ATODLEN 3Ffactorau neu Feini Prawf Ychwanegol y caniateir eu Cymryd i Ystyriaeth mewn Fformiwla Awdurdod Lleol o dan Reoliad 18

Rheoliad 18

1

Anghenion addysgol arbennig disgyblion wedi eu penderfynu mewn ffordd y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol fel modd i asesu anghenion o'r fath.

2

Disgyblion nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

3

Trosiant disgyblion ac eithrio fel rhan o'r broses derbyniadau cyffredinol mewn ysgol.

4

I ba raddau y mae'r awdurdod yn talu costau trefniadau derbyn mewn ysgol ac eithrio o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol.

5

Maint a chyflwr adeiladau a thiroedd ysgol o'u cymharu â rhai ysgolion eraill a gynhelir gan yr awdurdod: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfeydd a gyhoeddir gan yr awdurdod sy'n adlewyrchu (i'r graddau y mae hynny'n briodol) ddyletswyddau statudol cyrff llywodraethu o ran mangreoedd ysgolion a'u cymhwyster i gael grant gan Weinidogion Cymru neu unrhyw adran o'r llywodraeth.

6

Ysgol a chanddi safle wedi'i rannu: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â meini prawf a gyhoeddir gan yr awdurdod.

7

Cyfleusterau, ar gyfer addysgu disgyblion, a geir mewn rhai ysgolion yn unig.

8

Ardrethi sy'n daladwy am fangre pob ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

9

Y ffioedd am ddŵr a charthffosiaeth (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

10

Defnydd ysgolion o ynni.

11

Y rhent sy'n daladwy am fangre ysgol neu daliadau am ddefnydd ysgol o gyfleusterau nad ydynt wedi'u meddiannu gan yr ysgol honno'n unig (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

12

Glanhau mangre ysgol.

13

Cludiant yn ôl ac ymlaen i weithgareddau y tu allan i fangre ysgol sy'n ffurfio rhan o gwricwlwm yr ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

14

Llogi cyfleusterau y tu allan i fangre ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

15

Mewn achosion lle mae swm ar gyfer yswiriant i'w gynnwys mewn cyfran ysgolion o'r gyllideb—

a

pan fo'r awdurdod yn yswirio, y rhan briodol o wariant cynlluniedig yr awdurdod ar yswiriant; neu,

b

pan nad yw'r awdurdod yn yswirio, y rhan briodol o'r swm y byddai'r awdurdod wedi'i wario pe bai wedi yswirio,

i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod y mae'n rhaid iddo roi sylw i nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol.

16

Taliadau mewn perthynas â thrafodiad cyllid preifat (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

17

Symiau sy'n daladwy i ysgol sydd, yn sgil cau un neu ragor o ysgolion a gynhelir, naill ai'n ysgol sy'n cael ei sefydlu neu, yn unol â Phennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 1998, yn destun addasiadau rhagnodedig, i adlewyrchu i ba raddau y mae ysgol sydd wedi'i chau wedi gwario mwy na'i chyfran o'r gyllideb neu nad yw wedi gwario'r cyfan ohoni mewn unrhyw gyfnod cyllido. Rhaid i unrhyw ffactor neu feini prawf o'r fath ddarparu bod rhaid i unrhyw swm a ddidynnir beidio â bod yn fwy na'r swm y mae'r ysgol yn ei gael yn ystod y cyfnod cyllido fel rhan o'i chyfran o'r gyllideb am ei bod yn ysgol newydd.

18

A yw'r ysgol i gael ei chau yn ystod y cyfnod cyllido o dan sylw neu yn y cyfnod cyllido sy'n dilyn.

19

Llaeth ysgol, prydau bwyd a lluniaeth arall: ni chaiff yr awdurdod drin unrhyw elfen o'r gwariant hwn yn wariant â gwerth negyddol.

20

Cyflogau mewn ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig): rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.

21

Diogelu cyflogau yn unol â gorchmynion sy'n cael eu gwneud o bryd i'w gilydd o dan adran 122 o Ddeddf 2002 neu ddiogelu cyflogau eraill.

22

Lwfansau blaenoriaeth gymdeithasol yn unol â Dogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol sy'n cael effaith yn unol â gorchymyn a wneir o dan adran 122 o Ddeddf 2002 (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

23

Yr angen i daliadau sengl gael eu dyrannu i ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion arbennig, neu unrhyw gyfuniad o ysgolion o'r fath, ni waeth beth fo'u maint.

24

Yr angen i daliadau gael eu dyrannu i ysgolion y mae eu maint wedi'i bennu gan yr awdurdod ac sy'n bodloni amodau eraill a bennwyd ganddo.

25

Ysgolion y câi eu cyfrannau o'r gyllideb eu gostwng fel arall flwyddyn ar ôl blwyddyn â mwy na phump y cant: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.

26

Contractau y mae corff llywodraethu ysgol yn rhwym iddynt yn rhinwedd darpariaeth yng nghynllun yr awdurdod (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

27

Costau gweinyddu cyflogres: rhaid i'r cyllid fod wedi'i seilio ar nifer y staff yn yr ysgol, oni ddefnyddir ffactorau a ganiateir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn.

28

Unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill nad ydynt fel arall yn dod o dan yr Atodlen hon, ar yr amod nad yw'r cyfanswm a ddyrannwyd yn unol â fformiwla'r awdurdod, o ystyried ffactorau neu feini prawf o'r fath, yn fwy nag un y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

29

Effaith trethi ar ysgolion.

30

Mynychder disgyblion o leiafrifoedd ethnig y mae eu lefelau cyrhaeddiad academaidd mewn perthynas â disgyblion eraill yn ardal yr awdurdod yn is na'r cyfartaledd, a hynny i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod.

31

Mynychder dosbarthiadau a lleoedd meithrin sy'n cael eu cydnabod gan yr awdurdod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

32

Mynychder Athrawon sydd Newydd Gymhwyso.

33

Datblygiad tai neu symudiadau lluoedd arfog sy'n arwain at gynnydd neu ostyngiad o 20% o leiaf yn y niferoedd ar y gofrestr mewn ysgol yn y cyfnod cyllido o dan sylw.

34

Cyrhaeddiad blaenorol disgyblion sy'n dechrau mewn ysgol.

35

Meintiau dosbarthiadau babanod y cyfyngwyd arnynt drwy Reoliadau a wnaed o dan adran 1 o Ddeddf 1998: caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwariant a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i'r Rheoliadau hynny.

36

Meintiau dosbarthiadau iau y cyfyngwyd ar y nifer ynddynt i uchafswm o 30 o ddisgyblion: caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwariant a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i amodau sydd wedi'u cynnwys mewn unrhyw grant arbennig a wnaed yn unol ag adran 88A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 neu unrhyw drefniadau am gymorth ariannol a ddarperir yn unol ag adran 14 o Ddeddf 2002 sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael gwelliant mewn safonau ysgol drwy ostwng maint y dosbarthiadau.