xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8.—(1) Rhaid i awdurdod lleol ddyrannu ym mhob cyfnod cyllido yn unol â'r Rhan hon o'r Rheoliadau hyn, y cyfan o'i gyllideb ysgolion unigol ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw fel cyfrannau'r ysgolion a gynhelir ganddo o'r gyllideb.
(2) Ar y cychwyn nid oes raid i awdurdod lleol ddyrannu'r cyfan o'i gyllideb ysgolion unigol ar ffurf cyfrannau o'r gyllideb ar ddechrau cyfnod cyllido, ac yn lle hynny caniateir iddo ddal ei afael ar swm ar gyfer ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau ond rhaid i'r swm hwnnw gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw neu gael ei ddosbarthu i ysgolion yn unol â gofynion paragraff (1) cyn diwedd y cyfnod cyllido hwnnw.
9.—(1) Cyn 31 Mawrth yn union cyn dechrau cyfnod cyllido, rhaid i awdurdod lleol—
(a)gwneud penderfyniad cychwynnol ar swm cyfran ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw, a
(b)hysbysu cyrff llywodraethu'r ysgolion a gynhelir ganddo o gyfran pob ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw.
(2) Rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1)(b) gynnwys esboniad ar sut y penderfynwyd cyfran yr ysgol o'r gyllideb ac amcangyfrif o gyfrannau'r ysgol o'r gyllideb ar gyfer y ddau gyfnod cyllido sy'n dilyn ond nid yw'r amcangyfrif hwnnw'n rhwymo'r awdurdod o ran y penderfyniadau gwirioneddol a wneir ganddo ar gyfer y ddau gyfnod cyllido sy'n dilyn.
10.—(1) Rhaid i awdurdod lleol benderfynu cyn dechrau cyfnod cyllido, ac ar ôl yr ymgynghori y cyfeirir ato yn rheoliad 11, y fformiwla y bydd yn ei defnyddio i benderfynu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb yn y cyfnod cyllido hwnnw gan roi sylw i'r ffactorau, y meini prawf a'r gofynion a nodir yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol i fformiwla o'r fath fod yn syml, yn wrthrychol, yn fesuradwy, yn rhagweladwy o ran ei heffaith ac wedi'i mynegi'n glir.
(3) Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio ffactorau neu feini prawf yn ei fformiwla sy'n rhoi lwfans, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ar gyfer unrhyw swm a ddyrennir i'r ysgol o unrhyw grant a delir i'r awdurdod gan Weinidogion Cymru.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 25 (trefniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru) rhaid i awdurdod lleol ddefnyddio'r fformiwla a benderfynwyd o dan baragraff (1) ym mhob penderfyniad ac ailbenderfyniad o gyfrannau o'r gyllideb.
11.—(1) O ran ei fformiwla ar gyfer cyfnod cyllido, yn ychwanegol at ymgynghori â'r fforwm ysgolion ar gyfer ei ardal, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â chorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol y mae'n ei chynnal am unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ffactorau a'r meini prawf a gymerwyd i ystyriaeth, neu'r dulliau, yr egwyddorion a'r rheolau a fabwysiadwyd yn ei fformiwla yn y cyfnod cyllido blaenorol (gan gynnwys unrhyw ffactorau, meini prawf, dulliau, egwyddorion neu reolau newydd).
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i newidiadau a wneir yn unol â rheoliadau 8(2), 19(4) neu 22.
(3) Rhaid bod ymgynghori o dan y rheoliad hwn yn digwydd mewn digon o amser i ganiatáu i'r canlyniad gael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu fformiwla'r awdurdod ac wrth wneud penderfyniad cychwynnol ar gyfrannau ysgolion o'r gyllideb.
(4) Rhaid i awdurdod lleol hysbysu pob un o'r rhai yr ymgynghorwyd â hwy o ganlyniad yr ymgynghori.
12.—(1) Rhaid i ysgol newydd gael cyllideb ddirprwyedig o'r dyddiad pan fydd yr ysgol yn derbyn disgyblion gyntaf.
