b) rhodder y geiriau ““spring water””;

2

Yn rheoliadau 2(1), 6(1)(a)(i), 8(2)(ch), 10(2), 11(3)(c) ac 16(2), yn lle'r geiriau “techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn” ym mha le bynnag y digwyddant, rhodder y geiriau “techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn”;

3

Yn rheoliad 8(1)(dd), yn lle'r geiriau ““gall fod yn ddiwretig”” rhodder ““may be diuretic”” ac yn lle'r geiriau ““gall fod yn garthydd”” rhodder ““may be laxative””;

4

Yn rheoliad 8(1)(e), yn lle'r geiriau ““mae'n ysgogi treuliad”” rhodder ““stimulates digestion””, ac yn lle'r geiriau ““gall hyrwyddo'r swyddogaethau hepato-bustlog”” rhodder ““may facilitate the hepato-biliary functions””;

5

Yn rheoliad 9(1), yn lle'r cyfeiriad cyntaf at y geiriau ““dŵr mwynol naturiol”” rhodder y geiriau ““natural mineral water””;

6

Yn rheoliad 10(1), yn lle'r geiriau “neu “dŵr ffynnon”” rhodder ““spring water””;

7

Yn rheoliad 11(1), (2), (3) yn lle'r geiriau ““dŵr ffynnon”” rhodder y geiriau ““spring water”” ym mha le bynnag y digwyddant ac eithrio ym mhennawd y rheoliad;

8

Yn rheoliad 12 yn lle ““dŵr ffynnon”” rhodder y geiriau ““spring water”” ym mha le bynnag y digwyddant ac eithrio ym mhennawd y rheoliad;

9

Yn rheoliad 14(a)(ii) a (b)(ii), yn lle'r geiriau ““dŵr mwynol”” rhodder ““mineral water””;

10

Ym mharagraff 5(3) o Atodlen 4 yn lle'r geiriau ““dŵr ffynnon”” rhodder ““spring water””.

Gwenda ThomasY Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru