2011 Rhif 1014 (Cy.152)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(1), 6(2) a 19(1) a (2) o Fesur Gwastraff (Cymru) 20101.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan adran 8(1) o'r Mesur hwnnw.

Mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 20(3) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Mawrth 2011.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”) yw cyfleuster ar gyfer gwaredu neu adennill gwastraff; at ddibenion y diffiniad hwn, mae i “gwaredu” ac “adennill” yr ystyron a roddir i “disposal” a “recovery” yn Erthygl 3(15) a (19) o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ar wastraff ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau penodol2;

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010;

  • ystyr “y system WasteDataFlow” (“the WasteDataFlow system”) yw'r system sy'n seiliedig ar y we ar gyfer adrodd am wastraff trefol a gynhelir ac a weithredir yng Nghymru gan Asiantaeth yr Amgylchedd; ac

  • ystyr “y targedau” (“the targets”) yw targedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a bennir yn adran 3(3) o'r Mesur.

2

Yn y Rheoliadau hyn—

a

mae cyfeiriadau at swm gwastraff trefol awdurdod lleol yn gyfeiriadau at swm gwastraff mewn tunelledd; a

b

mae cyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon gan awdurdod lleol i gyfleuster gwastraff i gynnwys cyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon i gyfleuster o'r fath yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol.

RHAN 2Monitro

Awdurdod monitro3

1

Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod monitro at ddibenion y targedau.

2

Rhaid i'r awdurdod monitro—

a

monitro perfformiad awdurdodau lleol mewn cysylltiad â'r targedau:

b

monitro perfformiad awdurdodau lleol wrth iddynt gydymffurfio â'u rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn;

c

yn unol â rheoliad 7, ddilysu'r wybodaeth a gofnodir gan awdurdodau lleol ar y system WasteDataFlow; ac

ch

yn ddi-oed hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, o unrhyw achos lle y mae'n ymddangos i'r awdurdod monitro bod awdurdod lleol3 yn atebol neu gallai fod yn atebol i gosb o dan adran 3(7) o'r Mesur neu o dan y Rheoliadau hyn.

Rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol i gasglu gwybodaeth a chadw cofnodion4

1

Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu i'r awdurdod gydymffurfio â'r gofynion sydd ganddo i gadw cofnodion o dan y rheoliad hwn.

2

Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn ariannol darged ac am bob blwyddyn ariannol ddilynol hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf4

a

cyfanswm ei wastraff trefol5;

b

cyfanswm y gwastraff trefol a anfonwyd i bob cyfleuster gwastraff gan yr awdurdod lleol;

c

y swm o ddeunyddiau a wrthodwyd ym mhob cam olynol wrth sortio ei gwastraff trefol, yn unrhyw un o'r cyfleusterau ac ym mhob un ohonynt; ac

ch

y swm o ddeunyddiau a wrthodwyd o dan baragraff (c) a waredir gan yr awdurdod lleol, neu gan gyfleuster gwastraff.

3

Rhaid i'r cofnod gynnwys manylion am y canlynol—

a

disgrifiad o'r gwastraff o ran y math o ddeunyddiau sydd ynddo;

b

sut y casglwyd pob un o'r gwahanol fathau o ddeunyddiau; ac

c

os casglwyd y gwastraff gan asiant i'r awdurdod lleol, enw'r asiant hwnnw.

4

Rhaid cadw'r cofnodion am gyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y cyflwynir y cofnodion yn gyntaf drwy ddefnyddio'r system WasteDataFlow yn unol â rheoliad 5(2).

5

Caiff awdurdod lleol gadw'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw gan baragraff (2) ar ffurf electronig os yw'r awdurdod lleol yn gallu cynhyrchu'r testun ar ffurf dogfen weladwy a darllenadwy.

6

Mae awdurdod lleol sy'n methu â chadw'r cofnodion sy'n ofynnol gan baragraff (2) yn atebol i gosb.

7

Yn y rheoliad hwn, ystyr “sortio” yw'r weithred o wahanu deunyddiau ailgylchu unigol o swm o wastraff cymysg neu ddeunyddiau cymysg.

