2011 Rhif 1064 (Cy.155)
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adrannau 153(2) a 207(4) o Ddeddf Cydraddoldeb 20101.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol yn unol ag adran 153(4) o'r Ddeddf honno.
Cafodd drafft o'r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 209(6) o'r Ddeddf honno.
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau hyn, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwysoI11
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol ) (Cymru) 2011.
2
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.
DehongliI22
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau” (“gender pay equality objective”) yw amcan cydraddoldeb—
- i
sy'n ymwneud â'r angen i fynd i'r afael ag achosion unrhyw wahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau; ac
- ii
y mae'r awdurdod wedi ei gyhoeddi;
- i
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac mae “awdurdodau” (“authorities”) i'w dehongli yn unol â hynny;
mae “cyflogaeth”, “cyflogeion” a “personau a gyflogir” i'w dehongli yn unol ag ystyr (“employment”), (“employees”) a (“persons employed”) yn ôl eu trefn yn adran 83 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010;
ystyr “cyfnod adrodd” (“reporting period”) yw'r cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth ac eithrio mewn perthynas â'r cyfnod adrodd sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2012 ac, yn yr achos hwnnw, ystyr “cyfnod adrodd” yw'r cyfnod o 6 Ebrill 2011 i 31 Mawrth 2012;
ystyr “dyddiad perthnasol (“relevant date”) yw 31 Mawrth;
ystyr “y ddyletswydd gyffredinol” (“the general duty”) yw'r ddyletswydd yn adran 149(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010;
ystyr “gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau” (“gender pay difference”) yw unrhyw wahaniaeth rhwng cyflog—
- i
menyw a dyn; neu
- ii
menywod a dynion,
- i
a gyflogir gan awdurdod a phan fo'r amod cyntaf neu'r ail amod yn cael ei fodloni.
Yr amod cyntaf yw bod y gwahaniaeth yn wahaniaeth am reswm sy'n gysylltiedig â nodwedd warchodedig rhyw.
Yr ail amod yw ei bod yn ymddangos yn rhesymol debyg i'r awdurdod bod y gwahaniaeth yn wahaniaeth am reswm sy'n gysylltiedig â nodwedd warchodedig rhyw;
ystyr “gwybodaeth berthnasol” (“relevant information”) yw gwybodaeth sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth (neu ddiffyg cydymffurfiaeth) yr awdurdod â'r ddyletswydd gyffredinol.
Amcanion cydraddoldebI33
1
Rhaid i awdurdod gyhoeddi amcanion a lunnir i'w alluogi i gyflawni'r ddyletswydd gyffredinol yn well.
2
Rhaid i'r awdurdod hefyd —
a
cyhoeddi datganiad sy'n nodi—
i
y camau y mae wedi eu cymryd neu'n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni pob amcan; a
ii
pa mor hir y mae'r awdurdod yn disgwyl y bydd yn ei gymryd er mwyn cyflawni pob amcan;
b
gwneud unrhyw drefniadau y mae'n credu eu bod yn briodol i fonitro'r cynnydd y mae'n ei wneud a pha mor effeithiol yw'r camau y mae'n eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion cydraddoldeb.
Yn y Rheoliadau hyn cyfeirir at yr amcanion hyn fel “amcanion cydraddoldeb”.
3
Os na fydd awdurdod yn cyhoeddi amcan cydraddoldeb mewn perthynas ag un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig, rhaid iddo gyhoeddi ei resymau dros ei benderfyniad i beidio â gwneud hynny.
4
Mae paragraff (3) yn gymwys hyd yn oed os yw awdurdod yn cyhoeddi amcan cydraddoldeb at y diben y cyfeirir ato yn rheoliad 11(1) (ac oherwydd hynny mae amcan o'r fath i'w anwybyddu at ddiben paragraff (3)).
Paratoi ac adolygu etc. amcanion cydraddoldebI44
1
Wrth ystyried pa amcanion cydraddoldeb y dylai eu harddel ac wrth lunio unrhyw amcan cydraddoldeb (neu unrhyw ddiwygiad i amcan o'r fath) rhaid i'r awdurdod—
a
cydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu (gweler rheoliad 5); a
b
rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal.