(2) Ond caiff fforwm ysgolion awdurdod lleol ar gais yr awdurdod—
(a)amrywio'r dyddiad hwnnw i un a gynigir gan yr awdurdod,
(b)ei amrywio i ddyddiad gwahanol, neu
(c)gwrthod amrywio'r dyddiad.
(3) Os yw'r fforwm ysgolion yn amrywio'r dyddiad i un gwahanol neu'n gwrthod ei amrywio, caiff yr awdurdod lleol wneud cais i Weinidogion Cymru i amrywio'r dyddiad.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)amrywio'r dyddiad hwnnw i un a gynigir gan yr awdurdod,
(b)ei amrywio i ddyddiad gwahanol, neu
(c)gwrthod amrywio'r dyddiad.
13.—(1) Wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir ganddynt, rhaid i awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny ar unrhyw ddyddiadau a benderfynir gan yr awdurdod, a'r nifer hwnnw wedi'i bwysoli os yw'r awdurdod o'r farn bod hynny'n briodol yn unol â pharagraff (7).
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw nifer y disgyblion cofrestredig yn cynnwys—
(a)disgyblion y mae grant yn daladwy ar eu cyfer i'r awdurdod gan Weinidogion Cymru o dan adran 36 o Ddeddf 2000;
(b)disgyblion mewn lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu (ac eithrio pan fo'r awdurdod lleol yn dewis peidio ag arfer ei ddisgresiwn o dan reoliad 15 mewn perthynas â phlant mewn dosbarthiadau meithrin) ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin.
(3) Pan fo'r awdurdod yn penderfynu un dyddiad yn unig at ddibenion paragraff (1), rhaid iddo fod yn ddyddiad sy'n dod—
(a)cyn dechrau'r cyfnod cyllido o dan sylw; a
(b)yn y flwyddyn ysgol y digwydd dechrau'r cyfnod cyllido o dan sylw ynddi.
(4) Pan fo'r awdurdod yn penderfynu ar fwy nag un dyddiad at ddibenion paragraff (1), yna—
(a)rhaid i un o'r dyddiadau hynny fodloni paragraff (3);
(b)o ran y dyddiad arall neu'r dyddiadau eraill—
(i)ni chaiff unrhyw ddyddiad fod yn gynt na dechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r cyfnod cyllido o dan sylw yn digwydd ynddi, a
(ii)caiff yr awdurdod benderfynu dyddiad neu ddyddiadau sydd yn y dyfodol ac amcangyfrif nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny.
(5) Nid yw'r cyfyngiadau ar y dyddiadau ym mharagraffau (3) a (4) yn gymwys o ran disgyblion mewn dosbarthiadau meithrin neu ddosbarthiadau derbyn y mae'r awdurdod yn cymryd i ystyriaeth o dan baragraff (1).
(6) Caiff awdurdod, wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion arbennig, neu ar gyfer ysgolion cynradd neu uwchradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin, gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla—
(a)nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion arbennig hynny; neu
(b)nifer y disgyblion yn y lleoedd hynny sydd wedi'u cadw mewn ysgolion cynradd neu uwchradd;
ar y dyddiad neu'r dyddiadau y penderfynwyd arnynt at ddibenion paragraff (1) (wedi'i bwysoli os yw'r awdurdod o'r farn bod hynny'n briodol yn unol â pharagraff (7)).
(7) Caiff awdurdod lleol bwysoli niferoedd disgyblion yn ôl unrhyw un neu bob un o'r ffactorau canlynol—
(a)oedran, gan gynnwys pwysoliad yn ôl cyfnod allweddol neu grŵp blwyddyn;
(b)a yw disgybl yn cael addysg feithrin gan ysgol;
(c)yn achos disgyblion o dan bump oed, eu hunion oedran wrth gael eu derbyn i'r ysgol;
(ch)yn achos disgyblion o dan bump oed, yr oriau y maent yn bresennol;
(d)anghenion addysgol arbennig;
(dd)a yw disgybl mewn ysgol yn mynychu sefydliad hefyd o fewn y sector addysg bellach; a
(e)a yw disgybl yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9)—
(a)os bydd ysgol gynradd yn gweithredu polisi o dderbyn plant i ddosbarthiadau meithrin neu ddosbarthiadau derbyn yn nhymor yr haf, a
(b)os bydd yn derbyn disgyblion i'r cyfryw ddosbarthiadau yn nhymor yr haf yn union ar ôl y dyddiad neu'r dyddiadau y penderfynwyd arnynt o dan baragraff (1),
caiff awdurdod lleol benderfynu nifer sy'n cynrychioli nifer y disgyblion a gaiff eu derbyn yn y tymor haf hwnnw, a chymryd y cyfryw nifer i ystyriaeth yn ei fformiwla.