8

Yn y rheoliad hwn, caiff gwastraff trefol ei “waredu” pan fo'n mynd drwy weithred gwaredu o fath a ddynodir yn Atodiad I o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

Rhwymedigaeth awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth5

1

Yn ystod pob blwyddyn ariannol darged a phob blwyddyn ariannol ddilynol hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ffurflenni wedi eu cwblhau sy'n cynnwys yr holl wybodaeth a restrir yn rheoliadau 4(2) a (3) (“yr wybodaeth”) i'r awdurdod monitro.

2

Rhaid i bob ffurflen wedi ei chwblhau—

a

gynnwys yr wybodaeth ar gyfer y cyfnod perthnasol o 3 mis;

b

gael ei dychwelyd o fewn un mis calendr ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 3 mis; ac

c

gael ei chyflwyno drwy ddefnyddio'r system WasteDataFlow.

3

Y cyfnodau perthnasol o 3 mis yw—

a

1 Ebrill hyd 30 Mehefin;

b

1 Gorffennaf hyd 30 Medi;

c

1 Hydref hyd 31 Rhagfyr;

ch

1 Ionawr hyd 31 Mawrth.

4

Mae awdurdod lleol sy'n methu â chyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau yn unol â'r rheoliad hwn yn atebol i gosb.

Y pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol6

1

Caiff Gweinidogion Cymru, neu'r awdurdod monitro, drwy hysbysiad a gyflwynir i awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod hwnnw—

a

dangos unrhyw gofnodion ar gyfer eu harolygu, neu eu symud ar gyfer eu harolygu yn rhywle arall, sef y cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan reoliad 4;

b

rhoi gwybodaeth neu dystiolaeth am faterion sy'n gysylltiedig â rhwymedigaeth yr awdurdod lleol i gyrraedd y targedau a'i rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn;

2

Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn y ffurf ac o fewn unrhyw amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

3

Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig.

4

Mae awdurdod lleol sy'n methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad yn atebol i gosb.

Dilysu gan awdurdod monitro7

1

O fewn tri mis ar ôl y dyddiad y mae'n ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau o dan reoliad 5(2)(b), rhaid bod yr awdurdod monitro wedi cwblhau dilysu'r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol ar y system WasteDataFlow.

2

Os yw awdurdod lleol yn methu â chyflwyno ffurflen wedi ei llenwi yn unol â'r amserlen a bennir yn rheoliad 5(2)(b), rhaid i'r awdurdod monitro gwblhau dilysiad o'r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol ar y system WasteDataFlow o fewn tri mis ar ôl dyddiad pryd y cyflwynir y ffurflen wedi ei chwblhau.

3

Yn y rheoliad hwn ystyr “dilysu” yw—

a

gwirio bod yr holl awdurdodau lleol wedi cyflwyno data yn unol â'u rhwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 5; a

b

cysoni unrhyw ddata anghywir neu anghyson sydd wedi cael ei gyflwyno.

Asesu cydymffurfedd â'r targedau8

1

Rhaid i'r awdurdod monitro o fewn pum mis calendr ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol darged, a phob blwyddyn ariannol sy'n dilyn hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf ddarparu i Weinidogion Cymru—

a

ei wybodaeth fonitro; a

b

adroddiad sy'n cynnwys yr wybodaeth a roddir ym mharagraff (3).

2

Rhaid i'r wybodaeth fonitro a'r adroddiad gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf.

3

Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

cyfanswm y gwastraff trefol sydd wedi dod i fodolaeth ar gyfer pob awdurdod lleol;

b

cyfanswm y gwastraff trefol a ddilyswyd gan yr awdurdod monitro sydd wedi cael ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio, a'i gompostio;

c

y cyfraddau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio ar gyfer pob awdurdod lleol;

ch

y gwahaniaeth rhwng swm targed y cyfraddau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a'r gyfradd wirioneddol y mae pob awdurdod lleol yn ei gyrraedd; a

d

y gwahaniaeth rhwng swm targed y cyfraddau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a'r gyfradd wirioneddol y mae'r holl awdurdodau lleol, yn eu cyfanrwydd, yn ei gyrraedd.

4

Yn y rheoliad hwn ystyr “gwybodaeth fonitro” yw gwybodaeth neu dystiolaeth a geir gan yr awdurdod monitro wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan reoliad 3(2).