2
Rhaid i awdurdod gydymffurfio â rheoliad 3(1) drwy gyhoeddi amcanion cydraddoldeb—
a
erbyn 2 Ebrill 2012 fan bellaf; a
b
ar ôl hynny fel y bo'n briodol yn ei farn ef.
3
Rhaid i awdurdod adolygu pob un o'i amcanion cydraddoldeb—
a
heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o bedair blynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr amcan gyntaf; a
b
bob hyn a hyn ar ôl hynny heb fod yr ysbeidiau rhwng yr adolygiadau yn hwyrach na diwedd y cyfnod o bedair blynedd sy'n dechrau ar ddyddiad yr adolygiad diwethaf o'r amcan.
4
Caiff awdurdod gynnal adolygiad o unrhyw un neu ragor o'i amcanion cydraddoldeb ar unrhyw adeg arall.
5
Caiff awdurdod ddiwygio amcan cydraddoldeb neu ei ail-wneud ar unrhyw bryd.
6
Os bydd awdurdod yn diwygio amcan heb ei ail-wneud, yna rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo modd ar ôl gwneud y diwygiad, gyhoeddi'r diwygiad neu'r amcan fel y'i diwygiwyd (fel y mae'n credu ei bod yn briodol).
7
Os bydd awdurdod yn gwneud unrhyw un neu rai o'r pethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) rhaid iddo naill ai ddiwygio'r datganiad a gyhoeddwyd ganddo o dan reoliad 3(2) neu gyhoeddi datganiad newydd.
Darpariaethau ymgysylltuI55
1
Cyfeirir at y darpariaethau ym mharagraff (2) yn y Rheoliadau hyn fel “y darpariaethau ymgysylltu”.
2
Pan fo unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu wrth gyflawni unrhyw weithgaredd (gweler, er enghraifft, rheoliad 4(1)(a)), mae cydymffurfio â'r darpariaethau hynny'n golygu bod yr awdurdod wrth gyflawni'r gweithgaredd hwnnw—
a
yn gorfod cynnwys unrhyw bersonau y mae'r awdurdod yn credu—
i
eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig; a
ii
bod ganddynt fuddiant yn y modd y mae'r awdurdod yn cyflawni ei swyddogaethau;
b
yn cael cynnwys unrhyw bersonau eraill y mae'r awdurdod yn credu eu bod yn briodol; ac
c
yn cael ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'r awdurdod yn credu eu bod yn briodol.
3
Wrth ddod i benderfyniad o dan baragraff (2)(b) neu (c) rhaid i'r awdurdod roi sylw i'r angen i gynnwys neu i ymgynghori (yn ôl y digwydd), i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, â phersonau—
a
sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig; a
b
sydd â buddiant yn y ffordd y mae'r awdurdod yn cyflawni ei swyddogaethau.
Hygyrchedd gwybodaeth a gyhoeddirI66
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod ei chyhoeddi.
2
Rhaid i'r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddogfen neu'r wybodaeth yn hygyrch i bersonau sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig.
Trefniadau i gasglu etc. gwybodaeth am gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinolI77
1
Rhaid i awdurdod wneud unrhyw drefniadau y mae'n credu eu bod yn briodol i sicrhau ei fod, o dro i dro—
a
yn nodi'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal;
b
yn nodi ac yn casglu gwybodaeth berthnasol nad yw'n ei dal; ac
c
yn cyhoeddi'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal ac y mae'n credu y byddai'n briodol ei chyhoeddi.
I weld darpariaeth bellach am yr hyn y mae'n rhaid i'r trefniadau ei gynnwys, gweler hefyd reoliad 11(2).
