Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (“y prif Reoliadau”) o ran y telerau gwasanaethu ar gyfer fferyllwyr a chyflenwyr cyfarpar.

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau yn diwygio rhai diffiniadau ac yn mewnosod diffiniadau newydd yn rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau yn cynnwys diwygiadau i'r telerau gwasanaethu ar gyfer fferyllwyr, a bennir yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau yn dileu rhai diffiniadau ym mharagraff 1(2) o Atodlen 2 sydd wedi eu diwygio ac a gynhwysir bellach yn rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau yn diwygio paragraff 6 o Atodlen 2 er mwyn ychwanegu cyfarpar at yr eitemau y ceir, os bodlonir rhai amodau, eu gweinyddu heb bresgripsiwn gan fferyllydd mewn achos brys – a diddymu'r gofyniad bod y presgripsiynydd yn adnabyddus yn bersonol i'r fferyllydd.

Mae rheoliad 6 o'r Rheoliadau yn diwygio paragraff 9 o Atodlen 2, fel bod rhaid i fferyllwyr sy'n darparu cyfarpar ar bresgripsiwn amlroddadwy fodloni eu hunain nad oes unrhyw newid yn y modd y defnyddir y cyfarpar gan y claf a fyddai'n galw am adolygiad o'r driniaeth.

Mae rheoliad 7 o'r Rheoliadau yn ychwanegu at baragraff 10 o Atodlen 2 nifer o weithgareddau ychwanegol y mae'n rhaid i fferyllydd eu cyflawni wrth weini cyfarpar.

Mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau yn mewnosod paragraff 10A newydd yn Atodlen 2 sy'n pennu'r hyn y mae'n rhaid i fferyllwyr ei wneud wrth weini “cyfarpar penodedig” (“specified appliances”). Rhaid iddynt ddarparu gwasanaeth danfon i gartrefi yn achos y cyfarpar hyn, a sicrhau y rhoddir cyngor priodol ynglŷn â'u defnyddio.

Mae rheoliad 9 o'r Rheoliadau yn diwygio paragraff 18 o Atodlen 2 gan wneud yn ofynnol bod fferyllwyr yn atgyfeirio ffurflenni presgripsiwn neu bresgripsiynau amlroddadwy, neu'n rhoi manylion cyswllt fferyllwyr eraill neu gyflenwyr cyfarpar, mewn unrhyw achos pan nad yw darparu cyfarpar penodol, neu darparu cyfarpar stoma wedi'i addasu, yn rhan arferol o'u busnes.

Mae rheoliad 10 o'r Rheoliadau yn mewnosod is-baragraff (1A) ym mharagraff 21 o Atodlen 2 mewn perthynas ag oriau agor ychwanegol.

Mae rheoliad 11 o'r Rheoliadau yn diwygio paragraff 25 o Atodlen 2 mewn perthynas â rhaglenni effeithlonrwydd clinigol.

Mae rheoliad 12 o'r Rheoliadau yn mewnosod paragraff 24A newydd yn Atodlen 2 mewn perthynas ag oriau agor mewn argyfwng.

Mae rheoliad 13 o'r Rheoliadau yn diwygio paragraff 27 o Atodlen 2 i wahardd rhoddion neu wobrwyon pan nad yw fferyllydd yn darparu unrhyw wasanaethau ychwanegol ac eithrio cyfeirio presgripsiwn ymlaen neu ddarparu manylion cyswllt personau a all ddarparu gwasanaeth penodol.

Mae rheoliad 14 o'r Rheoliadau yn diwygio paragraff 42 o Atodlen 2 i sicrhau y gall y Byrddau Iechyd Lleol wirio'r trefniadau a wneir rhwng fferyllydd a thrydydd parti ynglŷn â darparu cyfarpar.

Mae rheoliad 15 o'r Rheoliadau a'r Atodlen yn mewn osod Atodlen 2A newydd yn y prif Reoliadau mewn perthynas â thelerau gwasanaethu ar gyfer cyflenwyr cyfarpar.

Mae rheoliad 16 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaeth drosiannol a fydd yn caniatáu i gontractwyr presennol, tan ddiwedd 31 Rhagfyr 2010, ddewis yn hytrach i gydymffurfio â'r fersiwn flaenorol o'u telerau gwasanaethu, fel y'i pennir yn yr Atodlen berthnasol i'r prif Reoliadau.