RHAN 2Monitro
Awdurdod monitro
3.—(1) Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod monitro at ddibenion y targedau.
(2) Rhaid i'r awdurdod monitro—
(a)monitro perfformiad awdurdodau lleol mewn cysylltiad â'r targedau:
(b)monitro perfformiad awdurdodau lleol wrth iddynt gydymffurfio â'u rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn;
(c)yn unol â rheoliad 7, ddilysu'r wybodaeth a gofnodir gan awdurdodau lleol ar y system WasteDataFlow; ac
(ch)yn ddi-oed hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, o unrhyw achos lle y mae'n ymddangos i'r awdurdod monitro bod awdurdod lleol(1) yn atebol neu gallai fod yn atebol i gosb o dan adran 3(7) o'r Mesur neu o dan y Rheoliadau hyn.
Rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol i gasglu gwybodaeth a chadw cofnodion
4.—(1) Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu i'r awdurdod gydymffurfio â'r gofynion sydd ganddo i gadw cofnodion o dan y rheoliad hwn.
(2) Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn ariannol darged ac am bob blwyddyn ariannol ddilynol hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf(2)—
(a)cyfanswm ei wastraff trefol(3);
(b)cyfanswm y gwastraff trefol a anfonwyd i bob cyfleuster gwastraff gan yr awdurdod lleol;
(c)y swm o ddeunyddiau a wrthodwyd ym mhob cam olynol wrth sortio ei gwastraff trefol, yn unrhyw un o'r cyfleusterau ac ym mhob un ohonynt; ac
(ch)y swm o ddeunyddiau a wrthodwyd o dan baragraff (c) a waredir gan yr awdurdod lleol, neu gan gyfleuster gwastraff.
(3) Rhaid i'r cofnod gynnwys manylion am y canlynol—
(a)disgrifiad o'r gwastraff o ran y math o ddeunyddiau sydd ynddo;
(b)sut y casglwyd pob un o'r gwahanol fathau o ddeunyddiau; ac
(c)os casglwyd y gwastraff gan asiant i'r awdurdod lleol, enw'r asiant hwnnw.
(4) Rhaid cadw'r cofnodion am gyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y cyflwynir y cofnodion yn gyntaf drwy ddefnyddio'r system WasteDataFlow yn unol â rheoliad 5(2).
(5) Caiff awdurdod lleol gadw'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw gan baragraff (2) ar ffurf electronig os yw'r awdurdod lleol yn gallu cynhyrchu'r testun ar ffurf dogfen weladwy a darllenadwy.
(6) Mae awdurdod lleol sy'n methu â chadw'r cofnodion sy'n ofynnol gan baragraff (2) yn atebol i gosb.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “sortio” yw'r weithred o wahanu deunyddiau ailgylchu unigol o swm o wastraff cymysg neu ddeunyddiau cymysg.
(8) Yn y rheoliad hwn, caiff gwastraff trefol ei “waredu” pan fo'n mynd drwy weithred gwaredu o fath a ddynodir yn Atodiad I o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.
Rhwymedigaeth awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth
5.—(1) Yn ystod pob blwyddyn ariannol darged a phob blwyddyn ariannol ddilynol hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ffurflenni wedi eu cwblhau sy'n cynnwys yr holl wybodaeth a restrir yn rheoliadau 4(2) a (3) (“yr wybodaeth”) i'r awdurdod monitro.
(2) Rhaid i bob ffurflen wedi ei chwblhau—
(a)gynnwys yr wybodaeth ar gyfer y cyfnod perthnasol o 3 mis;
(b)gael ei dychwelyd o fewn un mis calendr ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 3 mis; ac
(c)gael ei chyflwyno drwy ddefnyddio'r system WasteDataFlow.
(3) Y cyfnodau perthnasol o 3 mis yw—
(a)1 Ebrill hyd 30 Mehefin;
(b)1 Gorffennaf hyd 30 Medi;
(c)1 Hydref hyd 31 Rhagfyr;
(ch)1 Ionawr hyd 31 Mawrth.