(9) O ran awdurdod lleol, wrth iddo benderfynu'r nifer o ddisgyblion y bydd yn ei gymryd i ystyriaeth o dan baragraff (8)—
(a)rhaid iddo beidio â phenderfynu unrhyw nifer sy'n fwy na nifer y disgyblion a dderbyniwyd yn nhymor yr haf yn union cyn y dyddiad neu'r dyddiadau a benderfynwyd o dan baragraff (1), a
(b)rhaid iddo wneud unrhyw benderfyniad o'r fath cyn dechrau'r cyfnod cyllido pan fydd y disgyblion yn cael eu derbyn.
(10) Rhaid i awdurdod lleol gynnwys darpariaeth yn ei fformiwla a fyddai'n ei alluogi i addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu cyfran ysgol o'r gyllideb pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, waharddiad parhaol disgybl o'r ysgol neu dderbyn disgybl yn dilyn gwaharddiad parhaol y disgybl hwnnw o ysgol arall a gynhelir gan awdurdod lleol.
14. Pan fo disgybl, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 434 o Ddeddf 1996(1), yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag un ysgol, yna rhaid trin y disgybl hwnnw fel un sy'n ddisgybl llawnamser ym mhob ysgol o'r fath oni bai bod yr awdurdod yn darparu'n bendant fel arall yn ei fformiwla.
15.—(1) Wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb caiff awdurdod lleol ystyried yn ei fformiwla nifer y lleoedd y mae'n dymuno eu cyllido mewn—
(a)ysgolion arbennig;
(b)ysgolion cynradd neu uwchradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;
(c)ysgolion cynradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin; neu
(ch)ysgolion meithrin a gynhelir.
(2) Wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb caiff awdurdod lleol ystyried yn ei fformiwla natur unrhyw anghenion addysgol arbennig pan fydd yn cyllido lleoedd mewn ysgolion arbennig neu leoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion cynradd neu uwchradd.
(3) Rhaid i awdurdod lleol ddarparu, os bydd unrhyw leoedd mewn ysgolion arbennig yn cael eu cymryd i ystyriaeth yn unol â pharagraff (1), na fydd y nifer yn llai na nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad neu'r dyddiadau a benderfynir at ddibenion rheoliad 13(1).
16. Pan fo awdurdod lleol yn didynnu o'i gyllideb ysgolion wariant cynlluniedig sy'n ymwneud ag ysgolion a gynhelir o ddisgrifiad penodol, rhaid iddo gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformiwla o ran y gwariant cynlluniedig hwnnw, mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir nad ydynt yn dod o fewn y disgrifiad hwnnw.
17. Rhaid i awdurdod lleol beidio â defnyddio yn ei fformwla unrhyw ffactorau neu feini prawf sy'n gwahaniaethu rhwng ysgolion yn ôl eu categori o dan Ddeddf 1998 ac eithrio lle bo gwahaniaethau yn swyddogaethau cyrff llywodraethu ysgolion o wahanol gategorïau yn cyfiawnhau gwahaniaethu o'r fath.
18.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 16 a 17, caiff awdurdod lleol, wrth benderfynu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb, gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla, yn ôl yr hyn sy'n briodol yn ei farn, unrhyw un neu bob un o'r ffactorau neu'r meini prawf a nodir yn Atodlen 3, fel y darperir ar ei gyfer yn yr Atodlen honno.
(2) Rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd y mae'n eu cynnal, gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla ffactor neu ffactorau a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru ym mhob ysgol o'r fath.
