RHAN 3 —Cyfrannau ysgolion o'r gyllideb

Amseru a hysbysu penderfyniad cychwynnol ar gyfrannau ysgolion o'r gyllideb9

1

Cyn 31 Mawrth yn union cyn dechrau cyfnod cyllido, rhaid i awdurdod lleol—

a

gwneud penderfyniad cychwynnol ar swm cyfran ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw, a

b

hysbysu cyrff llywodraethu'r ysgolion a gynhelir ganddo o gyfran pob ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw.

2

Rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1)(b) gynnwys esboniad ar sut y penderfynwyd cyfran yr ysgol o'r gyllideb ac amcangyfrif o gyfrannau'r ysgol o'r gyllideb ar gyfer y ddau gyfnod cyllido sy'n dilyn ond nid yw'r amcangyfrif hwnnw'n rhwymo'r awdurdod o ran y penderfyniadau gwirioneddol a wneir ganddo ar gyfer y ddau gyfnod cyllido sy'n dilyn.