(4) Mae awdurdod lleol sy'n methu â chyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau yn unol â'r rheoliad hwn yn atebol i gosb.
Y pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol
6.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, neu'r awdurdod monitro, drwy hysbysiad a gyflwynir i awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod hwnnw—
(a)dangos unrhyw gofnodion ar gyfer eu harolygu, neu eu symud ar gyfer eu harolygu yn rhywle arall, sef y cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan reoliad 4;
(b)rhoi gwybodaeth neu dystiolaeth am faterion sy'n gysylltiedig â rhwymedigaeth yr awdurdod lleol i gyrraedd y targedau a'i rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn;
(2) Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn y ffurf ac o fewn unrhyw amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig.
(4) Mae awdurdod lleol sy'n methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad yn atebol i gosb.
Dilysu gan awdurdod monitro
7.—(1) O fewn tri mis ar ôl y dyddiad y mae'n ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau o dan reoliad 5(2)(b), rhaid bod yr awdurdod monitro wedi cwblhau dilysu'r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol ar y system WasteDataFlow.
(2) Os yw awdurdod lleol yn methu â chyflwyno ffurflen wedi ei llenwi yn unol â'r amserlen a bennir yn rheoliad 5(2)(b), rhaid i'r awdurdod monitro gwblhau dilysiad o'r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol ar y system WasteDataFlow o fewn tri mis ar ôl dyddiad pryd y cyflwynir y ffurflen wedi ei chwblhau.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “dilysu” yw—
(a)gwirio bod yr holl awdurdodau lleol wedi cyflwyno data yn unol â'u rhwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 5; a
(b)cysoni unrhyw ddata anghywir neu anghyson sydd wedi cael ei gyflwyno.
Asesu cydymffurfedd â'r targedau
8.—(1) Rhaid i'r awdurdod monitro o fewn pum mis calendr ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol darged, a phob blwyddyn ariannol sy'n dilyn hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf ddarparu i Weinidogion Cymru—
(a)ei wybodaeth fonitro; a
(b)adroddiad sy'n cynnwys yr wybodaeth a roddir ym mharagraff (3).
(2) Rhaid i'r wybodaeth fonitro a'r adroddiad gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf.
(3) Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)cyfanswm y gwastraff trefol sydd wedi dod i fodolaeth ar gyfer pob awdurdod lleol;
(b)cyfanswm y gwastraff trefol a ddilyswyd gan yr awdurdod monitro sydd wedi cael ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio, a'i gompostio;
(c)y cyfraddau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio ar gyfer pob awdurdod lleol;
(ch)y gwahaniaeth rhwng swm targed y cyfraddau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a'r gyfradd wirioneddol y mae pob awdurdod lleol yn ei gyrraedd; a
(d) y gwahaniaeth rhwng swm targed y cyfraddau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a'r gyfradd wirioneddol y mae'r holl awdurdodau lleol, yn eu cyfanrwydd, yn ei gyrraedd.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “gwybodaeth fonitro” yw gwybodaeth neu dystiolaeth a geir gan yr awdurdod monitro wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan reoliad 3(2).
Diffinnir awdurdod lleol o dan adran 17(1) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 yn gyngor sir neu'n gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
Rhoddir y blynyddoedd ariannol targed yn adran 3(3) o'r Mesur. Ysytyr blwyddyn ariannol yn ôl y diffiniad yn adran 3(9) o'r Mesur yw cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.
Diffinnir gwastraff trefol awdurdod lleol o dan adran 3(8) o'r Mesur fel maint cyfan yn ôl pwysau o'r holl wastraff a gasglwyd yn y flwyddyn honno gan awdurdod lleol o dan adran 45 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43); yr holl wastraff a ollyngwyd yn y flwyddyn honno gan awdurdod lleol o dan is-adrannau (1)(b) a (3) o adran 51 o'r Ddeddf honno; ac unrhyw wastraff arall a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.