ATODLEN 1YR ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 1 I REOLIADAU HYLENDID BWYD (CYMRU) 2006

Rheoliad 2(4)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH UE

  • Ystyr “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2006/766/EC sy'n sefydlu'r rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio ohonynt folysgiaid deufalf, ecinodermiaid, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd5 fel y diwygiwyd y Penderfyniad hwnnw ddiwethaf gan Benderfyniad 2009/951;

  • ystyr “Penderfyniad 2009/951” (“Decision 2009/951”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2009/951/EU sy'n diwygio Atodiadau I a II i Benderfyniad 2006/766/EC yn sefydlu'r rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio ohonynt folysgiaid deufalf, ecinodermiaid, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd6;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu rhai cyfarwyddebau ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad rhai cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC7;

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd8 fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad 596/2009;

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd9 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid10 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1662/2006, Rheoliad 1791/2006, Rheoliad 1243/2007 a Rheoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

  • ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl11 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 882/2004, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1663/2006, Rheoliad 1791/2006 a Rheoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005, Rheoliad 2076/2005 a Phenderfyniad 2006/766;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, iechyd anifeiliaid a rheoliadau lles anifeiliaid yn cael ei wirio12 fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad 596/2009 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, a Rheoliad 669/2009;

  • ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer traddodi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden13;

  • ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd14 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1441/2007;

  • ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer rhai cynhyrchion o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefniadaeth rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/200415 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1664/2006, Rheoliad 1244/2007 a Rheoliad 1250/2008;

  • ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ynghylch rheolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig16 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1245/2007;

  • ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/200417 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1666/2006, Rheoliad 479/2007, Rheoliad 1246/2007, Rheoliad 439/2008 a Rheoliad 146/2009;

  • ystyr “Rheoliad 1662/2006” (“Regulation 1662/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1662/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid18;

  • ystyr “Rheoliad 1663/2006” (“Regulation 1663/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1663/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl19;

  • ystyr “Rheoliad 1664/2006” (“Regulation 1664/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1664/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer rhai cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl a diddymu rhai mesurau gweithredu20;

  • ystyr “Rheoliad 1666/2006” (“Regulation 1666/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1666/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor21;

  • ystyr “Rheoliad 1791/2006” (“Regulation 1791/2006”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu rhai Rheoliadau a Phenderfyniadau ym meysydd rhydd symudiad nwyddau, rhyddid i bersonau symud, cyfraith cwmnïau, polisi cystadleuaeth, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth filfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, trethiant, ystadegaeth, ynni, yr amgylchedd, cydweithrediad ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, perthnasau allanol, polisi tramor a diogeledd cyffredin, a sefydliadau, oherwydd ymaelodi Bwlgaria a Romania22;

  • ystyr “Rheoliad 479/2007” (“Regulation 479/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 479/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/200423;

  • ystyr “Rheoliad 1243/2007” (“Regulation 1243/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1243/2007 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid24;

  • ystyr “Rheoliad 1244/2007” (“Regulation 1244/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1244/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 sy'n ymwneud â gweithredu mesurau ar gyfer rhai cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac yn gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer arolygu cig25;

  • ystyr “Rheoliad 1245/2007” (“Regulation 1245/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1245/2007 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005, ynghylch defnyddio pepsin hylifol i ganfod Trichinella mewn cig26;

  • ystyr “Rheoliad 1246/2007” (“Regulation 1246/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1246/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 ynghylch ymestyn y cyfnod trosiannol a ganiateir i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio olew pysgod a fwriedir i'w fwyta gan bobl27;

  • ystyr “Rheoliad 1441/2007” (“Regulation 1441/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1441/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd28;

  • ystyr “Rheoliad 439/2008” (“Regulation 439/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 439/2008 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n ymwneud â mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd o Fiji29;

  • ystyr “Rheoliad 1250/2008” (“Regulation 1250/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1250/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 sy'n ymwneud â'r gofynion ardystio ynghylch mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd, molysgiaid deufalf byw, ecinodermiaid, tiwnigogion a gastropodau morol a fwriedir i'w bwyta gan bobl30;

  • ystyr “Rheoliad 146/2009” (“Regulation 146/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 146/2009 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n ymwneud â mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd o Gameroon31;

  • ystyr “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 219/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu – Rhan Dau32;

  • ystyr “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu – Rhan Pedwar33; ac

  • ystyr “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch y cynnydd yn lefel y rheolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid ac yn diwygio Penderfyniad 2006/504/EC34.