2
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae awdurdod yn dal gwybodaeth berthnasol—
a
os yw'n cael ei dal gan yr awdurdod, heblaw ar ran person arall;
b
os yw'n cael ei dal gan berson arall ar ran yr awdurdod; neu
c
os yw'n cael ei dal gan yr awdurdod ar ran person arall ac—
i
bod y person hwnnw wedi cydsynio bod yr awdurdod yn cael defnyddio'r wybodaeth er mwyn i'r awdurdod gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn; neu
ii
bod defnydd yr awdurdod o'r wybodaeth er mwyn iddo gydymffurfio â'r dyletswyddau hynny yn bodloni'r amodau ym mharagraff (3).
3
Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(ii) yw—
a
nad yw defnydd yr awdurdod o'r wybodaeth yn groes i'r gyfraith; a
b
bod defnydd yr awdurdod o'r wybodaeth yn rhesymol, o roi sylw i'r holl amgylchiadau gan gynnwys, yn benodol, natur yr wybodaeth ac o dan ba amgylchiadau y cafodd yr awdurdod yr wybodaeth.
4
Mae nodi gwybodaeth berthnasol yn cynnwys nodi'r wybodaeth honno drwy gynnal asesiad i weld—
a
a oes pethau yn cael eu gwneud gan yr awdurdod sy'n cyfrannu at gydymffurfiaeth (neu ddiffyg cydymffurfiaeth) yr awdurdod â'r ddyletswydd gyffredinol; a
b
a oes pethau y gallai eu gwneud ac a fyddai'n debyg o gyfrannu at gydymffurfiaeth yr awdurdod â'r ddyletswydd honno.
5
Wrth gynnal asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4), rhaid i'r awdurdod—
a
cydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu; a
b
rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal.
6
Rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) sicrhau bod yr awdurdod, erbyn 2 Ebrill 2012 fan bellaf—
a
yn cynnal asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4); a
b
yn cyhoeddi'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal ac y mae'n credu ei bod yn briodol ei chyhoeddi.
Effaith polisïau ac arferion a'u monitroI88
1
Rhaid i awdurdod wneud unrhyw drefniadau y mae'n credu eu bod yn briodol—
a
i asesu effaith debygol ei bolisïau a'i arferion arfaethedig ar ei allu i gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol;
b
i asesu effaith
i
unrhyw bolisi neu arfer y mae'r awdurdod wedi penderfynu ei adolygu,
ii
unrhyw ddiwygiad y mae'r awdurdod yn bwriadu ei wneud i bolisi neu arfer,
ar ei allu i gydymffurfio â'r ddyletswydd honno;
c
i fonitro effaith ei bolisïau a'i arferion ar ei allu i gydymffurfio â'r ddyletswydd honno; ac
ch
i gyhoeddi adroddiadau mewn cysylltiad ag unrhyw asesiad—
i
y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) neu (b); a
ii
sy'n dangos bod yr effaith neu'r effaith debygol (yn ôl y digwydd) ar allu'r awdurdod i gydymffurfio â'r ddyletswydd honno yn sylweddol.
2
Rhaid i adroddiadau o dan baragraff (1)(ch) nodi, yn benodol—
a
diben—
i
y polisi neu'r arfer arfaethedig;
ii
y polisi neu'r arfer; neu
iii
y diwygiad arfaethedig i bolisi neu arfer
a gafodd ei asesu;
b
crynodeb o'r camau y mae'r awdurdod wedi eu cymryd i gynnal yr asesiad;
c
crynodeb o'r wybodaeth y mae'r awdurdod wedi ei chymryd i ystyriaeth yn yr asesiad;
ch
canlyniadau'r asesiad; a
d
unrhyw benderfyniadau a wnaed gan yr awdurdod mewn perthynas â'r canlyniadau hynny.
3
Wrth gynnal asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b), rhaid i'r awdurdod—
a
cydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu; a
b
rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal.
