Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1504 (Cy.176)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (Diddymu) 2011

Gwnaed

14 Mehefin 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Mehefin 2011

Yn dod i rym

1 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf honno, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”)(3) wedi cydsynio i drosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri (“Barry College Further Education Corporation”)(4) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (“Coleg Glan Hafren Further Education Corporation”)(5).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri (“Barry College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (“Coleg Glan Hafren Further Education Corporation”), yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (Diddymu) 2011 a daw i rym ar 1 Awst 2011.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

Diddymu a throsglwyddo

3.  Ar 1 Awst 2011 mae pob un o'r Hen Gorfforaethau wedi eu diddymu ac mae eu holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau wedi eu trosglwyddo yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”), sef corff corfforaethol sydd wedi ei sefydlu at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.

Trosglwyddo Staff

4.  Mae adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan yr Hen Gorfforaethau yn union cyn 1 Awst 2011 fel petai cyfeiriadau yn yr adran honno—

(a)at berson y mae'r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson sy'n gyflogedig fel hynny;

(b)at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Awst 2011;

(c)at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at unrhyw un o'r Hen Gorfforaethau sy'n cyflogi'r person yn union cyn 1 Awst 2011; ac

(ch)at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”).

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

14 Mehefin 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r corfforaethau addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg y Barri (“Barry College”) a Choleg Glan Hafren a hynny'n effeithiol o 1 Awst 2011 ymlaen. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau pob corfforaeth i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”) ac mae'n diogelu hawliau cyflogaeth cyflogeion y corfforaethau a ddiddymwyd drwy gymhwyso, gydag addasiadau, adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”).

Effaith cymhwyso adran 26(2) i (4) o'r Ddeddf yw cadw contractau cyflogaeth cyflogeion y corfforaethau a ddiddymwyd fel petai'r contractau cyflogaeth wedi cael eu gwneud yn wreiddiol rhwng y cyflogeion hynny a Chorfforaeth Addysg Bellach Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”). Daw cyflogeion y corfforaethau a ddiddymwyd yn gyflogeion Corfforaeth Addysg Bellach Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”) o 1 Awst 2011 ymlaen.

Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.

(1)

1992 p.13; Diwygiwyd adran 27 gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238), paragraffau 13 a 16(a) i (c) o Atodlen 1; gan Orchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/1080), paragraffau 18 a 19(a) a (b) o Atodlen 1; gan Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (p.25), paragraffau 6 a 8 o Atodlen 1; a chan Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007, Atodlen 2, ond adeg gwneud y Gorchymyn hwn nid yw'r apelau perthnasol yn Atodlen 2 wedi eu cychwyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), paragraff 30 o Atodlen 11.

(3)

A sefydlwyd gan Orchymyn Coleg Caerdydd a'r Fro (Corffori) 2011 (O.S. 2011/659 (Cy. 97)).

(4)

Sefydlwyd Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097).

(5)

Sefydlwyd Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097).