Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010

Rheoliad 2(4)

ATODLEN 1YR ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 1 I REOLIADAU HYLENDID BWYD (CYMRU) 2006

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH UE

  • Ystyr “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2006/766/EC sy'n sefydlu'r rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio ohonynt folysgiaid deufalf, ecinodermiaid, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd(1) fel y diwygiwyd y Penderfyniad hwnnw ddiwethaf gan Benderfyniad 2009/951;

  • ystyr “Penderfyniad 2009/951” (“Decision 2009/951”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2009/951/EU sy'n diwygio Atodiadau I a II i Benderfyniad 2006/766/EC yn sefydlu'r rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio ohonynt folysgiaid deufalf, ecinodermiaid, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd(2);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu rhai cyfarwyddebau ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad rhai cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(3);

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad 596/2009;

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(5) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(6) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1662/2006, Rheoliad 1791/2006, Rheoliad 1243/2007 a Rheoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

  • ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(7) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 882/2004, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1663/2006, Rheoliad 1791/2006 a Rheoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005, Rheoliad 2076/2005 a Phenderfyniad 2006/766;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, iechyd anifeiliaid a rheoliadau lles anifeiliaid yn cael ei wirio(8) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad 596/2009 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, a Rheoliad 669/2009;

  • ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer traddodi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden(9);

  • ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd(10) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1441/2007;

  • ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer rhai cynhyrchion o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefniadaeth rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(11) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1664/2006, Rheoliad 1244/2007 a Rheoliad 1250/2008;

  • ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ynghylch rheolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(12) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1245/2007;

  • ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(13) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1666/2006, Rheoliad 479/2007, Rheoliad 1246/2007, Rheoliad 439/2008 a Rheoliad 146/2009;

  • ystyr “Rheoliad 1662/2006” (“Regulation 1662/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1662/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(14);

  • ystyr “Rheoliad 1663/2006” (“Regulation 1663/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1663/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(15);

  • ystyr “Rheoliad 1664/2006” (“Regulation 1664/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1664/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer rhai cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl a diddymu rhai mesurau gweithredu(16);

  • ystyr “Rheoliad 1666/2006” (“Regulation 1666/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1666/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor(17);

  • ystyr “Rheoliad 1791/2006” (“Regulation 1791/2006”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu rhai Rheoliadau a Phenderfyniadau ym meysydd rhydd symudiad nwyddau, rhyddid i bersonau symud, cyfraith cwmnïau, polisi cystadleuaeth, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth filfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, trethiant, ystadegaeth, ynni, yr amgylchedd, cydweithrediad ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, perthnasau allanol, polisi tramor a diogeledd cyffredin, a sefydliadau, oherwydd ymaelodi Bwlgaria a Romania(18);

  • ystyr “Rheoliad 479/2007” (“Regulation 479/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 479/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(19);

  • ystyr “Rheoliad 1243/2007” (“Regulation 1243/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1243/2007 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(20);

  • ystyr “Rheoliad 1244/2007” (“Regulation 1244/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1244/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 sy'n ymwneud â gweithredu mesurau ar gyfer rhai cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac yn gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer arolygu cig(21);

  • ystyr “Rheoliad 1245/2007” (“Regulation 1245/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1245/2007 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005, ynghylch defnyddio pepsin hylifol i ganfod Trichinella mewn cig(22);

  • ystyr “Rheoliad 1246/2007” (“Regulation 1246/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1246/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 ynghylch ymestyn y cyfnod trosiannol a ganiateir i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio olew pysgod a fwriedir i'w fwyta gan bobl(23);

  • ystyr “Rheoliad 1441/2007” (“Regulation 1441/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1441/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd(24);

  • ystyr “Rheoliad 439/2008” (“Regulation 439/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 439/2008 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n ymwneud â mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd o Fiji(25);

  • ystyr “Rheoliad 1250/2008” (“Regulation 1250/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1250/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 sy'n ymwneud â'r gofynion ardystio ynghylch mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd, molysgiaid deufalf byw, ecinodermiaid, tiwnigogion a gastropodau morol a fwriedir i'w bwyta gan bobl(26);

  • ystyr “Rheoliad 146/2009” (“Regulation 146/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 146/2009 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n ymwneud â mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd o Gameroon(27);

  • ystyr “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 219/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu – Rhan Dau(28);

  • ystyr “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu – Rhan Pedwar(29); ac

  • ystyr “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch y cynnydd yn lefel y rheolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid ac yn diwygio Penderfyniad 2006/504/EC(30)..

(1)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.53.

(2)

OJ Rhif L328, 15.12.2009, t.70.

(3)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(4)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(5)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3) y mae'n rhaid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26).

(6)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22) y mae'n rhaid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26).

(7)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83) y mae'n rhaid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26).

(8)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1) y mae'n rhaid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29).

(9)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.

(10)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda'r corigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 ac OJ Rhif L283, 14.10.2006, t.62.

(11)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27.

(12)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60.

(13)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83.

(14)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.1.

(15)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.11.

(16)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.13.

(17)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.47.

(18)

OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1.

(19)

OJ Rhif L111, 28.4.2007, t. 46.

(20)

OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.8.

(21)

OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.12.

(22)

OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.19.

(23)

OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.21.

(24)

OJ Rhif L322, 7.12.2007, t.12.

(25)

OJ Rhif L132, 22.5.2008, t.16.

(26)

OJ Rhif L337, 16.12.2008, t.31.

(27)

OJ Rhif L50, 21.2.2009, t.3.

(28)

OJ Rhif L87, 31.3.2009, t.109.

(29)

OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14.

(30)

OJ Rhif L194, 25.7.2009, t.11.