Hyfforddiant a chasglu gwybodaeth am gyflogaethI99
1
Rhaid i awdurdod, ym mhob blwyddyn, gasglu'r wybodaeth a ganlyn—
a
nifer y personau a gyflogir gan yr awdurdod ar y dyddiad perthnasol yn y flwyddyn honno;
b
nifer y personau a gyflogir gan yr awdurdod ar y dyddiad hwnnw yn ôl—
i
swydd;
ii
gradd, ond dim ond pan fo awdurdod yn gweithredu system graddau mewn cysylltiad â'i gyflogeion;
iii
cyflog;
iv
y math o gontract (gan gynnwys contractau parhaol a chyfnod penodol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny); a
v
y patrwm gwaith (gan gynnwys trefniadau gweithio llawnamser, rhan-amser a threfniadau gweithio hyblyg eraill ond heb fod yn gyfyngedig i hynny).
c
nifer y canlynol, yn ystod y cyfnod adrodd sy'n diweddu ar y dyddiad perthnasol yn y flwyddyn honno—
i
personau sydd wedi gwneud cais am gyflogaeth gyda'r awdurdod (heb gynnwys personau sydd eisoes wedi eu cyflogi gan yr awdurdod);
ii
cyflogeion yr awdurdod sydd wedi newid swydd yn yr awdurdod gan gynnwys y nifer a wnaeth gais am newid swydd a'r nifer a fu'n llwyddiannus (neu fel arall) yn eu cais;
iii
cyflogeion yr awdurdod sydd wedi gwneud cais am hyfforddiant a'r nifer a fu'n llwyddiannus (neu fel arall) yn eu cais;
iv
cyflogeion yr awdurdod a gwblhaodd yr hyfforddiant;
v
cyflogeion yr awdurdod a fu neu sydd yn rhan o weithdrefnau cwyno naill ai am mai hwy yw'r person a wnaeth gyhuddiad yn erbyn un arall neu am mai hwy yw'r person y gwnaed cyhuddiad yn ei erbyn;
vi
cyflogeion yr awdurdod a fu neu sydd yn destun achos disgyblu; a
vii
cyflogeion yr awdurdod a ymadawodd â chyflogaeth yr awdurdod.
2
Ym mharagraff (1) (ac eithrio paragraff (1)(b)) mae unrhyw gyfeiriad at nifer y personau neu'r cyflogeion yn cynnwys, mewn cysylltiad â phob un o'r nodweddion gwarchodedig, y niferoedd sy'n rhannu'r nodwedd warchodedig.
3
Ym mharagraff (1)(b) mae'r cyfeiriad at nifer y personau a gyflogir yn cynnwys, mewn cysylltiad â nodwedd warchodedig rhyw, y nifer sydd yn fenywod a'r nifer sydd yn ddynion.
4
Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r wybodaeth y mae wedi ei chasglu yn unol â pharagraffau (1), (2) a (3).
5
Nid oes dim yn y rheoliad hwn y mae awdurdod i'w ddibynnu arno yn y fath fodd ag i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i'r awdurdod.
6
Mae paragraff (5) yn gymwys—
a
i unrhyw gyflogai i'r awdurdod; a
b
i unrhyw berson sy'n gwneud cais am gyflogaeth gyda'r awdurdod.
I1010
Rhaid i awdurdod wneud unrhyw drefniadau y mae'n credu eu bod yn briodol—
a
i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth ymhlith ei gyflogeion o'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn; a
b
i ddefnyddio ei weithdrefnau asesu perfformiad (os oes ganddo rai) i nodi anghenion hyfforddi ei gyflogeion mewn perthynas â'r dyletswyddau hynny ac i fynd i'r afael â hwynt.
Cyflog a chynlluniau gweithreduI1111
1
Rhaid i awdurdod, pan fydd yn ystyried beth ddylai ei amcanion cydraddoldeb fod, roi sylw dyladwy i'r angen i gael amcanion cydraddoldeb sy'n mynd i'r afael ag achosion unrhyw wahaniaethau rhwng cyflog unrhyw berson neu bersonau a gyflogir gan yr awdurdod (“P”) (yn ôl y digwydd)—
a
sydd â nodwedd warchodedig;
b
sydd yn rhannu nodwedd warchodedig,
a'r rheini nad oes ganddynt neu nad ydynt yn rhannu nodwedd o'r fath, pan fo'r amod cyntaf neu'r ail amod yn cael ei fodloni.
