Caffael cyhoeddusI118

1

Pan fo awdurdod sy'n awdurdod contractio yn bwriadu gwneud cytundeb perthnasol ar sail y cynnig mwyaf manteisiol yn economaidd, rhaid iddo roi sylw dyladwy i'r cwestiwn a ddylai'r meini prawf ynglŷn â dyfarnu gynnwys ystyriaethau sy'n berthnasol i'r modd y mae'n cyflawni'r ddyletswydd gyffredinol.

2

Pan fo awdurdod sy'n awdurdod contractio yn bwriadu pennu amodau ynglŷn â chyflawni cytundeb perthnasol, rhaid iddo roi sylw dyladwy i'r cwestiwn a ddylai'r amodau gynnwys ystyriaethau sy'n berthnasol i sut mae'n cyflawni'r ddyletswydd gyffredinol.

3

Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “awdurdod contractio”, “cytundeb fframwaith” a “contractau cyhoeddus” yr un ystyr â (“contracting authority”), (“framework agreement”) a (“public contracts”) yn y drefn honno yn y F1Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015; ac

  • ystyr “cytundeb perthnasol” (“relevant agreement”) yw contract cyhoeddus sydd wedi ei ddyfarnu neu gytundeb fframwaith sydd wedi ei gwblhau a'r naill neu'r llall yn un sy'n cael ei reoleiddio gan y F1Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.