Dewisiadau disgybl o gyrsiau cwricwlwm lleol
4. Ni chaiff disgybl ddewis dilyn cwrs neu gyfuniad o gyrsiau astudio o fewn cwricwlwm lleol os yw cyfanswm pwyntiau'r cwrs hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o gyrsiau astudio yn fwy na 200 o bwyntiau heb gynnwys unrhyw bwyntiau a ddyrannwyd i gwrs neu gyrsiau astudio sy'n arwain at gymhwyster sgil allweddol neu gymhwyster bagloriaeth Cymru y mae disgybl wedi dewis ei ddilyn neu eu dilyn.