Yr amod cyntaf yw bod y gwahaniaeth yn wahaniaeth am reswm sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod gan P nodwedd warchodedig neu ei fod yn rhannu'r nodwedd warchodedig honno (yn ôl y digwydd).
Yr ail amod yw ei bod yn ymddangos yn rhesymol debyg i'r awdurdod bod y gwahaniaeth yn wahaniaeth am reswm sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod gan P nodwedd warchodedig neu ei fod yn rhannu'r nodwedd warchodedig honno (yn ôl y digwydd).
2
Rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(1) gynnwys hefyd drefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth ynghylch—
a
unrhyw wahaniaethau rhwng cyflog personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1); a
b
achosion unrhyw wahaniaethau o'r fath.
3
Os yw awdurdod—
a
yn unol â pharagraff (1), wedi nodi unrhyw wahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau; a
b
heb gyhoeddi amcan cydraddoldeb i fynd i'r afael ag achosion y gwahaniaeth hwnnw,
rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r rhesymau dros ei benderfyniad i beidio â chyhoeddi amcan o'r fath.
I1212
1
Rhaid i awdurdod gyhoeddi cynllun gweithredu sy'n gosod—
a
unrhyw bolisi sydd gan yr awdurdod sy'n ymwneud â'r angen i fynd i'r afael ag achosion unrhyw wahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau;
a
unrhyw amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau a gyhoeddwyd ganddo;
b
unrhyw ddiwygiad i amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau neu unrhyw amcan diwygiedig o ran cyflog cyfartal rhwng y rhywiau y mae'n ofynnol iddo ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 4(6);
ch
gwybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei chyhoeddi yn unol â rheoliad 3(2)(a) mewn cysylltiad ag unrhyw amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau;
c
unrhyw resymau y mae'n ofynnol iddo eu cyhoeddi yn unol â rheoliad 11(3).
2
Os bydd awdurdod, mewn perthynas ag unrhyw amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau, yn gwneud unrhyw un neu ragor o'r pethau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(5), rhaid iddo naill ai ddiwygio'r cynllun gweithredu a gyhoeddwyd ganddo neu gyhoeddi cynllun gweithredu newydd.
Adolygu etc. trefniadauI1313
1
Rhaid i awdurdod adolygu'n barhaus y trefniadau y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.
2
Caiff awdurdod, ar unrhyw adeg, ddiwygio'r trefniadau y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt neu eu hail-wneud.
3
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i drefniadau y mae'r awdurdod wedi eu gwneud i gydymffurfio â'r canlynol—
i
rheoliad 3(2)(b);
ii
rheoliad 7(1);
iii
rheoliad 8(1); a
iv
rheoliad 10.
Cynlluniau Strategol CydraddoldebI1414
1
Erbyn 2 Ebrill 2012 fan bellaf, rhaid i awdurdod wneud Cynllun Strategol Cydraddoldeb (CSC).
2
Rhaid i'r CSC gynnwys datganiad sy'n nodi—
a
disgrifiad o'r awdurdod;
b
amcanion cydraddoldeb yr awdurdod;
c
mewn perthynas â phob un o'r amcanion hynny—
i
y camau y mae'r awdurdod wedi eu cymryd neu'n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni'r amcan; a
ii
pa mor hir y mae'r awdurdod yn disgwyl y bydd yn ei gymryd er mwyn cyflawni'r amcan; ac
ch
y trefniadau y mae wedi eu gwneud neu'n bwriadu eu gwneud i gydymffurfio â'r canlynol—
i
rheoliad 3(2)(b);
ii
rheoliad 7(1);
iii
rheoliad 8(1); a
iv
rheoliad 10 a
d
cynllun gweithredu yr awdurdod y cyfeirir ato yn rheoliad 12.
3
Caiff yr CSC gynnwys unrhyw faterion eraill sy'n berthnasol ar gyfer cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol fel y bo'r awdurdod yn credu eu bod yn briodol.
4
Caiff yr awdurdod ddiwygio'i CSC neu ei ail-wneud ar unrhyw adeg.
Paratoi, cyhoeddi ac adolygu CSCauI1515
1
Wrth wneud CSC, ei ail-wneud neu ei ddiwygio rhaid i'r awdurdod—
a
cydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu; a
b
rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal.
2
Rhaid i awdurdod gyhoeddi ei CSC cyn gynted ag y bo modd ar ôl i'r CSC gael ei wneud neu ei ail-wneud.
3
Os bydd awdurdod yn diwygio'i CSC heb ei ail-wneud yna rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo modd ar ôl gwneud y diwygiadau, gyhoeddi'r diwygiadau neu'r CSC fel y'i diwygiwyd (fel y mae'n credu ei bod yn briodol).
4
Caiff awdurdod gydymffurfio â'r ddyletswydd i gyhoeddi ei CSC drwy nodi'r CSC fel rhan o ddogfen gyhoeddedig arall neu mewn nifer o ddogfennau cyhoeddedig eraill.
At ddibenion y paragraff hwn mae “CSC” yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i'r CSC.
5
Rhaid i'r awdurdod adolygu'n barhaus—
a
ei CSC; a
b
unrhyw ddiwygiadau a wnaed i'r CSC.
6
Wrth gydymffurfio â'r ddyletswydd ym mharagraff (5), rhaid i'r awdurdod roi sylw dyladwy—
i
i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal; a
ii
i unrhyw wybodaeth arall y mae'r awdurdod yn credu y byddai'n debyg o'i gynorthwyo yn yr adolygiad.
Adroddiadau gan awdurdodau ar gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinolI1616
1
Rhaid i awdurdod, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, gyhoeddi adroddiad heb fod yn hwyrach na'r dyddiad perthnasol yn y flwyddyn yn dilyn y flwyddyn y mae'r cyfnod adrodd hwnnw'n diweddu ynddi.
2
Rhaid i'r adroddiad nodi—
a
y camau y mae'r awdurdod wedi eu cymryd i nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol;
b
mewn cysylltiad â gwybodaeth berthnasol y mae'n ei dal, sut y mae'r awdurdod wedi defnyddio'r wybodaeth honno er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn;
c
rhesymau'r awdurdod dros beidio â chasglu unrhyw wybodaeth berthnasol y mae wedi ei nodi ond nad yw'n ei dal;
ch
y cynnydd y mae'r awdurdod wedi ei wneud er mwyn cyflawni pob un o'i amcanion cydraddoldeb.
d
datganiad gan yr awdurdod ar effeithiolrwydd y canlynol—
i
ei drefniadau er gyfer nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol; a
ii
y camau y mae wedi eu cymryd er mwyn cyflawni pob un o'i amcanion cydraddoldeb; ac
dd
yr wybodaeth y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei chyhoeddi o dan reoliad 9(4) oni bai bod yr awdurdod eisoes wedi cyhoeddi'r wybodaeth honno.
3
Caiff yr awdurdod, os yw'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny, gynnwys mewn adroddiad unrhyw fater arall sy'n berthnasol ar gyfer cydymffurfiaeth yr awdurdod â'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn.
4
Caiff yr awdurdod gydymffurfio â'r ddyletswydd i gyhoeddi adroddiad o dan baragraff (1) drwy osod ei adroddiad (gan gynnwys unrhyw fater y cyfeirir ato ym mharagraff (3)) fel rhan o ddogfen gyhoeddedig arall neu o fewn nifer o ddogfennau cyhoeddedig eraill.
Adroddiadau gan Weinidogion Cymru ar gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol etc. gan awdurdodauI1717
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol â pharagraff (2), gyhoeddi adroddiadau sy'n rhoi trosolwg o'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau tuag at gydymffurfio eu hunain â'r ddyletswydd gyffredinol.
2
Rhaid i adroddiadau o dan baragraff (1)
a
cael eu cyhoeddi—
i
erbyn 31 Rhagfyr 2014 fan bellaf; a
ii
bob hyn a hyn ar ôl hynny heb fod yr ysbeidiau rhwng yr adroddiadau yn hwyrach na diwedd pob cyfnod olynol o bedair blynedd gan ddechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diwethaf arno yn unol â'r is-baragraff hwn; a
b
cael eu cyhoeddi
i
erbyn 31 Rhagfyr 2016 fan bellaf; a
ii
bob hyn a hyn ar ôl hynny heb fod yr ysbeidiau rhwng yr adroddiadau yn hwyrach na diwedd pob cyfnod olynol o bedair blynedd gan ddechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diwethaf arno yn unol â'r is-baragraff hwn.