(3) Nid yw ffactor sydd wedi'i gynnwys mewn fformiwla awdurdod yn unol â pharagraff 19 o Atodlen 3, at ddiben paragraff (2), yn ffactor a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol.
(4) Oni nodir yn wahanol yn Atodlen 3, ni chaniateir i'r ffactorau neu'r meini prawf a nodir yn yr Atodlen honno gael eu cymryd i ystyriaeth gan awdurdod lleol ar sail y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig.
(5) Pan fo awdurdod lleol yn cymryd i ystyriaeth ffactorau neu feini prawf newydd yn ei fformiwla neu'n dileu ffactorau o'i fformiwla neu'n penderfynu ar fformiwla sy'n sylweddol wahanol neu'n gyfan gwbl wahanol i'r cyfnod cyllido blaenorol, caniateir iddo wneud unrhyw ddarpariaeth drosiannol y mae'n credu ei bod yn rhesymol.
19.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 21 (addasu cyfran o'r gyllideb) rhaid i'r gyfran o'r gyllideb ar gyfer ysgol uwchradd neu ysgol arbennig sy'n darparu addysg addas ar gyfer gofynion personau dros oedran ysgol gorfodol gynnwys swm (“y Swm”) o ran disgyblion yr ysgol honno sydd dros oedran ysgol gorfodol.
(2) Rhaid i'r Swm gynnwys, ar sail net—
(a)dyraniad gan yr awdurdod lleol ar gyfer darpariaeth yr ysgol honno i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol yn unol ag amodau'r grant sy'n daladwy i'r awdurdod lleol gan Weinidogion Cymru o dan adran 36 o Ddeddf 2000 (“y Grant”);
(b)unrhyw swm y mae'r awdurdod lleol yn ei ddarparu ar gyfer addysg disgyblion dros oedran addysg gorfodol.
(3) I'r graddau nad yw'r Swm yn ddarostyngedig i'r amodau yn y Grant, rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ddefnyddio ffactor sy'n dyrannu cyllid ar gyfer disgyblion dros oedran addysg gorfodol.
(4) Rhaid ailbenderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer cyfnod cyllido cyn diwedd y cyfnod cyllido hwnnw os yw'r awdurdod yn cael hysbysiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru o ddyraniad y Grant neu ddyraniad diwygiedig o'r Grant.
20.—(1) Yn achos ysgol a gynhelir sydd—
(a)yn ysgol newydd y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 3(2);
(b)yn ysgol (ac eithrio ysgol newydd) nad yw cynigion ar gyfer ei sefydlu o dan unrhyw ddeddfiad wedi'u gweithredu'n llawn;
(c)yn ysgol sy'n destun cynigion ar gyfer newid rhagnodedig o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 1998 neu adran 113A o Ddeddf 2000;
(ch)yn ysgol feithrin a gynhelir sydd i'w therfynu yn y cyfnod cyllido o dan sylw,
rhaid i'r awdurdod lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformiwla a fyddai'n ei alluogi i benderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb er mwyn cymryd i ystyriaeth anghenion penodol yr ysgol; ac yn benodol, os bydd y cyfnod cyllido o dan sylw yn dod cyn y cyfnod cyllido y mae ysgol yn derbyn disgyblion gyntaf, caiff benderfynu mai sero yw swm y gyfran o'r gyllideb.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cynigion ar gyfer sefydlu ysgol wedi'u gweithredu'n llawn pan fydd nifer y disgyblion sy'n cael eu derbyn i'r ysgol ym mhob grŵp oedran wedi cyrraedd, ym marn yr awdurdod lleol—
(a)y nifer hwnnw o ddisgyblion a nodwyd, pan gafodd cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol eu cyhoeddi, fel y nifer o ddisgyblion i'w derbyn i bob grŵp oedran pan fyddai'r cynigion wedi'u gweithredu'n llawn; neu
(b)os na nodwyd unrhyw nifer o'r fath, y nifer hwnnw y caiff yr awdurdod ei benderfynu.
