Offerynnau Statudol Cymru
2010 Rhif 943 (Cy.97)
ANIFEILIAID, CYMRU
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Coleri Electronig) (Cymru) 2010
Gwnaed
23 Mawrth 2010
Yn dod i rym
24 Mawrth 2010
Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac fe'i cymeradwywyd drwy benderfyniad yn unol ag adran 61(2) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(1).
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12(1), (3)(a), (5) a 62 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(2), ac wedi ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli'r buddiannau o dan sylw, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Coleri Electronig) (Cymru) 2010 a deuant i rym y diwrnod ar ôl eu gwneud.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “coler electronig” (“electronic collar”) yw coler a luniwyd i roi sioc drydan; ac
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwaharddiad ar ddefnyddio coleri electronig
2.—(1) Gwaherddir unrhyw berson rhag—
(a)gosod coler electronig ar gi neu gath;
(b)peri bod coler electronig yn cael ei gosod ar gi neu gath; nac
(c)bod yn gyfrifol am gi neu gath y mae coler electronig wedi'i gosod arnynt.
Tramgwyddau
3. Mae person sy'n torri unrhyw un neu rai o'r gwaharddiadau yn rheoliad 2 yn cyflawni tramgwydd ac, ar gollfarn ddiannod, yn agored—
(a)i garchariad am gyfnod heb fod yn hwy na 51 wythnos;
(b)i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol; neu
(c)i'r ddeubeth.
Mynd i mewn a chwilio
4. Mae tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w drin fel tramgwydd perthnasol at ddibenion adran 23 o'r Ddeddf (mynd i mewn a chwilio o dan warant mewn cysylltiad â thramgwyddau).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2010
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p.45) ac maent yn gwahardd defnyddio ar gathod a chŵn unrhyw goler electronig a luniwyd i roi sioc drydan.
Mae rheoliad 1 yn diffinio “coler electronig”.
Mae rheoliad 2 yn gwahardd defnyddio coler electronig ar gi neu gath.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tramgwyddau.
Mae rheoliad 4 yn darparu pwerau i fynd i mewn a chwilio.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
2006 p. 45. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 34 o Atodlen 11 iddi (p.32), mae'r cyfeiriad yn adran 61(2) at “House of Parliament” yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru ac maent bellach wedi eu breinio ynddynt hwy. Dyfynnir adran 62 am yr ystyr a roddir i “appropriate national authority”.