Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”) a wnaeth ddarpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweithredu erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 (OJ Rhif L95, 14.4.2005, t.11) sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 o ran cyfathrebiadau rhwng yr Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Cafodd Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 ei ddiddymu o 1 Awst 2010 ymlaen a'i ddisodli gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 479/2010 sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran hysbysiadau gan Aelod-wladwriaethau i'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd. Cafodd Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 ei ddiddymu o 1 Gorffennaf 2008 a'i ddisodli gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1234/2007.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i broseswyr llaeth ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth ynglŷn â phrisiau cynhyrchion llaeth penodol a all fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru drwy hysbysiad (rheoliad 3). Mae methu â chydymffurfio â gofyniad o'r fath yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (rheoliad 4).

Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar yr effaith ar gostau busnes ei lunio mewn perthynas â Rheoliadau 2005 a gellir cael copïau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn pellach wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.