21.—(1) I'r graddau yr oedd cyfran ysgol o'r gyllideb am gyfnod cyllido—
(a)wedi'i phenderfynu yn ôl amcangyfrif o nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddyddiad neu ddyddiadau penodol; a
(b)bod gwahaniaethau rhwng nifer amcangyfrifedig y disgyblion ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny a nifer gwirioneddol y disgyblion yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny heb gael eu cymryd i ystyriaeth mewn ailbenderfyniad ar gyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw,
rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu cyfran yr ysgol honno o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido sy'n dilyn er mwyn cymryd y gwahaniaethau hynny i ystyriaeth.
(2) Caiff awdurdod lleol benderfynu cyfran ysgol o'r gyllideb ar gyfer cyfnod cyllido fel y gellir cymryd i ystyriaeth unrhyw newid arall yn ystod y cyfnod cyllido blaenorol yn y data y penderfynwyd cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido blaenorol drwy gyfeirio ato, os na chymrwyd y newidiadau hynny i ystyriaeth wrth ailbenderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido blaenorol hwnnw.
(3) Caiff awdurdod lleol addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu cyfran ysgol o'r gyllideb ar gyfer cyfnod cyllido pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol—
(a)unrhyw ostyngiad neu gynnydd yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y cyfnod cyllido blaenorol sy'n codi o wahardd disgybl yn barhaol o'r ysgol neu dderbyn i'r ysgol ddisgybl a waharddwyd yn barhaol o ysgol arall a gynhelir; neu
(b)unrhyw gynnydd yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y cyfnod cyllido blaenorol sy'n codi o gynnydd mewn niferoedd disgyblion yn ystod y cyfnod cyllido hwnnw.
(4) Rhaid i awdurdod lleol gynnwys yn ei fformiwla ffactorau neu feini prawf sy'n bodloni gofynion y rheoliad hwn.
22.—(1) Os bydd disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol o ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yn ystod cyfnod cyllido, rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw yn unol â pharagraff (2).
(2) Mae cyfran yr ysgol o'r gyllideb i'w gostwng â'r swm A × (B/52) ac—
A yw'r swm, yn y cyfnod cyllido y mae'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ynddo, yn ôl penderfyniad yr awdurdod yn unol â'r Rheoliadau hyn sydd i'w briodoli am y cyfnod cyllido llawn i ddisgybl cofrestredig sydd o'r un oedran ac y mae ganddo'r un nodweddion â'r disgybl o dan sylw mewn ysgolion cynradd neu uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod;
At ddibenion y diffiniad hwn y swm sydd i'w briodoli i ddisgybl cofrestredig yw cyfanswm y symiau a benderfynwyd yn unol â fformiwla'r awdurdod neu reoliad 25 yn ôl niferoedd disgyblion yn hytrach nag yn ôl nifer y lleoedd yn yr ysgol neu unrhyw ffactor arall neu feini prawf eraill nad ydynt yn dibynnu ar niferoedd disgyblion; a
B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y cyfnod cyllido o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol:
AC EITHRIO os yw'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn blwyddyn ysgol ac ar ei diwedd y mae disgyblion, sydd o'r un oedran neu'r un grŵp oedran â'r disgybl o dan sylw, yn ymadael fel rheol â'r ysgol honno cyn cael eu derbyn i ysgol arall a chanddi ddisgyblion o ystod oedran gwahanol, B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ysgol honno o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol.
(3) Pan fo disgybl a gafodd ei wahardd yn barhaol o ysgol a gynhelir yn cael ei dderbyn yn ystod yr un cyfnod cyllido i ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol (“yr ysgol sy'n derbyn”), rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran yr ysgol sy'n derbyn o'r gyllideb yn unol â pharagraff (4).
(4) Mae cyfran yr ysgol o'r gyllideb i'w chynyddu â swm na chaniateir iddo fod yn llai na'r swm D × (E/F) a—
D yw'r swm y mae'r awdurdod yn ei ddefnyddio i ostwng cyfran yr ysgol o'r gyllideb y gwaharddwyd y disgybl yn barhaol ohoni neu y byddai wedi'i ddefnyddio i'w gostwng petai'r ysgol honno wedi'i chynnal gan yr awdurdod;
E yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y cyfnod cyllido y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi yn yr ysgol sy'n derbyn;
F yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y cyfnod cyllido o'u cyfrif o'r dyddiad perthnasol.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr y dyddiad perthnasol yw'r ystyr a ragnodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 494 o Ddeddf 1996(2).
