- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
25 Ionawr 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Ionawr 2011
Yn dod i rym
18 Chwefror 2011
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2011.
2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ddiwedd rheoliad 4 mewnosoder—
“(7) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau i'w cymryd fel cyfeiriad at 378 o sesiynau mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2010-2011 a'r flwyddyn ysgol 2011-2012.”.
(3) Yn lle rheoliad 5, rhodder—
“5.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2010-2011 a gaiff ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy'n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), neu baratoi a chynllunio, ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir.
(2) Bydd paragraff (1) yn effeithiol o ran dim mwy na phedair sesiwn ysgol yn nhrydydd tymor y flwyddyn ysgol y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddi.
(3) Os caiff ysgol, yn ystod tymor cyntaf neu ail dymor y flwyddyn ysgol y mae paragraff (1) yn gymwys iddi, ei hatal rhag cyfarfod oherwydd tywydd gwael, mae nifer y sesiynau ysgol y darperir ar eu cyfer ym mharagraff (2), sef pedair sesiwn, i'w leihau ar gyfer y flwyddyn honno â nifer y sesiynau ysgol pan nad oedd yr ysgol yn gallu cyfarfod (hyd at uchafswm o bedair).
(4) Pan fo paragraff (1) yn gymwys o ran sesiwn ysgol, mae'r sesiwn honno i'w hystyried at ddibenion rheoliad 4 yn sesiwn pryd yr oedd yr ysgol wedi cyfarfod.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
25 Ionawr 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac i ysgolion arbennig (os cynhelir hwy felly ai peidio). Maent yn darparu (ymhlith pethau eraill) ar gyfer diwrnod ysgol sydd fel arfer i'w rannu'n ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), a bod ysgolion (nad ydynt yn ysgolion meithrin) yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod paragraff newydd yn rheoliad 4 o Reoliadau 2003 i leihau'r nifer lleiaf o sesiynau ysgol y mae'n rhaid eu cynnal yn y blynyddoedd ysgol 2010-2011 a 2011-2012 o 380 i 378. Yn lle'r hen reoliad 5 yn Rheoliadau 2003 mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhoi rheoliad 5 newydd sydd, yn fras, yn darparu bod hyd at bedair sesiwn yn y flwyddyn ysgol 2010-2011 i'w cyfrif fel sesiynau pryd yr oedd yr ysgol wedi cyfarfod os oeddent wedi eu neilltuo i ddarparu hyfforddiant, neu i baratoi a chynllunio, ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir.
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr “regulations” a “prescribed” gweler adran 579(1).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 2003/3231 (Cy.311), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/1262 (Cy.119) ac O.S. 2008/1739 (Cy.171).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: