xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 799 (Cy.79)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010

Gwnaed

15 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Mawrth 2010

Yn dod i rym

At ddibenion rheoliad 6

6 Ebrill 2010

At bob diben arall

12 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar—

(a)6 Ebrill 2010 at ddibenion rheoliad 6; a

(b)12 Ebrill 2010 at bob diben arall.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Symiau y mae eu hangen at anghenion personol

2.  Y swm y bydd awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 fydd £22.50 yr wythnos.

Dirymu

3.  Mae rheoliadau 2, 3, 4, 5 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2009(4) drwy hyn wedi eu dirymu.

4.  Mae rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau drwy hyn wedi ei ddirymu.

Cynyddu swm y credyd cynilion sydd i'w ddiystyru

5.—(1Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â'r paragraff canlynol.

Diwygiadau eraill i'r Prif Reoliadau

6.—(1Diwygir y Prif Reoliadau ymhellach yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli) ar ôl y geiriau “prospective resident” mewnosoder—

(3Yn Atodlen 2 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo enillion), yn is-baragraff (2) o baragraff 3—

(a)ym mharagraff (b), yn lle “the age of 60” rhodder “the qualifying age”; a

(b)ym mharagraff (c), yn lle “the age of 60” ym mhob lle y mae'n ymddangos, rhodder “the qualifying age”.

(4Yn Atodlen 3 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion), yn is-baragraff (6) o baragraff 28H, hepgorer paragraff (b).

(5Yn Atodlen 4 (cyfalaf sydd i'w ddiystyru), ym mharagraff 2(7), yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—

(1) The value of any premises—

(a)which would be disregarded under paragraph 2 or 4(b) of Schedule 10 to the Income Support Regulations (premises acquired for occupation and premises occupied by a former partner); or

(b)occupied in whole or in part as their home by the resident's—

(i)partner,

(ii)other family member or relative who is aged over 60 or over or is incapacitated, or

(iii)child.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2009 (“y Rheoliadau Anghenion Personol”) a Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”). Deuant i rym ar 6 Ebrill 2010 at ddibenion rheoliad 6 ac ar 12 Ebrill 2010 at bob diben arall.

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r swm sydd ei angen ar gyfer anghenion personol, fel bod y swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i'w ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ei angen ar breswylwyr mewn llety a drefnir o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ar gyfer anghenion personol yn cynyddu i £22.50 yr wythnos.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn dirymu rhannau o'r Rheoliadau Anghenion Personol a'r Prif Reoliadau. Effaith dirymu rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau yw y diddymir y system bresennol o gyfrifo incwm tariff drwy gael terfyn cyfalaf isaf ac uwch, fel nad oes bellach ddim ond un terfyn cyfalaf, sydd yn aros yn £22,000.

Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer cynyddu i £5.75 (£8.60 os oes partner gan y preswylydd) swm unrhyw gredyd cynilion sydd i'w ddiystyru yn unol â pharagraff 28H o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 6 yn gwneud dau ddiwygiad pellach i'r Prif Reoliadau.

Diwygiad canlyniadol yw paragraff (3), a wneir o ganlyniad i ddiwygiadau (“y diwygiadau”) yn Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987, a ddaw i rym ar 6 Ebrill 2010. Mae'r ddiystyriaeth enillion ar gyfer hawlwyr sy'n cael premiwm anabledd wedi ei gysylltu ag oedran ymddeol, a chyn i'r diwygiadau ddod i rym byddai'n dod i ben pan gyrhaeddai'r hawlydd 60 oed. O ganlyniad i'r diwygiadau, newidiwyd yr oedran pan delir premiwm anabledd er mwyn cysoni'r hawlogaeth â'r oedran cymwys am gredyd pensiwn y wladwriaeth. Mae rheoliad 6(3) yn gwneud y newidiadau sy'n ofynnol i gysoni'r darpariaethau.

Mae paragraff (5) yn diwygio'r Prif Reoliadau fel bod y cyfalaf a ddiystyrir ar gyfer gwerth mangre a feddiennir gan bartner neu aelod o deulu preswylydd yn gymwys mewn perthynas â phob partner (ac nid yn unig partneriaid sy'n 60 oed a throsodd neu'n analluog) ac o ran aelodau teuluol a pherthnasau eraill, yn gymwys yn unig mewn perthynas â rhai sy'n 60 oed a throsodd neu'n analluog.

(1)

1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael y diffiniadau o “the minister” a “prescribed” yn y drefn honno ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a throsglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3)

O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol.

(6)

Mewnosodwyd diffiniad o “relative” yn yr un termau ar gyfer yr Alban yn unig gan O.S.A. 2009/381, rheoliad 2(1).

(7)

Rhoddodd O.S. 1993/964 ddarpariaethau yn lle paragraff 2 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 2009/462.