(6) Os caiff disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol ei dderbyn yn ôl yn ddiweddarach gan gorff llywodraethu'r ysgol neu gan banel apêl a gyfansoddwyd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52 o Ddeddf 2002(3), rhaid cynyddu cyfran yr ysgol o'r gyllideb gan swm nad yw'n llai nag G × (H/I) ac—
G yw'r swm y mae'r awdurdod wedi'i ddefnyddio i ostwng cyfran yr ysgol o'r gyllideb;
H yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y cyfnod cyllido y caiff y disgybl ei dderbyn yn ôl ynddo; ac
I yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y cyfnod cyllido o'u cyfrif o'r dyddiad perthnasol.
(7) Mae paragraffau (1) a (2) hefyd yn gymwys os yw disgybl yn gadael ysgol a gynhelir am resymau heblaw gwaharddiad parhaol, ac y mae'n derbyn addysg sy'n cael ei gyllido gan awdurdod lleol heblaw mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw.
23.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod ei fformiwla yn darparu bod o leiaf 70 y cant o swm ei gyllideb ysgolion unigol yn cael ei ddyrannu mewn un neu ragor o'r dulliau canlynol—
(a)yn unol â rheoliad 13(1) neu (6);
(b)yn unol ag unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill gan ddefnyddio niferoedd disgyblion sy'n darparu ar gyfer yr un cyllid i ddisgyblion o'r un oedran ni waeth beth fo natur yr ysgol y maent yn mynd iddi;
(c)i leoedd mewn ysgolion cynradd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin;
(ch)ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig nad oes ganddynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig ond hyd at 5 y cant yn unig o'r cyfanswm a ddyrannwyd gan yr awdurdod i ysgolion cynradd ac uwchradd o'i gyllideb ysgolion unigol;
(d)i leoedd mewn ysgolion cynradd neu uwchradd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;
(dd)ar gyfer disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig pan fo cyllid ar gyfer disgyblion o'r fath yn ffurfio rhan o gyllidebau dirprwyedig ysgolion.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid peidio â chynnwys yng nghyllideb ysgolion unigol awdurdod lleol gyfrannau ysgolion o'r gyllideb sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol yn unig, cyfrannau ysgolion arbennig o'r gyllideb nac unrhyw ran o'r gyllideb ysgolion unigol y daliwyd gafael arni yn unol â rheoliad 8(2) at ddibenion ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau.
24. Caiff awdurdod lleol ailbenderfynu ar unrhyw bryd yn ystod cyfnod cyllido gyfran ysgol o'r gyllideb am y cyfnod cyllido hwnnw er mwyn cywiro gwall mewn penderfyniad neu ailbenderfyniad o dan y Rheoliadau hyn, p'un a yw'n codi o wall ynglŷn â nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol neu fel arall.
25. Caiff Gweinidogion Cymru, pan fo'n ymddangos iddynt ei bod yn hwylus i wneud hynny, awdurdodi awdurdod lleol i benderfynu neu ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb, ar unrhyw adeg ac i'r graddau hynny y gallant eu pennu, yn unol â threfniadau a gymeradwywyd ganddynt yn lle'r trefniadau y darparwyd ar eu cyfer mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn.
Gweler Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995, O.S. 1995/2089 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2624, 1999/2267, 2001/1109, 2003/3227 a 2005/2913.
Mae adran 494(5) o Ddeddf 1996, a amnewidiwyd gan baragraff 128 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998, yn darparu y caiff rheoliadau ragnodi pa bryd y dylid barnu bod gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol. Mae Rheoliadau Addysg (Swm i Ddilyn Disgybl sydd wedi'i Wahardd yn Barhaol) 1999 (O.S. 1999/495) yn darparu bod gwaharddiad parhaol yn digwydd ar y dyddiad perthnasol sef “relevant date” fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau hynny, a diwygiadau iddynt yn Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3227).
Gweler Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, O.S. 2003/3227 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1805, a Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3246), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1805.