RHAN 4RHEOLI A RHEOLEIDDIO'R HARBWR
Y pŵer i garthu24.
(1)
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, caiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, ddyfnhau, carthu, sgwrio, glanhau, newid a gwella gwely, glannau a sianelau'r harbwr a'i ddynesfeydd, a chânt ffrwydro unrhyw graig o fewn yr ardal honno.
(2)
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, bydd unrhyw ddeunydd (ac eithrio unrhyw longddrylliad o fewn yr ystyr a roddir i “wreck” yn Rhan 9 o Ddeddf Llongau Masnach 199515) a godir wrth garthu neu a symudir ymaith o bryd i'w gilydd yn eiddo i'r Comisiynwyr, a chânt ei ddefnyddio, ei feddiannu neu'i waredu fel y tybiant yn briodol.
(3)
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, ni cheir dyddodi unrhyw ddeunyddiau a garthwyd islaw lefel y penllanw, ac eithrio yn y cyfryw fannau, ac yn unol â'r cyfryw amodau a chyfyngiadau, a gymeradwyir neu a ragnodir gan Weinidogion Cymru.