3
Rhaid i adroddiadau o dan baragraff (1), ac eithrio'r adroddiadau cyntaf yn unol â pharagraff (2)(a)(i) a (b)(i), gwmpasu'r cyfnod ers y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diwethaf o dan baragraff (2)(b).
4
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad, erbyn 31 Rhagfyr 2011 fan bellaf —
a
yn nodi trosolwg o'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau tuag at gydymffurfio eu hunain â'r ddyletswydd gyffredinol i'r graddau y mae'n ymwneud â phersonau sy'n rhannu nodwedd warchodedig anabledd; a
b
gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cyfnod o 2 Rhagfyr 2008 i 5 Ebrill 2011 y byddai wedi bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ei chynnwys mewn adroddiad o dan reoliad 5 o Reoliadau Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Awdurdodau Cyhoeddus) (Dyletswyddau Statudol) 20052 yn rhinwedd rheoliad 5(2)a o'r rheoliadau hynny petai'r rheoliadau hynny mewn grym.
5
Rhaid i adroddiadau o dan y rheoliad hwn nodi hefyd gynigion Gweinidogion Cymru ynglŷn â chydlynu camau gan awdurdodau mewn modd a fydd yn sicrhau rhagor o gynnydd tuag at gydymffurfiaeth yr awdurdodau hynny â'r ddyletswydd gyffredinol.
Caffael cyhoeddusI1818
1
Pan fo awdurdod sy'n awdurdod contractio yn bwriadu gwneud cytundeb perthnasol ar sail y cynnig mwyaf manteisiol yn economaidd, rhaid iddo roi sylw dyladwy i'r cwestiwn a ddylai'r meini prawf ynglŷn â dyfarnu gynnwys ystyriaethau sy'n berthnasol i'r modd y mae'n cyflawni'r ddyletswydd gyffredinol.
2
Pan fo awdurdod sy'n awdurdod contractio yn bwriadu pennu amodau ynglŷn â chyflawni cytundeb perthnasol, rhaid iddo roi sylw dyladwy i'r cwestiwn a ddylai'r amodau gynnwys ystyriaethau sy'n berthnasol i sut mae'n cyflawni'r ddyletswydd gyffredinol.
3
Yn y rheoliad hwn—
mae i “awdurdod contractio”, “cytundeb fframwaith” a “contractau cyhoeddus” yr un ystyr â (“contracting authority”), (“framework agreement”) a (“public contracts”) yn y drefn honno yn y Gyfarwyddeb Sector Cyhoeddus3; ac
ystyr “cytundeb perthnasol” (“relevant agreement”) yw contract cyhoeddus sydd wedi ei ddyfarnu neu gytundeb fframwaith sydd wedi ei gwblhau a'r naill neu'r llall yn un sy'n cael ei reoleiddio gan y Gyfarwyddeb Sector Cyhoeddus.
Cydymffurfio â dyletswyddau gan Weinidogion Cymru etc.I1919
Pan fo'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru baratoi CSC, cyhoeddi adroddiad neu wneud unrhyw beth arall, cânt gydymffurfio â'r ddyletswydd drwy weithredu ar y cyd.
Datgelu gwybodaethI2020
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn i'w gymryd fel petai'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gyhoeddi gwybodaeth—
a
petai gwneud hynny'n gyfystyr â thorri—
i
cyfrinachedd mewn modd y gallai unrhyw berson fynd i gyfraith yn ei gylch; neu
ii
Deddf Diogelu Data 19984; neu
b
petai gan yr awdurdod hawl i wrthod dangos yr wybodaeth mewn achos neu at ddibenion achos mewn llys neu dribiwnlys yng Nghymru a Lloegr.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)