RHAN 3Cosbau

Cosbau: hepgor9

Pan fo awdurdod lleol yn atebol i gosb o dan adran 3(7) o'r Mesur neu o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru naill ai hepgor y gosb, neu asesu'r swm sy'n ddyladwy ar ffurf gosb a hysbysu'r awdurdod lleol yn unol â hynny.

Cosbau: methu â chyrraedd targedau10

Swm y gosb ariannol y mae awdurdod lleol yn atebol iddo o dan adran 3(7) o'r Mesur yw £200 y dunnell y mae awdurdod lleol yn syrthio'n fyr o'r swm targed.

Cosbau: methu â chydymffurfio â gofynion Rhan 211

1

Mae awdurdod lleol yn atebol i gosb o £1000—

a

pan yw'n methu â chadw cofnodion yn unol â rheoliad 4;

b

pan yw'n methu â chyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau yn unol â rheoliad 5;

c

pan yw'n methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 6.

Cosbau: cyffredinol12

1

Mae unrhyw gosb a osodir gan Weinidogion Cymru yn ddyladwy fis ar ôl y dyddiad yr hysbysir yr awdurdod lleol gan Weinidogion Cymru am swm y gosb.

2

Pan fo awdurdod lleol yn atebol i gosb ac nid yw'n talu'r gosb erbyn y dyddiad y mae'n ddyladwy o dan baragraff (1), mae'r awdurdod lleol yn atebol i dalu llog ar y gosb am y cyfnod—

a

sy'n dechrau ar y dyddiad o dan baragraff(1); a

b

sy'n gorffen ar y diwrnod cyn y dyddiad y telir cosb a aseswyd.

3

Mae llog o dan y rheoliad hwn yn daladwy ar gyfradd un pwynt canran yn uwch na Chyfradd Gwerthu Rhwng Banciau Llundain ar y sail o un diwrnod i'r llall.

4

At ddibenion paragraff (3), ystyr “Cyfradd Gwerthu Rhwng Banciau Llundain” yw'r gyfradd drimisol sterling rhwng banciau Llundain a gynigir yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad y daw'r gosb yn ddyladwy a'r diwrnod cyn y dyddiad y telir y gosb i Weinidogion Cymru.

5

Pan fydd cosb wedi cael ei hasesu a'i hysbysu i awdurdod lleol gellir adennill y gosb ac unrhyw log yr eir iddo fel dyled sifil.

6

At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at gosbau yn cynnwys cyfeiriadau at log pan fo'n daladwy.

Jane DavidsonY Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 3 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn sefydlu targedau statudol ar gyfer y ganran o wastraff trefol awdurdod lleol y mae'n rhaid ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio a'i gompostio (“y targedau”). Mae'r Mesur yn gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i gosb ariannol os bydd yn methu â chyrraedd targed.

Mae'r Rheoliadau hyn yn atodi'r Mesur, drwy wneud darpariaeth fanwl ar gyfer monitro a gorfodi'r targedau.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â monitro.

Mae Rheoliad 3 yn penodi Asiantaeth yr Amgylchedd yn awdurdod monitro ar gyfer y targedau.

Mae Rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gasglu gwybodaeth a chadw cofnodion am wastraff trefol.

Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau drwy ddefnyddio system WasteDataFlow, sy'n cynnwys yr holl wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei chasglu a'i chofnodi o dan reoliad 4.

Mae rheoliad 6 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru a'r awdurdod monitro, drwy hysbysiad, i ofyn am wybodaeth bellach oddi wrth awdurdod lleol.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod monitro ddilysu'r wybodaeth a roddir iddo gan awdurdodau lleol.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod monitro roi'r wybodaeth a gafodd wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan reoliad 3 i Weinidogion Cymru er mwyn caniatáu iddynt asesu cydymffurfedd â'r targedau. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod monitro baratoi adroddiad i Weinidogion Cymru.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chosbau.

Mae rheoliad 9 yn caniatáu i Weinidogion Cymru hepgor cosb.

Mae rheoliad 10 yn gosod swm y gosb ariannol y mae awdurdod lleol yn atebol iddo os nad yw yn cydymffurfio â'r rhwymedigaeth a roddir yn adran 3(2) o'r Mesur.

Mae rheoliad 11 yn gosod swm y gosb ariannol y mae awdurdod lleol yn atebol iddo os yw'n methu â chydymffurfio â gofynion o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth gyffredinol am gosbau.